Mynd i'r cynnwys

Anghenion nas diwallwyd a bod yn agored i niwed
Iechyd a chyfalaf cymdeithasol a dynol

Closed school gates

Adnoddau

ADRODDIAD

Adolygiad o dystiolaeth anghydraddoldebau unigrwydd

Mae’r adolygiad yn crynhoi tystiolaeth o’r DU a gweddill y byd ynghylch pa grwpiau mewn cymdeithas sy’n profi unigrwydd anghymesur, gan gynnwys pobl wedi’u hymyleiddio ar sail hil, mudwyr, pobl LHDT+, pobl anabl, pobl â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol gwael, gofalwyr, pobl ddi-waith a phobl sy’n byw mewn tlodi.

Adolygiad o dystiolaeth anghydraddoldebau unigrwydd


ADRODDIAD

Iechyd pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn Lloegr

Mae'r erthygl hir hon yn archwilio gwahaniaethau ethnig mewn canlyniadau iechyd, yn amlygu'r amrywiadau ar draws grwpiau ethnig a chyflyrau iechyd, ac yn ystyried yr hyn sydd ei angen i leihau anghydraddoldebau iechyd.

Iechyd pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn Lloegr


ADRODDIAD

Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru: Sut mae iechyd a llesiant plant yn cael eu heffeithio a meysydd gweithredu

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau adolygiad llenyddiaeth o effaith yr argyfwng costau byw ar iechyd a llesiant plant. Defnyddiwyd y canfyddiadau i wneud argymhellion ar draws un ar ddeg o feysydd gweithredu polisi blaenoriaeth.

Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru: Sut mae iechyd a llesiant plant yn cael eu heffeithio a meysydd gweithredu


ADRODDIAD

Llawlyfr ymarferol ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) Cyflawni gwaith atal, meithrin gwytnwch a datblygu systemau sy’n ystyriol o drawma: Adnodd i weithwyr proffesiynol a sefydliadau

Nod yr adnodd newydd hwn yw cefnogi camau gweithredu ar ACEs drwy roi cyngor ymarferol ar atal ACEs, meithrin gwytnwch a datblygu sefydliadau, sectorau a systemau sy’n ystyriol o drawma. Mae’n cefnogi datblygu cymdeithas sy’n ystyriol o drawma ac sydd am ymrwymo i gymryd camau i atal ACEs a rhoi gwell cymorth i’r rhai sy’n dioddef yn eu sgil.

Llawlyfr ymarferol ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) Cyflawni gwaith atal, meithrin gwytnwch a datblygu systemau sy’n ystyriol o drawma


ADRODDIAD

Meithrin perthnasoedd cymdeithasol pobl hŷn yng Nghymru: heriau a chyfleoedd

Mae’r papur yn darparu adolygiad cyflym o ddylanwad perthnasoedd a rhwydweithiau cymdeithasol pobl hŷn ar iechyd a sut mae COVID-19 a’r heriau costau byw presennol yn effeithio arno.

Meithrin perthnasoedd cymdeithasol pobl hŷn yng Nghymru: heriau a chyfleoedd


ADRODDIAD

Costly differences: Living standards for working-age people with disabilities

Yn y nodyn briffio hwn, mae’r Resolution Foundation yn canolbwyntio ar safonau byw pobl ag anableddau, gan gynnwys canlyniadau arolwg newydd o ychydig o dan 8,000 o oedolion o oedran gweithio, yr adroddodd dros 2,000 ohonynt salwch neu anabledd hirdymor, i gynnig cipolwg ar eu profiad o'r argyfwng presennol.

Costly differences: Living standards for working-age people with disabilities


ADRODDIAD

Cyflwr Iechyd a Gofal Pobl Hŷn yn Lloegr 2023

Dyma’r adroddiad ‘Cyflwr y Genedl - Profiadau Pobl Hŷn’ cyntaf i Age UK ei gynhyrchu ers y pandemig. Felly, dyma’r dadansoddiad cynhwysfawr cyntaf, ers sawl blwyddyn, o anghenion iechyd a gofal ein poblogaeth hŷn, a pha mor dda y maent yn cael eu diwallu.

