Mynd i'r cynnwys

Economeg iechyd a modelu
Iechyd a gwasanaethau iechyd

Doctor yn arsylwi person

Adnoddau

ERTHYGL WEDI'I HADOLYGU GAN GYMHEIRIAID

Archwilio Effeithiau Tegwch Ymyriadau Iechyd mewn Dadansoddiad Cost-effeithiolrwydd: Adolygiad Systematig

Nod yr adolygiad systematig hwn oedd catalogio a disgrifio cymwysiadau cyhoeddedig o ddadansoddi cost effeithiolrwydd wedi’i lywio gan degwch.

Archwilio Effeithiau Tegwch Ymyriadau Iechyd mewn Dadansoddiad Cost-effeithiolrwydd: Adolygiad Systematig


ADRODDIAD

Cost Anghydraddoldeb Iechyd i'r GIG yng Nghymru Adroddiad 1: Cost Gysylltiedig ag Anghydraddoldeb yn y Defnydd o Wasanaethau Ysbyty i'r GIG yng Nghymru

Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru'n amcangyfrif y gost ariannol sy'n gysylltiedig ag anghydraddoldeb yn y defnydd o wasanaethau ysbyty i'r GIG yng Nghymru er mwyn helpu i gyfeirio gwneud penderfyniadau a blaenoriaethu adnoddau tuag at atal ac ymyrryd yn gynnar drwy lens ecwiti, gan gyfrannu at ymadfer yn gynaliadwy ac yn gynhwysol yn sgil COVID-19. Mae dangosfwrdd rhyngweithiol yn cyd-fynd â'r adroddiad, gan alluogi defnyddwyr i ymchwilio'n fanwl i'r costau sy'n gysylltiedig ag anghydraddoldeb fesul categori gwasanaeth, rhyw, oedran a lefel amddifadedd.

Cost Anghydraddoldeb Iechyd i'r GIG yng Nghymru Adroddiad 1: Cost Gysylltiedig ag Anghydraddoldeb yn y Defnydd o Wasanaethau Ysbyty i'r GIG yng Nghymru


CANLLAW

Cost Anghydraddoldeb Iechyd i GIG Cymru: Dangosfwrdd Rhyngweithiol

Mae'r dangosfwrdd rhyngweithiol hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyd-fynd â'r adroddiad 'Cost anghydraddoldeb iechyd i'r GIG yng Nghymru ar gostau sy'n gysylltiedig ag anghydraddoldeb iechyd yn y defnydd o wasanaethau ysbyty. Mae'r dangosfwrdd yn caniatáu i ddefnyddwyr ddewis sut mae'r data'n cael ei arddangos a dewis deilliannau a gosodiadau gofal iechyd o ddiddordeb.

Cost Anghydraddoldeb Iechyd i GIG Cymru: Dangosfwrdd Rhyngweithiol


ADRODDIAD COVID

Canlyniadau Economaidd Pandemig COVID-19 ar Ddangosyddion Iechyd a’r Defnydd o’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru: Amcanestyniad Salwch Hirdymor 2020/21 – 2022/23

Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhagfynegi canlyniadau economaidd posib COVID-19 ar Salwch Hirdymor (LSI), gan gymryd y berthynas rhwng newid yn y gyfradd ddiweithdra a LSI i ystyriaeth.

Canlyniadau Economaidd Pandemig COVID-19 ar Ddangosyddion Iechyd a’r Defnydd o’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru: Amcanestyniad Salwch Hirdymor 2020/21 – 2022/23


ADRODDIAD

Ein Rhaglen i Drawsnewid a Moderneiddio Gofal a Gynlluniwyd a Lleihau Rhestrau Aros yng Nghymru

Mae'r cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru yn nodi pedwar ymrwymiad clir i bobl yng Nghymru i'w helpu i gael mynediad i'r cyngor a'r gwasanaethau iechyd sydd eu hangen arnynt. Y rhain yw: cynyddu capasiti'r gwasanaeth iechyd; blaenoriaethu diagnosis a thriniaeth; trawsnewid darpariaeth gofal a gynllunnir; a darparu gwell gwybodaeth a chymorth i gleifion.

Ein Rhaglen i Drawsnewid a Moderneiddio Gofal a Gynlluniwyd a Lleihau Rhestrau Aros yng Nghymru


ADRODDIAD

Beth Nesaf? Y Materion o Bwys ar Gyfer y Chweched Senedd

Mae'r adroddiad hwn gan Adran Ymchwil Senedd Cymru'n ymchwilio i faterion polisi cymdeithasol, economaidd a chyhoeddus heriol cyfredol yng Nghymru, gan gynnwys amseroedd aros mewn ysbytai a'r ôl-groniad mewn gofal iechyd 'rheolaidd' a grëwyd gan COVID-19.

