Datrysiadau
Iechyd a gwasanaethau iechyd
Mae’r Deddf Gofal Gwrthgyfartal yn disgrifio’r berthynas rhwng yr angen am ofal iechyd a sut y caiff ei ddefnyddio. Mae’n cydnabod mai’r bobl sydd â’r angen mwyaf am ofal iechyd sydd yn aml lleiaf tebygol o’i gael. Trwy gydol y pandemig COVID-19 nodwyd bod canlyniadau gwaeth i’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig, gan daflu goleuni unwaith eto ar anghydraddoldebau.
Pan fydd galw acíwt (er enghraifft, rhestrau aros mewn ysbytai ar ôl y pandemig) gall fod yn anodd dyrannu gwariant i atal, ond dyma’r unig ffordd o ostwng y galw acíwt pellach yn ddiweddarach. Gall offer fel Adenillion ar Fuddsoddiad ac Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad fod yn ddefnyddiol.
Wrth gynllunio a darparu gwasanaethau gofal iechyd, mae llawer o offer a thechnegau y gellir eu cymhwyso i leihau anghydraddoldebau. Mae’r rhain yn cynnwys defnyddio asesiadau o’r effaith ar iechyd, asesu anghenion iechyd, ac asesiadau economaidd.
Mae penderfyniadau ar wasanaethau yn seiliedig ar ddata: gwybodaeth gan y bobl mewn angen (er enghraifft, asesu anghenion iechyd a data epidemiolegol), lle mae’n well gwario adnoddau (er enghraifft, canllawiau NICE neu astudiaethau adenillion ar fuddsoddiad) a data ar leihau anghydraddoldebau (er enghraifft, asesiad o’r effaith ar iechyd neu asesiad effaith integredig). Mae buddsoddi’n aml yn cael ei ysgogi gan angen a data ond nid yw hyn yn wir bob amser.
Dadansoddi Penderfyniadau Aml-faen prawf a Chyllidebu Rhaglenni a Dadansoddi Ymylol
Fel system a ariennir gan drethi, mae’r GIG o dan straen parhaus gan fod y galw am ofal iechyd yn agos at fod yn anfeidraidd, tra bod adnoddau gofal iechyd yn gyfyngedig. Er mwyn creu cydbwysedd rhwng adnoddau meidraidd a dymuniadau ac anghenion anfeidraidd, mae angen gwneud dewisiadau ac o ganlyniad i hynny mae’n rhaid cymharu costau a manteision. Mae angen blaenoriaethu hefyd er mwyn cynorthwyo’r broses gwneud penderfyniadau hon fel bod adnoddau’n cael eu defnyddio mewn ffordd sy’n sicrhau’r budd mwyaf posib. Mae Dadansoddi Penderfyniadau Aml-faen prawf (MCDA) a Chyllidebu Rhaglenni a Dadansoddi Ymylol (PBMA) yn offer sy’ncynorthwyo gwneud penderfyniadau a dyrannu adnoddau fel bod manteision yn cael eu mwyafu. Maent yn cynnig fframwaith i nodi ymyriadau sy’n gost-effeithiol ac sy’n ymdrin â thegwch economaidd-gymdeithasol, sy’n gwella cynhyrchiant ac yn cadw pobl mewn gwaith yng Nghymru (e.e. ymdrin â materion cyhyrysgerbydol ac iechyd meddwl). Mae’r fframweithiau hyn yn gofyn am wybodaeth am ddangosyddion mesuradwy ar gyfer ymyriadau, er enghraifft faint o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau; faint mae gwasanaethau yn ei gostio; pa mor eang maen nhw’n cyrraedd; a ydynt yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gost-effeithiol; eu buddion (e.e. faint o bobl sy’n rhoi’r gorau i ysmygu o ganlyniad i’r ymyriad) etc. Gall y fframweithiau hyn hefyd helpu i ddatblygu dangosyddion perfformiad allweddol cyn cynnal gwerthusiad.
Adnoddau defnyddiol:
ADRODDIAD
Mynd i’r afael â’r prif ffactorau risg ar gyfer afiechyd – fframwaith ar gyfer gweithredu llywodraeth leol
Nod y ddogfen hon yw cefnogi awdurdodau lleol yn Lloegr i wneud y mwyaf o’u cwmpas lleol ar gyfer gweithredu i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau drwy ddelio â thybaco, alcohol a bwyd nad yw’n iach.
Canllawiau’r sefydliad
Grymuso ieuenctid mewn argyfyngau iechyd: offeryn gweithredu
Mae'r offeryn gweithredu hwn yn cynnig awgrymiadau sy'n seiliedig ar ymarfer ar sut i gynnwys ieuenctid yn ystyrlon mewn parodrwydd am argyfwng, ymateb i argyfwng ac adfer ar ôl argyfwng.
