Mynd i'r cynnwys

Datrysiadau
Iechyd a chyflogaeth ac amodau gweithio

A woman and a nurse

Mae bod mewn cyflogaeth dda yn diogelu iechyd, tra bod diweithdra’n cyfrannu at iechyd gwael. Gall afiechyd hefyd effeithio ar gyfranogiad pobl yn y farchnad lafur, gyda chostau i’r unigolyn, teuluoedd, cymunedau, cyflogwyr a gwasanaethau cyhoeddus; mae costau cyfunedig bod heb waith ac absenoldeb oherwydd salwch yn dod i tua £100 biliwn y flwyddyn yn y DU, gan gyflwyno achos economaidd cryf dros weithredu.

Mae tystiolaeth gynyddol ar yr hyn sy’n gweithio i gynyddu cyflogaeth a gwella amodau gweithio. Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) wedi cynhyrchu canllawiau ac argymhellion ar iechyd yn y gweithle. Mae’r canllaw hwn yn cynnwys argymhellion newydd ac wedi’u diweddaru ar: ddiwylliant a pholisïau yn y gweithle; asesu ac ardystio ffitrwydd ar gyfer gwaith; datganiad o ffitrwydd ar gyfer gwaith; gwneud addasiadau yn y gweithle; cadw mewn cysylltiad â phobl ar absenoldeb salwch; ymyrryd yn gynnar; dychwelyd i’r gwaith mewn ffordd gynaliadwy a lleihau nifer yr absenoldebau sy’n ailddigwydd a sut i gefnogi pobl â chyflwr iechyd neu anabledd nad ydynt yn gweithio ar hyn o bryd. At hynny, mae NICE wedi cynhyrchu canllaw ar les meddyliol yn y gwaith sy’n cynnwys argymhellion ar: ymagweddau strategol at wella lles meddyliol yn y gweithle, ymagweddau sefydliad cyfan a chael amgylchedd gwaith cefnogol; ffynonellau cymorth allanol; hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer rheolwyr; ymagweddau ar lefel unigol, cyflogeion sydd â neu sydd mewn perygl o iechyd meddwl gwael a’r rhai mewn galwedigaethau risg uchel; ymgysylltu â gweithwyr a’u cynrychiolwyr; strategaethau a chynlluniau lleol a rhanbarthol ac ystyriaethau ar gyfer busnesau bach a chanolig (gan gynnwys microfusnesau).

Yng Nghymru, nod y  rhaglen Cymru Iach ar Waith  yw cefnogi ac annog cyflogwyr i greu amgylcheddau gwaith iach, cymryd camau i wella iechyd a lles eu staff, rheoli absenoldeb salwch yn dda, ac ymgysylltu’n effeithiol â gweithwyr, a gall pob un ohonynt helpu i gyflawni ystod o ganlyniadau busnes a sefydliadol cadarnhaol. Mae Cymru Iach ar Waith yn cynnig cymorth i ymgynghorwyr iechyd, digwyddiadau hyfforddi, gweithdai, gwybodaeth ac arweiniad. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i’w cynorthwyo i fodloni eu gofynion iechyd a diogelwch, ac yn darparu rôl ehangach o ran sgiliau a chapasiti gan gynnwys cymorth ar gyfer cyfleoedd datblygu megis prentisiaethau, lleoliadau gwaith a chynlluniau graddedigion a chamau i ymgysylltu â’r rhai nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET) a/neu’n economaidd anweithgar, a darparu cyfleoedd ar eu cyfer. Hefyd, mae’r Hyb Arfer Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb yng Nghymru yn ffynhonnell gyfunol o wybodaeth ac arfer, gydag adnoddau’n hyrwyddo ac yn cefnogi datblygiad Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb cadarn ac o ansawdd da sy’n bodloni dyletswyddau cyfreithiol Deddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswyddau Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Cymru 2011.

Yn ystod y pandemig COVID-19 daeth hyd yn oed yn fwy amlwg nad oedd ansicrwydd economaidd wedi’i ddosbarthu’n gyfartal ymhlith y boblogaeth yng Nghymru, a bod anghydraddoldebau wedi ehangu. Amlygodd adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a fu’n archwilio’r cysylltiad rhwng COVID-19 a newidiadau mewn cyflogaeth yng Nghymru y materion, a nodwyd atebion posib. Roedd ymyriadau addawol ar gyfer gwahanol grwpiau yn cynnwys: buddsoddi mewn ymyriadau sy’n cynnig cymorth cyflogaeth, cyfarwyddyd gyrfa, hyfforddiant galwedigaethol a phrentisiaethau; creu swyddi a chymorth chwilio am swyddi; addysg a hyfforddiant; deddfwriaeth diogelu cyflogaeth a mwy. 

