Mynd i'r cynnwys

Datrysiadau

Trosolwg

Mae annhegwch iechyd yn deillio o ffactorau niferus ac amrywiol sydd yn aml y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol pobl. Nid yw’n ddigon i nodi’r materion mawrion y mae angen mynd i’r afael â hwy ond nodi ystod o offer, camau gweithredu, buddsoddiadau, polisïau ac atebion ymarferol ar gyfer gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau.

Nid yw annhegwch iechyd yn anochel; gellir ei leihau neu ei atal. Mae angen atebion sy’n ymdrin ag anghenion nas diwallwyd poblogaethau sy’n agored i niwed gan annhegwch systemig. Gellir sicrhau manteision iechyd gwirioneddol am gost fforddiadwy ac o fewn cyfyngiadau o ran adnoddau os mabwysiedir strategaethau effeithiol.

Ni all gofal iechyd yn unig gau’r bwlch annhegwch iechyd. Mae annhegwch iechyd yn amlweddog, ac yn aml yn dangos natur gydgysylltiedig ffactorau lluosog, yn enwedig anghydraddoldebau cymdeithasol y gellir eu hosgoi mewn ffactorau fel lle’r ydym yn byw, enillion ein haelwydydd, a’n cyfleoedd ar gyfer gwaith da. Mae’r cymhlethdod hwn yn golygu nad oes datrysiad ‘un peth sy’n addas i bawb’ syml i leihau annhegwch. Yn hytrach, mae ymdrechion i leihau annhegwch ym maes iechyd yn gofyn am weithredu ar holl benderfynyddion cymdeithasol iechyd – y pum amod hanfodol – trwy gydol oes. Gan hynny, mae camau gweithredu ym mhob maes o bolisi’r llywodraeth yn effeithio ar iechyd.

Gall gweithredu polisi cydgysylltiedig ar benderfynyddion iechyd, ynghyd ag ymagweddau llywodraethu a pholisi a gynllunnir ac a weithredir yn dda, gael effaith ar 1) lleihau’r bwlch iechyd; 2) hybu iechyd a llesiant cyffredinol y boblogaeth; a 3) sicrhau twf a ffyniant economaidd cynhwysol a chynaliadwy i bawb.

Mae heriau parhaus – yn enwedig y pandemig COVID-19, yr argyfwng costau byw a newid yn yr hinsawdd – yn pwysleisio ein bod yn byw mewn byd sy’n newid fwyfwy ac yn fyd-eang, gan greu heriau a chyfleoedd. Er gwaethaf ei ganlyniadau trychinebus, mae’r pandemig wedi agor cyfle i fabwysiadu a chyflymu ymagweddau a datrysiadau newydd i sicrhau pobl, cymdeithasau ac economïau iachach a mwy gwydn.  Yn ogystal ag atebion posib i adeiladu’n ôl yn decach‘ o’r pandemig, mae potensial hefyd am adferiad gwyrdd‘ drwy nodi cyfleoedd i gefnogi iechyd y boblogaeth ar ffurf dulliau cynaliadwy a rhoi iechyd ym mhob polisi  i nodi a dylanwadu ar effeithiau penderfyniadau polisi ar iechyd a thegwch.

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i ‘symud i ddileu anghydraddoldeb o bob math’. Mae cyflwyno’r achos ac eiriol dros fuddsoddi mewn lles a thegwch iechyd yn hanfodol er mwyn galluogi polisi a gweithredu cynaliadwy a theg sy’n seiliedig ar dystiolaeth er budd pobl, cymunedau, cymdeithasau, yr economi a’r blaned. Mae graddfa a natur yr her yn galw am ymateb sector cyfan cydgysylltiedig, gan gyflwyno achos cryf dros ymagweddau sy’n canolbwyntio ar y gymuned at ymdrin ag iechyd y cyhoedd ac ymagwedd system gyfan at degwch iechyd.

Bydd y ffordd y mae polisi cyhoeddus a gwneud penderfyniadau yn ymateb i heriau parhaus a newydd mewn cyfnod ansicr yn dibynnu’n drwm ar y gallu i lunio ymatebion i dueddiadau mawrion. Yr her yw sut i weithredu newid ar draws system gymhleth fel ei bod yn parhau dros amser.