Grymuso ieuenctid mewn argyfyngau iechyd: offeryn gweithredu
Canllawiau’r sefydliad
Fframwaith gweithredu rhanbarthol Ewropeaidd ar gyfer mewnwelediadau ymddygiadol a diwylliannol ar gyfer iechyd, 2022–2027
Mae'n cynnig llwybrau ar gyfer hyrwyddo agenda iechyd y weithgareddau mewnwelediadau ymddygiadol a diwylliannol (BCI) tuag at bolisi, gwasanaeth a chyfathrebu iechyd sy'n canolbwyntio'n fwy ar bobl ac sy’n fwy effeithiol ar lefelau gwlad a rhanbarthol.
Canllawiau’r sefydliad
Canllawiau ar fonitro iechyd rhwng sectorau
Mae'r ddogfen hon yn crynhoi gwahanol fathau o fonitro rhwng sectorau megis monitro iechyd y boblogaeth, monitro persbectif darparwr gwasanaeth a monitro ar y cyd rhwng sectorau. Mae'n ymhelaethu ar fodel Bergen o weithredu cydweithredol ac yn cloi trwy ddarparu dangosyddion, offer, dulliau dadansoddol a fframweithiau ar gyfer monitro rhwng sectorau.
Guidance on intersectoral monitoring for health
Canllawiau’r sefydliad
Polisïau i amddiffyn plant rhag effaith niweidiol marchnata bwyd: Canllaw WHO
Mae’r canllaw WHO hwn yn rhoi argymhellion ac ystyriaethau gweithredu i Aelod-wladwriaethau ar bolisïau i amddiffyn plant rhag effaith niweidiol marchnata bwyd, yn seiliedig ar dystiolaeth benodol i blant ac i gyd-destun marchnata bwyd.
Polisïau i amddiffyn plant rhag effaith niweidiol marchnata bwyd: Canllaw WHO
ADRODDIAD
Sgiliau ar gyfer arweinyddiaeth systemau ym maes iechyd cyhoeddus: Myfyrdodau ar ymarfer Myfyrdodau ar ymarfer
Nod yr adroddiad hwn, drwy adolygiad llenyddiaeth byr a chyfweliadau ag arweinwyr systemau iechyd y cyhoedd, yw archwilio rôl arweinwyr iechyd y cyhoedd o ran ysgogi newid i sicrhau canlyniadau iechyd gwell a’r priodoleddau sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus.
OFFERYN AR-LEIN
Offeryn Darganfod Ymddygiad
Offeryn ymarferol, ar-lein i'ch tywys trwy'r ystyriaethau hanfodol i ddeall a dylanwadu ar ymddygiadau a allai fod ar waith yn eich mater yn ymwneud â gwell iechyd.
CANLLAW
Hybu Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant Canllaw ar gyfer Buddsoddiad Traws-sector ar Sail Tystiolaeth
Mae'r canllaw hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu opsiynau polisi ar gyfer buddsoddi blaenoriaethol yng Nghymru, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael yng Nghymru ac yn Ewrop. Mae'r opsiynau polisi yn ymdrin â meysydd o faich a chostau uchel, yn ogystal â dangos cyd-fanteision (enillion) i'r economi, cymdeithas a'r amgylchedd, gan gynnwys buddsoddi yn y sector iechyd, ymagwedd gydol oes at ymdrin ag iechyd a gofal cymdeithasol, a mynediad cynnar at wasanaethau iechyd meddwl. Gall y canllaw gael ei ddefnyddio gan wneuthurwyr polisi a phenderfyniadau ar draws llywodraeth genedlaethol a lleol, y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, a chyrff cyhoeddus ym mhob sector arall yng Nghymru.
CANLLAW
Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol
This practical guide by Public Health Wales is a tool to improve governance, investment and accountability for health and equity. The guide is intended to help the development of evidence-informed, context-tailored advocacy reports and other relevant documents and tools, enabling healthy policy- and decision-making across different sectors, levels of government and country settings. It aims to prevent disinvestment in health, increase investment in prevention (public health), and mainstream cross-sectoral investment to address the wider determinants of health and equity.
Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol
ADRODDIAD COVID
Gosod Tegwch Iechyd wrth Wraidd Ymateb ac Adferiad Cynaliadwy COVID-19: Adeiladu Bywydau Llewyrchus i Bawb yng Nghymru
Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi tegwch iechyd wrth wraidd ymateb ac adfer cynaliadwy yn sgil y pandemig COVID-19. Mae'r adroddiad yn archwilio effaith y pandemig ar wasanaethau iechyd yng Nghymru a'r cyfleoedd i fabwysiadu a chyflymu ymagweddau ac atebion newydd i sicrhau pobl, cymdeithasau ac economïau iachach a mwy cydnerth.