Adnoddau defnyddiol:

CANLLAW

Hybu Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant Canllaw ar gyfer Buddsoddiad Traws-sector ar Sail Tystiolaeth

Mae'r canllaw hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu opsiynau polisi ar gyfer buddsoddi blaenoriaethol yng Nghymru, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael yng Nghymru ac yn Ewrop. Mae'r opsiynau polisi yn ymdrin â meysydd o faich a chostau uchel, yn ogystal â dangos cyd-fanteision (enillion) i'r economi, cymdeithas a'r amgylchedd, gan gynnwys buddsoddi mewn gwella bywyd gwaith ac iechyd meddwl yn y gweithle. Gall y canllaw gael ei ddefnyddio gan wneuthurwyr polisi a phenderfyniadau ar draws llywodraeth genedlaethol a lleol, y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, a chyrff cyhoeddus ym mhob sector arall yng Nghymru.

Hybu Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant Canllaw ar gyfer Buddsoddiad Traws-sector ar Sail Tystiolaeth


CANLLAW

Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol

TMae'r canllaw ymarferol hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn offeryn i wella llywodraethu, buddsoddi ac atebolrwydd ar gyfer iechyd a thegwch. Bwriad y canllaw yw helpu i ddatblygu adroddiadau eiriolaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'u teilwra i'r cyd-destun a dogfennau ac offer perthnasol eraill, gan alluogi polisïau a gwneud penderfyniadau iach ar draws gwahanol sectorau, lefelau'r llywodraeth a sefyllfa'r wlad. Ei nod yw atal dadfuddsoddi mewn iechyd, cynyddu buddsoddiad mewn atal (iechyd y cyhoedd), a buddsoddiad traws-sectoraidd prif ffrwd i ymdrin â phenderfynyddion ehangach iechyd a thegwch.

Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol


ADRODDIAD

Gwella Canlyniadau Iechyd a Chyflogaeth

Mae'r adroddiad hwn gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru yn cyflwyno'r dystiolaeth o lenyddiaeth a gwerthuso ar 'beth sy'n gweithio' ym maes iechyd a gwaith, a sut y gellir sicrhau bod ymyriadau iechyd a chyflogaeth i bobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd yn gweithio'n fwy effeithiol.

Gwella Canlyniadau Iechyd a Chyflogaeth


ADRODDIAD COVID

COVID-19 a Newidiadau Cyflogaeth yng Nghymru: Ymyriadau Addawol i Wella Iechyd a Thegwch Iechyd

Mae'r adroddiad hwn gan Alma Economics a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi ac yn disgrifio'r dystiolaeth ar ymyriadau yn y farchnad lafur y gellir eu gweithredu i wella deilliannau iechyd a thegwch iechyd i bobl yng Nghymru, a'u diogelu rhag y caledi cyflogaeth a achoswyd gan yr argyfwng COVID-19.

COVID-19 a Newidiadau Cyflogaeth yng Nghymru: Ymyriadau Addawol i Wella Iechyd a Thegwch Iechyd


ADRODDIAD COVID

COVID-19 a Newidiadau Cyflogaeth yng Nghymru: Mewnwelediadau ar gyfer Polisi - Pobl Ifanc, Cyflogaeth ac Iechyd. Canfyddiadau'r Ymchwil Ansoddol

Mae'r adroddiad hwn a baratowyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu mewnwelediadau poblogaeth gan sefydliadau sy'n cefnogi pobl ifanc, pobl ifanc 18-24 oed (gyda phlant dibynnol a hebddynt) a dylanwadwyr polisi a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar newidiadau cyflogaeth sy'n gysylltiedig â COVID-19. Mae'r adroddiad yn cyflwyno eu barn ar newidiadau a fyddai'n cefnogi pobl ifanc yn y dyfodol gyda chyfleoedd i weithio, gan gynnwys sicrhau bod llais pobl ifanc yn rhan o'r broses o gyd-gynhyrchu atebion.