Cyflwr Iechyd a Gofal Pobl Hŷn yn Lloegr 2023


ADRODDIAD

Ffeithiau a ffigurau am gynhwysiant digidol a phobl hŷn

Er bod llawer o bobl hŷn yn cofleidio’r byd digidol, mae allgau digidol yn cynyddu gydag oedran. Mae Age UK yn credu y dylai pobl gael eu cefnogi a’u hannog i fynd ar-lein, ond dylai’r rhai na allant, neu nad ydynt yn dymuno gwneud hynny allu cael mynediad i wasanaethau a chymorth mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw.

Ffeithiau a ffigurau am gynhwysiant digidol a phobl hŷn


STRATEGAETH Y SEFYDLIAD

Strategaeth Cyngor Ffoaduriaid Cymru 2023-26

Cydweithio i greu Cymru lle mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn cael eu croesawu, eu parchu a’u grymuso.

Strategaeth Cyngor Ffoaduriaid Cymru 2023-26


ADRODDIAD

Tag Pris Anabledd 2023: cost ychwanegol anabledd

Methodoleg Scope ar gyfer cyfrifo pris anabledd (costau ychwanegol annheg ar gyfer defnyddio offer arbenigol a defnydd uwch o gyfleustodau bob dydd mewn aelwydydd anabl).

Tag Pris Anabledd 2023: cost ychwanegol anabledd


STRATEGAETH Y SEFYDLIAD

Dyfodol Cyfartal

Strategaeth 10 mlynedd Scope UK i gyflawni Dyfodol Cyfartal i holl bobl anabl y DU.

Dyfodol Cyfartal


STRATEGAETH Y SEFYDLIAD

Dyfodol cyfartal

Strategaeth 10 mlynedd Scope UK i gyflawni Dyfodol Cyfartal i holl bobl anabl y DU.

Dyfodol cyfartal


ADRODDIAD

Cadernid – Deall y Rhyngddibyniaeth Rhwng Unigolion a Chymunedau

Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dod â thystiolaeth ynghyd o lenyddiaeth sydd wedi'i chyhoeddi ar y rhyng-ddibyniaeth rhwng cydnerthedd unigol a chymunedol, ac yn darparu trosolwg o raglenni cyfredol i gryfhau cydnerthedd.

Cadernid – Deall y Rhyngddibyniaeth Rhwng Unigolion a Chymunedau


ADRODDIAD

Yr Hawl i dai Digonol yng Nghymru: Y Sylfaen Dystiolaeth

Mae'r adroddiad ymchwil annibynnol hwn gan Alma Economics, a gomisiynwyd gan Tai Pawb, Sefydliad Tai Siartredig Cymru a Shelter Cymru, yn ymchwilio i dai ac anghydraddoldeb tai yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn cyflwyno tystiolaeth sy'n awgrymu cysylltiad uniongyrchol rhwng tai annigonol ac anfforddiadwy ac addysg.

Yr Hawl i dai Digonol yng Nghymru: Y Sylfaen Dystiolaeth


CANLLAW

Cymru fwy Cyfartal: Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol Enghreifftiau o Anghydraddoldebau Canlyniad Oherwydd Anfantais Economaidd-gymdeithasol a COVID-19

Mae'r ddogfen arweiniad hon gan Lywodraeth Cymru yn cyflwyno enghreifftiau o anghydraddoldebau o ran canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol a lle mae'r rhain wedi'u gwaethygu o ganlyniad i COVID-19, gan gynnwys materion addysg ac allgáu digidol. Bwriedir i'r arweiniad fod yn fan cychwyn defnyddiol i wneuthurwyr polisi wrth iddynt ystyried anghydraddoldeb canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.

Cymru fwy Cyfartal: Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol Enghreifftiau o Anghydraddoldebau Canlyniad Oherwydd Anfantais Economaidd-gymdeithasol a COVID-19


ADRODDIAD COVID

Drws ar Glo: Datgloi Bywydau a Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19

Mae'r adroddiad hwn gan Lywodraeth Cymru yn ymchwilio i effaith y pandemig COVID-19 ar bobl anabl yng Nghymru, gan gynnwys tystiolaeth ar gynnydd mewn allgáu, unigrwydd, unigedd ac iechyd meddwl dirywiol a rhwystrau i hygyrchu gwasanaethau ar-lein.

