Deall y bwlch iechyd: Defnyddio Dadansoddiad Dadelfennu Blinder-Oaxaca fel Offeryn i Ddatrys Tegwch Iechyd
Mai 23, 2023
Ledled Cymru a’r byd, mae anghydraddoldeb iechyd yn parhau’n broblem sydd yn gysylltiedig â deinameg gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach a chymhleth. O ganlyniad, mae angen gweithredu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn y maes iechyd ar lefel strwythurol, gan gydnabod y cyfyngiadau sy’n effeithio ar allu a chyfle unigolyn neu gymuned i alluogi newid. Er bod ‘penderfynyddion cymdeithasol iechyd’ yn gysyniad sefydledig, mae dealltwriaeth lawn o gyfansoddiad y bwlch iechyd yn dibynnu ar gipio cyfraniadau perthnasol myrdd o ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol o fewn dadansoddiad meintiol.
Nod y dadansoddiad dadelfennu Blinder-Oaxacaoeddesbonio’r gwahaniaethau ym mynychder y canlyniadau hyn mewn grwpiau a drefnwyd mewn haenau ar sail eu gallu i gynilo o leiaf £10 y mis, p’un a oeddent yn byw mewn amddifadedd materol, a ph’un a oedd ganddynt salwch, anabledd neu wendid hirsefydlog cyfyngol. Yn ogystal â dadansoddi’r bylchau iechyd arwyddocaol a oedd yn bodoli yn y blynyddoedd cyn y pandemig COVID-19, mae hefyd wedi dangos pa benderfynyddion iechyd oedd fwyaf dylanwadol.
Mae deall y ffactorau sydd fwyaf cysylltiedig ag amrywiadau mewn iechyd yn allweddol i adnabod ysgogiadau polisi i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella iechyd a llesiant ar draws poblogaethau.
Y cyd-destun strategol
Mae Cymru’n ddylanwadydd byd-eang ym maes tegwch iechyd, fel y wlad gyntaf i gymhwyso fframwaith carreg filltir menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Ewropeaidd (HESRi) Sefydliad Iechyd y Byd (WHO). Drwy gymhwyso HESRi yng Nghymru, a gaiff ei adnabod fel Menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi), y nod yw darparu darlun deinamig cyfredol o annhegwch iechyd, y baich sy’n gysylltiedig â hynny, penderfynyddion a pholisïau cysylltiedig yng Nghymru er mwyn llywio datrysiadau a blaenoriaethu buddsoddi, yn ogystal â hwyluso deialog polisi traws-sectoraidd, llywodraeth gyfan a chymdeithas gyfan a gweithio tuag at Gymru Iachach, Fwy Cyfartal a Llewyrchus.
Mae WHESRi yn defnyddio fframwaith newydd i ddeall tegwch iechyd, yn seiliedig ar yr hyn a elwir yn ‘bum amod hanfodol’ ar gyfer bywyd iach, sef:
- Iechyd a gwasanaethau iechyd
- Iechyd a diogelwch incwm a diogelu cymdeithasol
- Iechyd ac amodau byw
- Iechyd a chyfalaf cymdeithasol a dynol
- Iechyd a chyflogaeth ac amodau gwaith
Beth yw dull dadelfennu Blinder-Oaxaca?
Mae dadansoddiad dadelfennu Blinder-Oaxaca yn ddull ystadegol o ddadansoddi, sy’n anelu at fesur y bwlch iechyd yng Nghymru, yn ogystal â rhoi gwell dealltwriaeth o’i brif ysgogwyr ar draws y pum amod hanfodol ar gyfer bywydau iach a llewyrchus i bawb.
Yn 2022, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru’r adroddiad Dylanwadu ar y Bwlch Iechyd yng Nghymru: Papur trafod dadansoddiad dadelfennu.Mae’r papur yn cyflwyno canfyddiadau dadansoddiad dadelfennu er mwyn sefydlu beth yw maint cymharol dylanwad pob un o’r pum amod hanfodol ar iechyd.
I ba gasgliadau y daethom?
Er gwaethaf rhai o gyfyngiadau dadansoddiad WHESRi, mae’r canlyniadau’n dangos bod bylchau iechyd sylweddol rhwng gwahanol grwpiau o’r boblogaeth cyn pandemig COVID-19, a bod y pandemig wedi gwaethygu’r bylchau hyn. Iechyd a Chyfalaf Cymdeithasol a Dynol, ac Iechyd a Diogelwch Incwm a Diogelu Cymdeithasol oedd yr amodau hanfodol oedd yn cyfrif am y bylchau iechyd mwyaf a nodwyd, a Gwasanaethau Iechyd oedd yn cyfrif am y lleiaf. Bylchau iechyd yn ymwneud â’r rhai a nododd salwch hirsefydlog, anabledd, neu wendid oedd yn parhau i fod y lleiaf eglur o ran y dull.
