Mynd i'r cynnwys

Anghenion nas diwallwyd a bod yn agored i niwed
Iechyd a gwasanaethau iechyd

Doctor with patient

Adnoddau

ADRODDIAD

Fframwaith Llety a Chymorth i Ymadawyr Gofal yng Nghymru

Mae’r Fframwaith Llety a Chymorth i Ymadawyr Gofal yng Nghymru yn fodel sy’n ceisio helpu sefydliadau sy’n cefnogi pobl ifanc i wneud eu taith tuag at adael gofal yng Nghymru.

Fframwaith Llety a Chymorth i Ymadawyr Gofal yng Nghymru


ADRODDIAD

Y Storm Berffaith

Bydd yr adroddiad yn esbonio sut mae ffactorau fel Covid-19, Brexit, yr argyfwng Costau Byw, galw uchel am wasanaethau, a diffyg cyllid cynaliadwy yn effeithio ar weithwyr rheng flaen a’r menywod a’r plant sydd angen cymorth. Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) arbenigol mewn ffordd a allai achosi i’r sector ddirywio’n ddi-droi’n-ôl.

Y Storm Berffaith


ADRODDIAD

Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru: Sut mae iechyd a llesiant plant yn cael eu heffeithio a meysydd gweithredu

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau adolygiad llenyddiaeth o effaith yr argyfwng costau byw ar iechyd a llesiant plant.

Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru: Sut mae iechyd a llesiant plant yn cael eu heffeithio a meysydd gweithredu


ADRODDIAD

Profiadau Iechyd Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid yng Nghymru

Mae'r adroddiad technegol hwn yn rhoi cipolwg ar brofiadau ceiswyr lloches a ffoaduriaid o iechyd yng Nghymru. Mae'n awgrymu bod ymagwedd dosturiol, anfeirniadol at ddarparu gofal yn cefnogi pobl sy'n ceisio noddfa i hygyrchu gofal iechyd gyda'r potensial i leihau annhegwch ym maes iechyd.

Profiadau Iechyd Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid yng Nghymru


ADRODDIAD

Brexit a Thlodi yng Nghymru: Drwy Lens Iechyd y Cyhoedd

Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ceisio cryfhau gwybodaeth a dealltwriaeth o oblygiadau ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd - 'Brexit' - ar dlodi, ac iechyd a lles yng Nghymru, gan gynnwys canolbwyntio ar wasanaethau cyhoeddus gan gynnwys darpariaeth iechyd a gofal. Gall gwneuthurwyr polisi a phenderfyniadau, y rhai sy'n rhan o'r system iechyd cyhoeddus, a rhanddeiliaid ar draws sectorau, ddefnyddio'r dystiolaeth a gyflwynir i ddeall y cyfleoedd a'r risgiau i gymunedau yng Nghymru, a nodi camau gweithredu i helpu i adeiladu dyfodol tecach.

Brexit a Thlodi yng Nghymru: Drwy Lens Iechyd y Cyhoedd


ADRODDIAD

Tuag at Weithlu Iach a Chynaliadwy ar Gyfer y Dyfodol Iechyd a Llesiant Presennol y Gweithlu Nyrsio a Bydwreigiaeth yng Nghymru

Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi syniad o'r heriau y mae rhai staff yn eu hwynebu yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r canfyddiadau'n berthnasol i'r rhai sy'n gyfrifol am reoli staff neu sy'n ymwneud ag ailgynllunio ein gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.

Tuag at Weithlu Iach a Chynaliadwy ar Gyfer y Dyfodol Iechyd a Llesiant Presennol y Gweithlu Nyrsio a Bydwreigiaeth yng Nghymru


ADRODDIAD

Yr Hawl i Dai Digonol yng Nghymru: Y Sylfaen Dystiolaeth

Mae'r adroddiad ymchwil annibynnol hwn gan Alma Economics, a gomisiynwyd gan Tai Pawb, Sefydliad Tai Siartredig Cymru a Shelter Cymru, yn ymchwilio i dai ac anghydraddoldeb tai yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn bwrw golwg ar gostau tai annigonol, gan gynnwys ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn cyflwyno enghreifftiau rhyngwladol o wledydd eraill sydd â rhyw fath o hawl i dai digonol.

Yr Hawl i Dai Digonol yng Nghymru: Y Sylfaen Dystiolaeth


CANLLAW

Cymru fwy Cyfartal: y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol Enghreifftiau o Anghydraddoldebau Canlyniad Oherwydd Anfantais Economaidd-gymdeithasol a COVID-19

Mae'r ddogfen arweiniad hon gan Lywodraeth Cymru yn cyflwyno enghreifftiau o anghydraddoldebau o ran canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol a lle mae'r rhain wedi'u gwaethygu o ganlyniad i COVID-19, gan gynnwys effeithiau ar ddeilliannau iechyd. Bwriedir i'r arweiniad fod yn fan cychwyn defnyddiol i wneuthurwyr polisi wrth iddynt ystyried anghydraddoldeb canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.

