Mynd i'r cynnwys

DU a rhyngwladol
Iechyd a chyfalaf cymdeithasol a dynol

Hungry girl standing with an empty plate outside a closed school

Adnoddau

ADRODDIAD COVID

Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol – Adroddiad Cryno Ar effaith COVID-19 ar gynyddu’r Bwlch Iechyd a Bod yn Agored i Niwed

Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dwyn ynghyd dystiolaeth a mewnwelediadau rhyngwladol ar anghydraddoldebau o'r Adroddiadau Dysgu Sganio'r Gorwel Rhyngwladol a gyhoeddwyd rhwng mis Mai 2020 a mis Awst 2021. Mae'n canolbwyntio ar grwpiau sy'n agored i niwed a dosbarthiad anghyfartal effeithiau anuniongyrchol sy'n deillio o'r pandemig COVID-19, gan gynnwys effeithiau ar addysg a gofal plant. .

Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol – Adroddiad Cryno Ar effaith COVID-19 ar gynyddu’r Bwlch Iechyd a Bod yn Agored i Niwed


ADRODDIAD COVID

Cyflwr yr Argyfwng Addysg Byd-eang: Llwybr at Adfer

Mae'r adroddiad hwn gan Fanc y Byd yn tynnu sylw at sut mae COVID-19 wedi gwaethygu'r argyfwng addysg. Mae hefyd yn olrhain cwrs ar gyfer creu systemau addysg mwy cydnerth yn y dyfodol, gan gynnwys sut i adeiladu ar y buddsoddiadau a wnaed a'r gwersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig er mwyn cyflymu adferiad dysgu a dod allan o'r argyfwng gydag ansawdd addysg, cydnerthedd a thegwch gwell yn y tymor hwy.

Cyflwr yr Argyfwng Addysg Byd-eang: Llwybr at Adfer - Saesneg yn unig


PAPUR

Ieuenctid yn Ewrop: Effeithiau COVID-19 ar Eu Sefyllfa Economaidd a Chymdeithasol

Mae'r astudiaeth hon yn archwilio effeithiau'r pandemig COVID-19 ar ieuenctid yn Ewrop, gan gynnwys effeithiau cau ysgolion, cyfyngiadau ar gyfleoedd hyfforddi a gadael yr ysgol yn gynnar. Mae hefyd yn cynnwys camau a gymerwyd i daclo effeithiau COVID-19, gan gynnwys gwella sgiliau digidol a hyfforddeiaethau o safon.

Ieuenctid yn Ewrop: Effeithiau COVID-19 ar Eu Sefyllfa Economaidd a Chymdeithasol - Saesneg yn unig


ERTHYGL

Addasu Penderfynyddion Ysgol Iechyd Plant

Mae'r sylwebaeth hon yn ymchwilio i sut y gellir addasu penderfynyddion ysgol iechyd plant i wella deilliannau'r boblogaeth ac yn amlinellu cynnig ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ysgolion sy'n hybu iechyd.

Addasu Penderfynyddion Ysgol Iechyd Plant - Saesneg yn unig


ADRODDIAD

Addysg yn yr Oes Ddigidol

Mae'r adroddiad hwn gan yr OECD yn edrych ar rôl addysg wrth gefnogi llesiant emosiynol a chorfforol plant, gan edrych yn benodol ar y cysylltiad rhwng addysg, llesiant a thechnolegau digidol. Mae’n canolbwyntio ar ddatrysiadau yn yr ystyr bod yr adroddiad yn manylu ar ymdrechion gwledydd penodol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a diogelu a grymuso myfyrwyr.

Addysg yn yr Oes Ddigidol - Saesneg yn unig


ADRODDIAD

Strategaeth Addysg UNESCO ar Gyfer Iechyd a Llesiant

Mae'r strategaeth yn cyflwyno gweledigaeth UNESCO ar gyfer gwell canlyniadau iechyd ac addysg i bob dysgwr, drwy edrych ar faterion sy'n effeithio ar hyn, gan gynnwys trais ar sail rhyw, anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, HIV ac AIDS, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, beichiogrwydd anfwriadol, a thrais a gwahaniaethu sy'n tynnu sylw at yr angen nas diwallwyd am wasanaethau iechyd meddwl mewn sefydliadau dysgu ac o'u hamgylch.

Strategaeth Addysg UNESCO ar Gyfer Iechyd a Llesiant - Saesneg yn unig


ADRODDIAD

Barod i Ddysgu a Ffynnu: Iechyd a Maeth Ysgolion Iedled y Byd

Mae'r adroddiad hwn gan UNESCO yn canolbwyntio ar addysg, iechyd a maeth fel hawliau ac amcanion ynddynt eu hunain, gan fod yn fuddsoddiad hefyd yn nyfodol gwlad ac yng ngallu ei phobl i fyw bywydau cynhyrchiol a boddhaus. Mae’n canolbwyntio ar ddatrysiadau yn yr ystyr bod yr adroddiad yn dangos dichonoldeb rhaglenni iechyd a maeth ysgolion ar draws y byd.

Barod i Ddysgu a Ffynnu: Iechyd a Maeth Ysgolion Iedled y Byd - Saesneg yn unig


STRATEGAETH

Pob Plentyn yn Dysgu: Strategaeth Addysg UNICEF 2019-2030

Mae strategaeth UNICEF yn cefnogi hawl pob plentyn i addysg o safon, gan ganolbwyntio ar anghydraddoldebau o ran plant sy'n cael eu heithrio ar sail rhyw, plant ag anableddau, y plant tlotaf, lleiafrifoedd ethnig ac ieithyddol, a phlant y mae argyfyngau’n effeithio arnynt.

Pob Plentyn yn Dysgu: Strategaeth Addysg UNICEF 2019-2030 - Saesneg yn unig