Drws ar Glo: Datgloi Bywydau a Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19


ADRODDIAD COVID

Symbylyddion Bod yn Agored i Annhegwch Iechyd Sy'n Dod i'r Amlwg yng Nghyd-destun COVID-19: Safbwyntiau ac Ymateb gan y Sector Gwirfoddol a Chymunedol yng Nghymru

Mae'r ymchwil ansoddol hon gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn defnyddio mewnwelediadau o'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol (SGCh) yng Nghymru i helpu i ddeall sut mae'r pandemig COVID-19 wedi effeithio ar fod yn agored i niwed. Canfu y bu i fod yn agored i niwed ddigwydd yn gyflym yn ystod y pandemig a'i fod yn aml yn cael ei waethygu pan nad oedd unigolion yn gallu dod o hyd i gymorth gan adnoddau, gwasanaethau a seilwaith lleol penodol.

Symbylyddion Bod yn Agored i Annhegwch Iechyd Sy'n Dod i'r Amlwg yng Nghyd-destun COVID-19: Safbwyntiau ac Ymateb gan y Sector Gwirfoddol a Chymunedol yng Nghymru - Saesneg yn unig


ADRODDIAD COVID

Drws ar Glo: Datgloi Bywydau a Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19

Mae'r adroddiad hwn gan Lywodraeth Cymru yn ymchwilio i effaith y pandemig COVID-19 ar bobl anabl yng Nghymru, gan gynnwys tystiolaeth ar gynnydd mewn allgáu, unigrwydd, unigedd ac iechyd meddwl dirywiol a rhwystrau i hygyrchu gwasanaethau ar-lein.

Drws ar Glo: Datgloi Bywydau a Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19


ADRODDIAD COVID

Llesiant Meddyliol Plant a Phobl Ifanc yn Ystod y Pandemig COVID-19

Mae'r adroddiad hwn a baratowyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adrodd bod treulio amser yn yr awyr agored, cadw'n gorfforol egnïol, cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a hobïau, sefydlu arferion, cadw mewn cysylltiad â ffrindiau ar-lein a bod yn ymwybodol o natur y Coronafeirws a sut i'w atal rhag lledaenu, wedi helpu i leihau effeithiau negyddol y pandemig ar iechyd meddwl.

Llesiant Meddyliol Plant a Phobl Ifanc yn Ystod y Pandemig COVID-19


ADRODDIAD

Hawliau Gydol oes yw Hawliau Dynol

Ariannwyd Age Cymru o Ionawr i Orffennaf 2022 i ddarparu prosiect hawliau dynol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Pwrpas y prosiect hwn oedd codi ymwybyddiaeth o hawliau dynol, ac ymgysylltu â phobl hŷn ledled Cymru i ymgorffori'r neges bod pobl hŷn yn ddinasyddion ac yn cyfrannu tuag at y gymdeithas. Dylent fod yn medru disgwyl bod eu hawliau dynol yn cael eu cynnal.

Hawliau Gydol oes yw Hawliau Dynol


ADRODDIAD

Coronafeirws: Y Canlyniadau i Iechyd Meddwl yng Nghymru

Effeithiau parhaus y pandemig coronafeirws ar bobl gyda phroblemau iechyd meddwl ledled Cymru.

Coronafeirws: Y Canlyniadau i Iechyd Meddwl yng Nghymru


ADRODDIAD

Agweddau ac Anabledd: Profiadau Pobl Anabl yn 2022

Mae newid agweddau yn bwnc sy’n cael ei godi’n gyson gan bobl anabl fel prif flaenoriaeth, ac mae Scope yn credu mai agweddau negyddol a stereoteipiau yw gwraidd yr anghydraddoldeb a wynebir gan bobl anabl heddiw. Gan adeiladu ar ymchwil agweddau blaenorol a gynhaliwyd 5 mlynedd yn ôl, mae'r ymchwil yn ceisio deall pa agweddau y mae pobl anabl yn eu hwynebu, a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar eu gwaith, eu haddysg, a'u bywydau cymdeithasol.

Agweddau ac Anabledd: Profiadau Pobl Anabl yn 2022 - Saesneg yn unig