Mae gwaith ar gyfer y dyfodol yn ymwneud â meddwl a chynllunio ar gyfer y tymor hir. Gall helpu wrth ystyried yr heriau yr ydym yn debygol o’u hwynebu yng Nghymru a allai siapio a dylanwadu ar y dyfodol, yn ogystal â’r rhai sy’n annarogan neu’n ansicr, ac ar yr un pryd, cefnogi’r gwaith o ddatblygu polisïau neu strategaethau a fydd yn gadarn yn wyneb llawer o wahanol sefyllfaoedd yn y dyfodol. Gall Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol 2021 a’r Pecyn Tystiolaeth cysylltiedig gefnogi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddeall dyfodol Cymru’n well a gwneud penderfyniadau mwy gwybodus ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Gall pecyn cymorth y Tri Gorwel hefyd helpu cyrff cyhoeddus i feddwl a chynllunio ar gyfer y tymor hwy. Gall ymdrechion i ystyried sut beth yw anghydraddoldeb yng Nghymru’r dyfodol gael eu cefnogi gan y fframwaith a sefydlwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n ein gorfodi i feddwl yn wahanol am ein hymagwedd at anghydraddoldebau iechyd. Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi nodi astudiaethau achos a syniadau mawrion o Gymru a thu hwnt ar yr hyn y mae unigolion, cymunedau a chyrff cyhoeddus yn ei wneud i gyflawni’r nodau llesiant.

Y Pum Amod Hanfodol

Gall deall ‘beth sy’n gweithio’ gyfeirio penderfyniadau am wasanaethau cyhoeddus. Mae llawer o offer, adnoddau, fframweithiau ymarferol a chymwysiadau meddalwedd i helpu i fesur a deall anghydraddoldebau iechyd. Mae Menter Adroddiadau Statws Ecwiti Iechyd (HESRi) Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop wedi dwyn ynghyd astudiaethau achos o storïau llwyddiant, arferion addawol a gwersi a ddysgwyd o’r lefelau lleol, cenedlaethol ac Ewropeaidd. Mae’r astudiaethau achos yn dangos sut mae gwledydd wedi goresgyn yr heriau sy’n gysylltiedig â dadfuddsoddi mewn polisïau ac ymagweddau sy’n effeithio ar degwch iechyd, ac wedi manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd newydd i hyrwyddo amcanion i gynyddu tegwch mewn iechyd.

Mae’r adran hon yn dwyn ynghyd wybodaeth am atebion posib ac arfer da, ac yn cyfeirio’r rhai sy’n ceisio taclo anghydraddoldebau iechyd i adroddiadau, canllawiau ymarferol, pecynnau cymorth a thechnegau sydd wedi’u rhoi ar waith. Mae gwahanol offer a thechnegau yn briodol ar wahanol gamau datblygu. Er enghraifft, pan fydd gwasanaeth newydd yn cael ei gynllunio, gallai fod yn berthnasol cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd, ond os yw gwasanaethau wedi bod ar waith ers peth amser ond yn destun adolygiad, gall offer fel Dadansoddi Penderfyniadau Aml-Faen Prawf neu Gyllidebu Rhaglenni a Dadansoddi Ymylol fod yn fwy priodol.

