Mynd i'r cynnwys

Polisi

Trosolwg

Cenedl fach yw Cymru, ac eto mae ganddi hanes balch o edrych i’r tu allan ac o fod yn flaengar ac wedi’i hymrwymo i sicrhau datblygu cynaliadwy a ffyniant i bawb o fewn a thu hwnt i ffiniau Cymru. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a weithredwyd ar y cyd â nifer o gyfreithiau modern yng Nghymru, yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran yr agenda cynaladwyedd ac yn galluogi gwaith trawsnewidiol ar draws sectorau sydd o fudd i’r bobl, yr economi a’r blaned. Mae’n gosod rhwymedigaeth echblyg ar gyrff cyhoeddus i sicrhau Cymru iachach a mwy cyfartal. Yn fwy diweddar, mae  Dyletswydd Economaidd-Gymdeithasol 2020 yn cadarnhau ymrwymiad i ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol, ac yn gosod taclo anghydraddoldeb wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.

Mae’r cysyniad o Iechyd ym Mhob Polisi (HiAP) yn cael ei dderbyn fwyfwy gan lywodraethau a’r gymuned wyddonol fel rhagamod pwysig ar gyfer gwell iechyd poblogaeth a chymdeithas decach a mwy cydlynol yn gyffredinol. Mae HiAP yn ymwneud â gweithio’n synergaidd ar draws sectorau i ystyried goblygiadau iechyd penderfyniadau, gyda’r nod o osgoi niwed i iechyd ac ail-gydbwyso tegwch cymdeithasol ac iechyd. Er mwyn cyflymu’r cynnydd o ran cyrraedd y rhai sy’n cael eu gadael ar ôl oherwydd iechyd gwael, ac wrth atal eraill rhag syrthio ar ôl, mae angen camau gweithredu polisi sy’n cyrraedd nid yn unig y rhai mwyaf agored i niwed ond hefyd y rhai sydd mewn perygl anghyfartal o iechyd gwael y gellir eu hosgoi.

Gall WHESRi a’r Llwyfan Datrysiadau helpu i ddod ag iechyd a thegwch i bob polisi yng Nghymru a thu hwnt, drwy gyfeirio a chefnogi polisïau, cynlluniau a blaenoriaethau buddsoddi ar draws gwahanol sectorau a rhanddeiliaid allweddol, er mwyn cyflymu camau gweithredu a chynnydd tuag at gau’r bwlch iechyd a sicrhau bywydau ffyniannus iach i bawb yng Nghymru a thu hwnt.

Y Pum Amod Hanfodol

Mae llawer o bolisïau neu ddeddfwriaeth a fabwysiedir yng Nghymru yn helpu i leihau annhegwch a chreu cymdeithas fwy cynaliadwy a theg yng Nghymru.

Cael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Diweddarir Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru yn barhaus gyda’r adnoddau a’r deunyddiau diweddaraf, gan gynnwys data, polisïau, adroddiadau ac astudiaethau achos. Cysylltwch â ni i gael eich hysbysu am ddiweddariadau i’r Llwyfan Datrysiadau.

Cysylltwch â ni i gymryd rhan.

Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid a defnyddwyr i ddiweddaru ac ehangu’r Llwyfan Datrysiadau gyda phrosiectau, astudiaethau achos a nodweddion sbotolau sy’n canolbwyntio ar degwch iechyd. Cysylltwch â ni i rannu eich prosiectau a’ch storïau am lwyddiant, i’w dangos ar y llwyfan.