Beth Nesaf? Y Materion o Bwys ar Gyfer y Chweched Senedd


ADRODDIAD

Costau a Chanlyniadau Trais i'r System Gofal Iechyd yng Nghymru

Mae'r adroddiad hwn gan Brifysgol John Moores Lerpwl yn nodi ac yn mesur costau trais i'r system gofal iechyd yng Nghymru, gan ddefnyddio dulliau costau salwch (COI). Mae'n dod i'r casgliad bod trais yn gosod baich economaidd mawr ar y system gofal iechyd yng Nghymru, gydag amcangyfrif o £46.6 miliwn yn cael ei wario ar ymdrin â deilliannau tymor byr trais yn 2018/19.

Costau a Chanlyniadau Trais i'r System Gofal Iechyd yng Nghymru


CANLLAW

Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol

Mae'r canllaw ymarferol hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlinellu proses gam wrth gam o sut i syntheseiddio, trosi a chyfathrebu tystiolaeth iechyd y cyhoedd ac economeg iechyd i bolisi ac arfer, gan gyflwyno'r achos dros fuddsoddi cynaliadwy mewn lles a thegwch iechyd. Mae'r canllaw yn dadlau bod iechyd y boblogaeth yn ased economaidd ac yn fuddiant cynhyrchiol. Y bwriad yw helpu rhanddeiliaid allweddol, eiriolwyr dros iechyd a thegwch, gweision sifil a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd a rhai nad ydynt yn ymwneud ag iechyd ond sydd â rôl wrth gyfeirio, dylanwadu ar neu lunio polisi ac arfer cenedlaethol ac is-genedlaethol.

Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol


CANLLAW

Hybu Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant Canllaw ar gyfer Buddsoddiad Traws-sector ar Sail Tystiolaeth

Mae'r canllaw hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu opsiynau polisi ar gyfer buddsoddi blaenoriaethol yng Nghymru, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael yng Nghymru ac yn Ewrop. Mae'r opsiynau polisi yn ymdrin â meysydd o faich a chostau uchel, yn ogystal â dangos cyd-fanteision (enillion) i'r economi, cymdeithas a'r amgylchedd, gan gynnwys buddsoddi yn y sector iechyd, ymagwedd gydol oes at ymdrin ag iechyd a gofal cymdeithasol, a mynediad cynnar at wasanaethau iechyd meddwl. Gall y canllaw gael ei ddefnyddio gan wneuthurwyr polisi a phenderfyniadau ar draws llywodraeth genedlaethol a lleol, y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, a chyrff cyhoeddus ym mhob sector arall yng Nghymru.

Hybu Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant Canllaw ar gyfer Buddsoddiad Traws-sector ar Sail Tystiolaeth


ERTHYGL

Adenillion ar Fuddsoddi Mewn Ymyriadau Iechyd y Cyhoedd: Adolygiad Systematig

Mae'r adolygiad systematig hwn yn archwilio'r enillion ar fuddsoddiad (ROI) o ymyriadau iechyd cyhoeddus a ddarperir mewn gwledydd incwm uchel sydd â gofal iechyd cyffredinol, gan gynnwys ROI mewn perthynas ag ymyriadau gofal iechyd y cyhoedd (e.e. rheoli clefydau neu sicrhau bod cleifion risg uchel yn cymryd eu meddyginiaeth) ac ymyriadau diogelu iechyd a hybu iechyd, yn ogystal â phenderfynyddion ehangach ac ymyriadau deddfwriaethol.

Adenillion ar Fuddsoddi Mewn Ymyriadau Iechyd y Cyhoedd: Adolygiad Systematig - Saesneg yn Unig


PAPUR

Y Berthynas rhwng Adnoddau Gofal Cymdeithasol a’r Defnydd o Ofal Iechyd gan Bobl Hŷn yn Lloegr: Ymchwiliad Archwiliol

Nod yr adroddiad hwn yw rhoi trosolwg a barn wybodus am fodelau sydd wedi'u defnyddio yn y DU ac yn rhyngwladol i rag-weld y galw am ofal iechyd, ac asesu eu cymhwyster ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd. Rydym yn cynnig cymhariaeth o'r dulliau o greu amcanestyniadau ac yn tynnu sylw at eu manteision a'u cyfyngiadau, yn ogystal â'u haddasrwydd yn dibynnu ar ddefnydd ac amcanion ymchwil.