Cyflwynir yr adnoddau sy’n canolbwyntio ar atebion yn yr adran hon o fewn cyd-destun ehangach, a nodir yma, gan gydnabod y ffactorau sylfaenol sy’n ysgogi tegwch iechyd. Mae adroddiad Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd Gyrru ecwiti iechyd ymlaen – rôl atebolrwydd, cydlyniad polisi, cyfranogiad cymdeithasol a grymuso,yn awgrymu i dystiolaeth ddangos fwyfwy bodymdrin ag un neu gyfuniad o’r amodau sy’n hanfodol i roi cyfle cyfartal i bobl mewn bywyd (e. e. amgylchedd byw, addysg, cyflogaeth) ar wahân i ffactorau cymdeithasol a sefydliadol ehangach mewn cymdeithas wedi arwain at gynnydd nad oedd mor gyflym â’r hyn a ddisgwyliwyd. Yn hytrach, er mwyn cynyddu’r camau gweithredu ar degwch iechyd a galluogi’r amodau angenrheidiol i fyw bywydau iach a llewyrchus, mae angen cymryd camau ar ffactorau sylfaenol sy’n gyrru tegwch iechyd. Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau adolygiad arbenigol gwyddonol a nododd bedwar sbardun allweddol i degwch iechyd – atebolrwydd, cydlyniad polisi, cyfranogiad cymdeithasol ac, yn sail iddynt, grymuso – fel ffactorau cymdeithasol a sefydliadol sy’n ysgogi tegwch iechyd ar eu pennau eu hunain, ond sydd hefyd yn ddeinamig ac yn rhyngweithio â’i gilydd. Mae gwaith ar y gyrwyr hyn wedi llywio’r fenter Adroddiadau Statws Ecwiti Iechyd ac wedi arwain at bapurau cydymaith annibynnol, bob un yn ymhelaethu ar atebolrwydd, cydlyniad polisi a chyfranogiad cymdeithasol fel ysgogyddion ecwiti iechyd. Mae briff polisi pellach yn cyflwyno tystiolaeth sy’n dangos bod cyfranogiad gwleidyddol, cynrychiolaeth, atebolrwydd a thryloywder  hefyd yn rhag-amodau pwysig ar gyfer tegwch iechyd.

Rôl gwyddor ymddygiad o ran rhoi sylw i anghydraddoldebau iechyd

Dylid rhoi sylw i achosion cymdeithasol ac ymddygiadol anghydraddoldebau iechyd sy’n ymwneud â chynyddu tegwch iechyd gyda’i gilydd. Mae gwyddor ymddygiad, sef yr astudiaeth wyddonol o ymddygiad, yn darparu’r dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i allu deall a dylanwadu ar boblogaeth benodol o fewn cyd-destun penodol.  Mae’r dull gwyddonol hwn yn sicrhau ein bod yn deall ymddygiad yn iawn a’r hyn sy’n ei ysgogi, yn hytrach na dibynnu ar ragdybiaethau o’r hyn rydym yn ei gredu sy’n dylanwadu ar ymddygiad. Mae hefyd yn hyrwyddo’r broses o ystyried prosesau ymwybodol ac awtomatig sy’n dylanwadu ar ein hymddygiad.

Mae’r dulliau gwyddor ymddygiad yn cynorthwyo’r broses o ganfod y boblogaeth/is-boblogaeth sydd fwyaf mewn perygl, neu sy’n cael ei heffeithio, gan anghydraddoldebau iechyd, ac mae’n darparu fframweithiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i archwilio’r penderfynyddion ymddygiad o safbwynt y boblogaeth dan sylw. Mae hyn yn llwyddo i greu ymyrraeth wedi’i dargedu ar gyfer rhannau o’r boblogaeth sy’n profi anghydraddoldebau iechyd a/neu cymdeithasol. Mae’r dull systematig a geir mewn gwyddor ymddygiad yn annog y broses o ystyried tegwch ym mhob un o gamau’r broses o ddatblygu a gweithredu polisïau, gwasanaethau a dulliau cyfathrebu.

Ceir y canllaw i ddefnyddio gwyddor ymddygiad, sy’n deillio o bartneriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chanolfan Ymddygiad UCL. Cyflwyniad i wyddor ymddygiad a’r prosesau cam-wrth-gam i ddatblygu/cyflawni’r ymyriadau (polisïau, gwasanaethau neu ddulliau cyfathrebu) a gynlluniwyd i gychwyn, atal, parhau neu i newid ymddygiad yw Gwella iechyd a llesiant: canllaw i ddefnyddio gwyddor ymddygiad mewn polisi ac ymarfer.

Cael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Diweddarir Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru yn barhaus gyda’r adnoddau a’r deunyddiau diweddaraf, gan gynnwys data, polisïau, adroddiadau ac astudiaethau achos. Cysylltwch â ni i gael eich hysbysu am ddiweddariadau i’r Llwyfan Datrysiadau.

Cysylltwch â ni i gymryd rhan.

Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid a defnyddwyr i ddiweddaru ac ehangu’r Llwyfan Datrysiadau gyda phrosiectau, astudiaethau achos a nodweddion sbotolau sy’n canolbwyntio ar degwch iechyd. Cysylltwch â ni i rannu eich prosiectau a’ch storïau am lwyddiant, i’w dangos ar y llwyfan.