Er enghraifft, mae Ffigur 1 yn dangos, drwy ddadelfennu’r bwlch mewn achosion o iechyd teg/gwael rhwng y rhai sy’n gallu cynilo o leiaf £10/mis a’r rhai nad ydynt yn gallu gwneud hynny (11.5 pwynt canran o wahaniaeth), gellir esbonio 45.5% gan wahaniaethau systematig yn yr amodau hanfodol; ac mae 54.5% yn dal eu hesbonio. O’r elfen y gellir ei hegluro, Diogelwch Incwm a Diogelu Cymdeithasol a Chyfalaf Cymdeithasol a Dynol sy’n gyfrif am y cyfrannau mwyaf, sef 40.2% a 40.1%, yn y drefn honno; ac Amodau Byw (7.8%) a Gwasanaethau Iechyd (3.1%) sy’n cyfrif am y gyfran leiaf (Ffigur 1). [C1]
Ffigur 1. Dadelfennu’r bwlch ym mynychder iechyd gweddol/gwael rhwng y rhai a all gynilo o leiaf £10/mis, a’r rhai na allant gan ddefnyddio methodoleg Blinder-Oaxaca, oedolion nad ydynt yn bensiynwyr (16-65 oed), Cymru, 2016-17 i 2019-20
O ble y daeth y data?
Defnyddiodd y dadansoddiad ddata o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Casglwyd y data o 2016-17 i 2019-20, a oedd yn cynnwys ymatebion gan 46,189 o unigolion. Cafodd tri mesur iechyd hunangofnodedig, gan gynnwys, pa mor gyffredin yw iechyd teg/gwael, lles meddyliol gwae;, a boddhad bywyd isel eu casglu fel rhan o’r arolwg a defnyddiwyd y rhain i gymharu gwahanol grwpiau o’r boblogaeth.
Beth nesaf?
Mae adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dangos y gellir defnyddio dadansoddiad dadelfennu i ddeall yn well yr hyn sy’n sbarduno anghydraddoldebau iechyd. Gall y canfyddiadau lywio’r gwaith o weithredu polisïau, datrysiadau ac amrywiaeth o roi gwybodaeth i randdeiliaid amlsector sy’n ymwneud â mynd i’r afael â bylchau iechyd a rhoi mewnwelediadau i ranbarthau ledled y byd ar gyfer cymhwyso dull ystadegol i ddeall annhegwch iechyd yn well. Bydd Cymru’n parhau i gysylltu â rhanbarthau eraill sy’n gweithio ar yr HESRi i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n sbarduno anghydraddoldebau iechyd. Y cam nesaf yn y broses hon yw trafodaeth bwrdd crwn ar y dadansoddiad dadelfennu a hwyluswyd gan Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol. Cynhaliwyd y digwyddiad fel rhan o Wythnos Iechyd y Cyhoedd Ewropeaidd 2023.
Dylanwadu ar y Bwlch Iechyd: Safbwyntiau aml-wlad, gweminar a ddarparwyd fel rhan o Wythnos Iechyd y Cyhoedd Ewropeaidd, 2023
Mae menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi) wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar ddadansoddiadau dadelfennu menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd (HESRi), sy’n crynhoi gweminar aml-wlad ar ddulliau a chanfyddiadau o Gymru, yr Eidal a Slofenia. Roedd y weminar yn sesiwn a oedd yn canolbwyntio ar ddatrysiadau a oedd yn archwilio sut mae cymhwyso’r fethodoleg dadansoddiad dadelfennu arloesol wedi rhoi mewnwelediadau i’r hyn sy’n sbarduno anghydraddoldebau iechyd.
Nodau’r weminar oedd:
- Rhannu profiadau aml-wlad ar ddefnyddio’r fethodoleg dadelfennu a sut y gellir ei defnyddio fel adnodd i fesur tegwch iechyd;
- Helpu i lywio rhagor o weithredu ar bolisïau a datrysiadau posibl i leihau’r bwlch iechyd yng Nghymru a thu hwnt; a
- Chael mewnwelediad i’r camau nesaf posibl ar gyfer gweithredu gan ddefnyddio’r fethodoleg ymhlith rhanbarthau menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd.
Canfyddiad allweddol y weminar oedd bod angen cryfhau’r achos dros fuddsoddi mewn llesiant a thegwch iechyd yng Nghymru a thu hwnt drwy bolisïau a chamau gweithredu sy’n seiliedig ar ddatrysiadau a nodwyd drwy gydol y weminar.
- Recordiad o’r weminar
Deunydd darllen ychwanegol
- Dylanwadu ar y Bwlch Iechyd: Safbwyntiau Aml-wlad – Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (phwwhocc.co.uk)
- Dylanwadu ar y Bwlch Iechyd yng Nghymru: Papur trafod dadansoddiad dadelfennu – Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (icccgsib.co.uk)
- Esboniad manwl a chynrychiolaeth raffigol o ddull dadelfennu Blinder-Oaxaca gyda’i gymhwyso mewn anghydraddoldebau iechyd | Themâu sy’n Dod i’r Amlwg mewn Epidemioleg | Testun llawn (biomedcentral.com) (Saesneg yn unig)
- Menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd (who.int) (Saesneg yn unig)
- Set ddata tegwch iechyd (shinyapps.io) (Saesneg yn unig)