Mynd i'r cynnwys

DU a rhyngwladol
Iechyd a gwasanaethau iechyd

Doctor and patient

Adnoddau

ADRODDIAD

Llawlyfr ymarferol ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) Cyflawni gwaith atal, meithrin gwytnwch a datblygu systemau sy’n ystyriol o drawma: Adnodd i weithwyr proffesiynol a sefydliadau

Mae adroddiad hwn yn rhoi cyngor ymarferol ar weithredu gwaith i atal ACEs, meithrin gwytnwch a datblygu sefydliadau, sectorau a systemau sy’n ystyriol o drawma. Mae’n cefnogi datblygu cymdeithas sy’n ystyriol o drawma ac sydd am ymrwymo i gymryd camau i atal ACEs a rhoi gwell cymorth i’r rhai sy’n dioddef yn eu sgil.

Llawlyfr ymarferol ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) Cyflawni gwaith atal, meithrin gwytnwch a datblygu systemau sy’n ystyriol o drawma


ADRODDIAD

Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol: Gwreiddio Atal mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol

Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar enghreifftiau rhyngwladol o fodelau gofal sylfaenol a chymunedol sydd wedi gwreiddio atal ac iechyd y cyhoedd trwy integreiddio, newid systemau, ailgyfeirio cyllid a gweithlu, a dulliau gweithredu yn gynnar yn y broses.

Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol: Gwreiddio Atal mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol


ADRODDIAD COVID

Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol – Adroddiad Cryno Ar effaith COVID-19 ar gynyddu’r Bwlch Iechyd a Bod yn Agored i Niwed

Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dwyn ynghyd dystiolaeth a mewnwelediadau rhyngwladol ar anghydraddoldebau o'r gyfres Adroddiadau Dysgu Sganio'r Gorwel Rhyngwladol. Mae'n canolbwyntio ar grwpiau sy'n agored i niwed a dosbarthiad anghyfartal effeithiau anuniongyrchol sy'n deillio o'r pandemig COVID-19, gan gynnwys aflonyddwch i wasanaethau iechyd, ac effeithiau'r pandemig ar iechyd meddwl a materion gysylltiedig â thegwch brechlynnau.

Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol – Adroddiad Cryno Ar effaith COVID-19 ar gynyddu’r Bwlch Iechyd a Bod yn Agored i Niwed


ERTHYGL

Anghydraddoldebau Mewn Gofal Iechyd i Bobl ag Iselder a/neu Bryder

Mae'r adroddiad ffurf hir hwn gan Y Sefydliad Iechyd yn disgrifio'r defnydd o ofal iechyd gan bobl sydd ag iselder a/neu orbryder ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd yn Lloegr cyn y pandemig COVID-19, ac yn amlygu anghenion iechyd ehangach y cleifion hyn ac amrywiad hirsefydlog yn y defnydd o ofal iechyd fesul lefel amddifadedd economaidd-gymdeithasol.

Anghydraddoldebau Mewn Gofal Iechyd i Bobl ag Iselder a/neu Bryder - Saesneg yn unig


PAPUR

Cydnerthedd Systemau Iechyd yn Ystod COVID-19: Gwersi ar Gyfer Adeiladu yn ôl yn Well

Mae'r gyfres polisi iechyd hon gan yr Arsyllfa Ewropeaidd ar Systemau a Pholisïau Iechyd yn darparu tystiolaeth i wneuthurwyr polisi cenedlaethol o wledydd eraill i asesu eu hymatebion eu hunain i COVID-19 ac ymgorffori addasiadau sy'n briodol ar gyfer eu cyd-destunau cenedlaethol, gan gefnogi'r newid o reoli argyfwng i gyflawni systemau a chymdeithasau iechyd mwy cydnerth.

Cydnerthedd Systemau Iechyd yn Ystod COVID-19: Gwersi ar Gyfer Adeiladu yn ôl yn Well - Saesneg yn unig


BRIFFIO

Sut Fydd COVID-19 yn Effeithio ar Ffrwythlondeb?

Mae'r briff technegol hwn gan Gronfa Boblogaeth y Cenhedloedd Unedig yn amlygu pwysigrwydd hanfodol dosbarthu gwasanaethau iechyd rhywiol ac atgenhedlol (SRH) fel 'gwasanaethau hanfodol' yn ystod y pandemig, ac yn tanlinellu cyfrifoldeb llywodraethau i sicrhau y gall pawb arfer eu hawliau atgenhedlol, hyd yn oed yn ystod pandemig byd-eang.