COVID-19 a Newidiadau Cyflogaeth yng Nghymru: Mewnwelediadau ar gyfer Polisi - Pobl Ifanc, Cyflogaeth ac Iechyd. Canfyddiadau'r Ymchwil Ansoddol - Saesneg yn unig


ADRODDIAD COVID

Gosod Tegwch Iechyd wrth Wraidd Ymateb ac Adferiad Cynaliadwy COVID-19: Adeiladu Bywydau Llewyrchus i Bawb yng Nghymru

Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi tegwch iechyd wrth wraidd ymateb ac adfer cynaliadwy yn sgil y pandemig COVID-19 ac yn ymchwilio i'w effeithiau ar ddiweithdra, cyflogaeth ac amodau gweithio yng Nghymru.

Gosod Tegwch Iechyd wrth Wraidd Ymateb ac Adferiad Cynaliadwy COVID-19: Adeiladu Bywydau Llewyrchus i Bawb yng Nghymru


CANLLAW

Canllaw Dadansoddi'r Farchnad Lafur Iechyd

Mae'r canllaw hwn gan Adran Gweithlu Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd yn darparu trosolwg cynhwysfawr o'r farchnad lafur iechyd, yn cynnig arweiniad ar sut i ddadansoddi a deall ei ddeinameg, ac yn nodi camau allweddol i ymgymryd â dadansoddiad o'r farchnad lafur iechyd. Mae hefyd yn hwyluso gweithredu ymagweddau dadansoddi'r farchnad lafur iechyd safonedig wrth gefnogi gwledydd i ateb cwestiynau polisi allweddol mewn perthynas â gweithwyr iechyd a gofal.

Canllaw Dadansoddi'r Farchnad Lafur Iechyd - Saesneg yn unig


CANLLAW

Gwaith Teg ar Gyfer Iechyd, Llesiant a Thegwch

Bwriad y canllaw hwn yw cefnogi asiantaethau yn eu hymdrechion presennol i wella iechyd, llesiant a thegwch drwy gymryd rhan gynhwysol mewn gwaith teg. Cafodd y canllaw hwn ei lywio gan waith ac argymhellion y Panel Arbenigol Cyfranogi mewn Gwaith Teg ar gyfer Iechyd, Llesiant a Thegwch. Mae gweithredu ar waith teg yn cefnogi Cymru iachach, fwy cyfartal a mwy ffyniannus, ac o'i wneud yn dda, gall gefnogi pob un o'r saith nod llesiant.

Gwaith Teg ar Gyfer Iechyd, Llesiant a Thegwch


ADRODDIAD

Rhy Sâl i Weithio, Rhy Dlawd i Beidio

Mae problemau iechyd meddwl yn y gweithle wedi denu llawer o sylw gwleidyddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae'r ffocws wedi bod yn bennaf ar atal, a chefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl tra'u bod yn ddigon iach i weithio. Fodd bynnag, hyd yn oed gyda'r cymorth gorau, weithiau bydd angen i bobl gymryd amser o’r gwaith o ganlyniad i'w hiechyd meddwl. Mae'r adroddiad hwn gan y Sefydliad Arian ac Iechyd Meddwl (Money and Mental Health Institute) yn edrych ar gostau ariannol cymryd amser o'r gwaith, yr effaith a gaiff hyn ar iechyd meddwl, a sut mae'n dylanwadu ar ein gallu i ddychwelyd i'r gwaith a chymryd amser i ffwrdd pan fydd angen i ni wneud hynny.

Rhy Sâl i Weithio, Rhy Dlawd i Beidio - Saesneg yn unig


ADRODDIAD

Yr Argyfwng Costau Byw yng Nghymru: Drwy Lens Iechyd Cyhoeddus

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r ffyrdd y gall yr argyfwng costau byw effeithio ar iechyd a llesiant. Mae’n edrych ar y sefyllfa drwy lens iechyd cyhoeddus er mwyn nodi camau gweithredu ar gyfer llunwyr polisïau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddiogelu a hybu iechyd a llesiant pobl Cymru wrth ymateb i’r argyfwng costau byw, gan amlinellu sut olwg fydd ar ddull iechyd cyhoeddus o ymdrin â’r argyfwng yn y tymor byr a’r tymor hwy.

Yr Argyfwng Costau Byw yng Nghymru: Drwy Lens Iechyd Cyhoeddus


ADRODDIAD

Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol: Yr Argyfwng Costau Byw

Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o'r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar yr argyfwng costau byw, gan archwilio effaith yr argyfwng ar degwch iechyd yng Nghymru a'r DU, cyn archwilio sut mae llywodraethau eraill mewn gwledydd eraill yn ceisio lliniaru effaith yr argyfwng ar degwch iechyd.

Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol: Yr Argyfwng Costau Byw