Cymru fwy Cyfartal: y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol Enghreifftiau o Anghydraddoldebau Canlyniad Oherwydd Anfantais Economaidd-gymdeithasol a COVID-19


ADRODDIAD COVID

Drws ar Glo: Datgloi Bywydau a Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19

Mae'r adroddiad hwn gan Lywodraeth Cymru yn ymchwilio i effaith y pandemig COVID-19 ar bobl anabl yng Nghymru, gan gynnwys tystiolaeth ar yr aflonyddwch i fynediad pobl anabl at driniaeth feddygol a gwasanaethau iechyd parhaus.

Drws ar Glo: Datgloi Bywydau a Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19


ADRODDIAD COVID

Iechyd Unigolion Sydd â Phrofiad o Lygad y Ffynnon o Ddigartrefedd yng Nghymru, yn Ystod y Pandemig COVID-19

Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod anghenion gofal iechyd yn fwy ymysg y rhai sydd â phrofiad o ddigartrefedd o lygad y ffynnon. Mae'n atgyfnerthu'r angen i leihau'r rhwystrau i fynediad at ofal iechyd a gwella gofal ataliol a rheoli cyflyrau iechyd hirdymor mewn unigolion sydd â threfniadau tai ansicr.

Iechyd Unigolion Sydd â Phrofiad o Lygad y Ffynnon o Ddigartrefedd yng Nghymru, yn Ystod y Pandemig COVID-19


ADRODDIAD COVID

COVID-19 yng Nghymru: Yr Effaith ar Lefelau Defnyddio Gofal Iechyd ac Iechyd Meddwl y Rhai sy'n Eithriadol o Agored i Niwed yn Glinigol

Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datgelu dirywiadau amlwg mewn gofal wedi'i gynllunio a gofal brys ar gyfer poblogaethau sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol a phoblogaethau cyffredinol yng Nghymru yn ystod 2020 ac yn awgrymu bod yr angen hwn nas diwallwyd yn debygol o achosi ôl-groniad sylweddol yn y galw am wasanaethau iechyd meddwl ac iechyd corfforol, gan arwain at ddefnydd cynyddol o wasanaethau dros amser.

COVID-19 yng Nghymru: Yr Effaith ar Lefelau Defnyddio Gofal Iechyd ac Iechyd Meddwl y Rhai sy'n Eithriadol o Agored i Niwed yn Glinigol


ADRODDIAD

Y Mesur Iechyd Meddwl Ddeng Mlynedd yn Ddiweddarach

Mae’r Mesur Iechyd Meddwl (y Mesur) yn rhan hollbwysig o gyfraith iechyd meddwl Cymru. Ers ei roi ar waith ddeng mlynedd yn ôl, mae wedi rhoi fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd meddwl, ac wedi bod yn rhan ganolog o Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, sef strategaeth ddeng mlynedd Llywodraeth Cymru. Ddegawd ers rhoi’r Mesur ar waith, mae’r adroddiad hwn yn edrych ar sut y mae wedi newid profiadau pobl wrth iddyn nhw ddefnyddio’r cymorth sydd ar gael.

Y Mesur Iechyd Meddwl Ddeng Mlynedd yn Ddiweddarach


ADRODDIAD

Storm Berffaith: Yr Argyfwng Cyllido yn Gwthio Sector Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Cymru i'r Dibyn

Bydd yr adroddiad hwn yn esbonio sut mae ffactorau fel Covid-19, Brexit, yr argyfwng costau byw, y galw mawr am wasanaethau, a diffyg cyllid cynaliadwy yn effeithio ar weithwyr rheng flaen ac ar y menywod a’r plant sydd angen cymorth arbenigol VAWDASV, mewn ffordd a allai achosi i’r sector ddirywio’n ddi-droi’n-ôl.

Storm Berffaith: Yr Argyfwng Cyllido yn Gwthio Sector Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Cymru i'r Dibyn


STRATEGAETH

Gwasanaethau Anabledd Dysgu – Ein cynlluniau ar gyfer 2022 i 2026

Mae’r ddogfen Hawdd ei Darllen hon yn ymdrin â’r meysydd y mae Llywodraeth Cymru am weithio arnynt. Mae'n esbonio'r hyn y maent yn bwriadu ei wneud i gefnogi pobl ag anableddau dysgu a phryd.

Gwasanaethau Anabledd Dysgu – Ein cynlluniau ar gyfer 2022 i 2026