Sut Fydd COVID-19 yn Effeithio ar Ffrwythlondeb? - Saesneg yn unig


BRIFFIO

Cymorth Ewropeaidd i Wella Systemau Iechyd a Gofal

Mae'r briff polisi hwn gan Sefydliad Iechyd y Byd a'r Arsyllfa Ewropeaidd ar Systemau a Pholisïau Iechyd yn mapio'r llu o offer Ewropeaidd a all helpu i wella systemau iechyd a gofal a sut maent yn gysylltiedig â'r heriau a wynebir gan wneuthurwyr polisi iechyd mewn Aelod-wladwriaethau.

Cymorth Ewropeaidd i Wella Systemau Iechyd a Gofal - Saesneg yn unig


ERTHYGL

Bregusrwydd Economaidd ac Anghenion Gofal Iechyd nas Diwallwyd Ymhlith y Boblogaeth 50 + oed yn Ystod y Pandemig COVID-19 yn Ewrop

Mae'r erthygl ymchwil hon yn cyfeirio at fodolaeth gwahaniaethau arwyddocaol wrth gael mynediad i ofal iechyd yn ystod y pandemig fesul bregusrwydd economaidd.

Bregusrwydd Economaidd ac Anghenion Gofal Iechyd nas Diwallwyd Ymhlith y Boblogaeth 50 + oed yn Ystod y Pandemig COVID-19 yn Ewrop - Saesneg yn unig


ERTHYGL

Yr Achosion a'r Baich Byd-eang o Anhwylderau Iselder a Gorbryder Mewn 204 o Wledydd a Thiriogaethau yn 2020 o Ganlyniad i'r Pandemig COVID-19

Mae'r erthygl ymchwil hon yn amcangyfrif cynnydd mewn achosion o anhwylder iselder mawr ac anhwylderau gorbryder yn fyd-eang o ganlyniad i'r pandemig COVID-19.

Yr Achosion a'r Baich Byd-eang o Anhwylderau Iselder a Gorbryder Mewn 204 o Wledydd a Thiriogaethau yn 2020 o Ganlyniad i'r Pandemig COVID-19 - Saesneg yn unig


BRIFFIO

Anghenion Gofal Iechyd Heb eu Diwallu: Cymharu Dulliau a Chanlyniadau o Arolygon Rhyngwladol

Edrychir ar lefelau a adroddwyd o 'anghenion heb eu diwallu' yn ymwneud â gofal iechyd yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd o arolygon rhyngwladol. Mae’r adroddiad hwn gan yr OECD yn tynnu sylw at y ffaith bod anghenion sydd heb eu diwallu yn uwch ymhlith pobl dlawd ar draws yr holl arolygon rhyngwladol.

Anghenion Gofal Iechyd Heb eu Diwallu: Cymharu Dulliau a Chanlyniadau o Arolygon Rhyngwladol - Saesneg yn unig


ADRODDIAD

Iechyd i Bawb?: Anghydraddoldebau Cymdeithasol mewn Iechyd a Systemau Iechyd

Dadansoddiad o anghydraddoldebau iechyd ac anghydraddoldebau mewn systemau iechyd ar draws 33 o wledydd yr OECD a’r UE, yn canolbwyntio ar ffactorau risg i iechyd, statws iechyd, defnyddio gwasanaethau iechyd, anghenion a darpariaeth gofal iechyd nas diwallwyd. Mae’n canolbwyntio ar ddatrysiadau yn yr ystyr ei fod yn ceisio cynnig trafodaeth ar sut y gall cymdeithasau ddod yn fwy cynhwysol.

Iechyd i Bawb?: Anghydraddoldebau Cymdeithasol mewn Iechyd a Systemau Iechyd - Saesneg yn unig


BRIFFIO

Ariannu Gofal Iechyd mewn Cyfnodau Pan fo Chwyddiant yn Uchel

Yn canolbwyntio ar yr hinsawdd economaidd bresennol a'r heriau i systemau iechyd yn sgil hynny. Mae'r briff yn trafod cyfyngiadau gwariant cyffredinol y llywodraeth ar ofal iechyd a'r angen i gynyddu’r cyllid ar draws gwledydd yr OECD.

Ariannu Gofal Iechyd mewn Cyfnodau Pan fo Chwyddiant yn Uchel - Saesneg yn unig