Y Berthynas rhwng Adnoddau Gofal Cymdeithasol a’r Defnydd o Ofal Iechyd gan Bobl Hŷn yn Lloegr: Ymchwiliad Archwiliol - Saesneg yn Unig


PAPUR

Y Ganolfan Economeg Iechyd: A Yw Owns o Atal Yn Werth Pwys o Iachâd? Amcangyfrifon o Effaith Grant Iechyd Cyhoeddus Lloegr ar Farwolaethau a Morbidrwydd

Yn y papur hwn, archwiliodd yr ymchwilwyr argaeledd fformiwla ariannu ar gyfer y grant iechyd cyhoeddus i ymchwilio i'r berthynas rhwng gwariant o'r fath a marwolaethau. Mae'r rhan fwyaf o ymdrechion blaenorol i amcangyfrif cynhyrchiant ymylol gwariant gofal iechyd Lloegr wedi defnyddio offerynnau sy'n dibynnu ar brofion ystadegol yn unig i’w cyfiawnhau. Mae dull newydd o ddefnyddio offeryniaeth wedi cynnig defnyddio newidynnau 'rheol ariannu' fel offerynnau, y gellir eu cyfiawnhau ar sail ddamcaniaethol. Er y bu llawer o astudiaethau o effaith gweithgareddau hybu iechyd penodol ar ganlyniadau, ni fu ymdrechion llwyddiannus i gysylltu gwariant iechyd cyhoeddus Lloegr â marwolaethau. Ar ben hynny, drwy drosi gwariant gofal iechyd (triniaeth) i ddaearyddiaeth awdurdod lleol, mae'n bosibl amcangyfrif manyleb ganlyniadau sy'n cynnwys gwariant ar driniaeth (gofal iechyd) ac atal (iechyd y cyhoedd). O ganlyniad, mae'n bosibl canfod cyfraniad cymharol y ddau fath o wariant i ostyngiadau mewn marwolaethau.

Y Ganolfan Economeg Iechyd: A Yw Owns o Atal Yn Werth Pwys o Iachâd? Amcangyfrifon o Effaith Grant Iechyd Cyhoeddus Lloegr ar Farwolaethau a Morbidrwydd - Saesneg yn unig


PAPUR

Dulliau o Gynllunio Galw am Ofal Iechyd yn y Dyfodol

Ers 2010, mae gwariant ar ofal cymdeithasol i oedolion wedi gostwng yn sylweddol mewn termau real ac mae’r galw wedi codi. Mae disgwyl i ostyngiadau yng nghyllidebau awdurdodau lleol fod wedi cael effaith yn sgil hyn ar y galw am ofal iechyd yn y GIG yn Lloegr. Mae'r astudiaeth yn archwilio effeithiau’r newidiadau mewn adnoddau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol ar bobl hŷn o ran y defnyddio gofal iechyd a defnyddio Gofal Parhaus y GIG (NHS CHC). Mae'r papur yn cyfrannu at lenyddiaeth gynyddol sy'n archwilio'r cyd-ddibyniaethau rhwng gofal cymdeithasol a gofal iechyd.

Dulliau o Gynllunio Galw am Ofal Iechyd yn y Dyfodol - Saesneg yn unig


TAFLEN

Buddsoddiad Cynaliadwy mewn Iechyd a Llesiant y Boblogaeth: Tuag at Iechyd Cyhoeddus ar sail Gwerth

Mae Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (WHO CC) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datblygu rhaglen waith arloesol, yn cymhwyso ymagwedd Gwerth Cymdeithasol tuag at ddatblygu ‘Iechyd y Cyhoedd yn Seiliedig ar Werth’ ac Economi Lesiant yng Nghymru.

Buddsoddiad Cynaliadwy mewn Iechyd a Llesiant y Boblogaeth: Tuag at Iechyd Cyhoeddus ar sail Gwerth


ERTHYGL

Tuag at Economi Llesiant: Effaith Economaidd Sector Gofal Iechyd Cymru

Mae iechyd a lles y boblogaeth yn ganlyniad, yn ogystal â sbardunwr, datblygiad economaidd a ffyniant ar lefelau byd-eang, Ewropeaidd, cenedlaethol ac is-genedlaethol (lleol). Yn y papur hwn, mae pwysigrwydd y sector gofal iechyd i economi Cymru’n cael ei archwilio. Rydym yn defnyddio nifer o ffynonellau data ar gyfer economi’r DU a Chymru ac yn deillio model economaidd ar gyfer 2017. Rydym yn amcangyfrif cynnyrch, incwm, cyflogaeth, gwerth ychwanegol, a lluosogwyr mewnforio y sector gofal iechyd. Mae canlyniadau’n awgrymu bod gan y sector gofal iechyd gyfraniad uwchlaw’r cyfartaledd mewn pedair agwedd economaidd a archwiliwyd o economi Cymru (cynnyrch, incwm, cyflogaeth, gwerth ychwanegol), yn ôl ei effaith ar yr ecosystem economaidd oddi amgylch.

Tuag at Economi Llesiant: Effaith Economaidd Sector Gofal Iechyd Cymru - Saesneg yn unig