PAPUR
Gwneud y Gwahaniaeth: Taclo Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Mae'r papur byr hwn gan Gydffederasiwn GIG Cymru yn amlinellu syniadau ar ffyrdd o weithio a fyddai'n sicrhau effaith ar y cyd wrth ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd, gan gynnwys enghraifft o ymagweddau i drawsnewid y ffordd y mae pobl yn cael mynediad at iechyd a gofal ac yn dibynnu arno drwy integreiddio mentrau datblygu cymunedol â gwasanaethau sefydledig.
Gwneud y Gwahaniaeth: Taclo Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
ADRODDIAD
Lleihau Anghydraddoldebau Iechyd Drwy Fodelau Gofal Newydd: Adnodd ar gyfer Modelau Gofal Newydd
Mae'r adroddiad hwn gan y Sefydliad Tegwch Iechyd yn darparu dadansoddiad o'r cyfleoedd ar gyfer modelau gofal newydd a systemau iechyd sy'n seiliedig ar leoedd i wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd yn Lloegr. Mae'r adroddiad yn disgrifio'r cyfleoedd i sefydliadau gofal iechyd wneud mwy i wella iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Yn benodol, bod yn rhaid i wasanaethau gofal iechyd integreiddio â sectorau eraill i ffurfio systemau iechyd sy'n seiliedig ar leoedd ac yn dylanwadu ar symbylyddion iechyd cymunedol, cymdeithasol ac economaidd ehangach, yn ogystal â darparu mynediad teg i driniaethau.
Lleihau Anghydraddoldebau Iechyd Drwy Fodelau Gofal Newydd: Adnodd ar gyfer Modelau Gofal Newydd
STRATEGAETH
Cydnerthedd Systemau Iechyd yn Ystod COVID-19: Gwersi ar Gyfer Adeiladu yn ôl yn Well
Mae'r gyfres polisi iechyd hon gan Arsyllfa Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd ar Systemau a Pholisïau Iechyd yn nodi bod angen cydnerthedd ar systemau iechyd – a ddiffinnir fel y gallu i gymathu, addasu a thrawsnewid i ymdopi â sioc – er mwyn sicrhau bod swyddogaethau'r system iechyd yn cynnal eu perfformiad. Mae'r llyfr yn nodi 20 o strategaethau allweddol, wedi'u grwpio fesul y swyddogaethau systemau iechyd y nodwyd eu bod yn gwella cydnerthedd systemau iechyd yn wyneb COVID-19. Mae'r strategaethau'n disgrifio sut i sicrhau ac (ail)ddyrannu cyllid tra'n gadael neb ar eu hôl, ac yn pwysleisio pwysigrwydd llywodraethu a'r angen am fwy o weithwyr iechyd sy'n addas ar gyfer y swydd ac wedi'u cefnogi'n dda.
Cydnerthedd Systemau Iechyd yn Ystod COVID-19: Gwersi ar Gyfer Adeiladu yn ôl yn Well
CANLLAW
Gwella Ansawdd Gwasanaethau Iechyd: Offer ac Adnoddau
Mae'r compendiwm hwn gan Sefydliad Iechyd y Byd yn disgrifio offer ac adnoddau ar gyfer Aelod-wladwriaethau Sefydliad Iechyd y Byd sy'n anelu at wella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir. Mae'r compendiwm yn cynnwys offer ac adnoddau ar wella ansawdd ac yn darparu enghreifftiau o sut y mae'r offer a'r adnoddau wedi'u cymhwyso o fewn sefyllfa'r wlad. Mae'n cwmpasu amrywiaeth o feysydd technegol, o reoli ysbytai a gofal brys i ofal sylfaenol a gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Gwella Ansawdd Gwasanaethau Iechyd: Offer ac Adnoddau
DATGANIAD
Y Llwybr at Degwch Byd-eang mewn Gofal Iechyd Meddwl yng Nghyd-destun COVID-19
Mae'r sylw hwn a gyhoeddwyd yn The Lancet yn awgrymu y dylai ymdrechion i sicrhau tegwch ym maes iechyd meddwl ymdrin â: chynnwys pobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon; cywain ac integreiddio data penderfynyddion cymdeithasol i gyfeirio ymatebion y system gofal iechyd; rhoi gwasanaethau ar waith sy'n ymateb i anghenion y boblogaeth; trosoli darparwyr gofal mewn ffordd sy'n gymesur ag anghenion y boblogaeth; creu gwasanaethau arloesol a hygyrch; ymgorffori amcanion tegwch mewn gweithgareddau polisi iechyd byd-eang a rhaglenni rhyng-sectoraidd; a mesur cost-effeithiolrwydd.
Y Llwybr at Degwch Byd-eang mewn Gofal Iechyd Meddwl yng Nghyd-destun COVID-19