Amdanom ni
Y Pum Amod Hanfodol
Polisïau sy’n ceisio sicrhau argaeledd, hygyrchedd, fforddadwyedd ac ansawdd gwasanaethau ac ymyriadau ataliol a gofal iechyd. Er enghraifft, diogelu iechyd, hybu a gwella iechyd, gofal sylfaenol, eilaidd a gofal wedi’i drefnu.
Polisïau sy’n ceisio sicrhau argaeledd, hygyrchedd, fforddadwyedd ac ansawdd gwasanaethau ac ymyriadau ataliol a gofal iechyd. Er enghraifft, diogelu iechyd, hybu a gwella iechyd, gofal sylfaenol, eilaidd a gofal wedi’i drefnu.
Polisïau sydd â’r nod o sicrhau cyfleoedd ar gyfer, a mynediad ac amlygiad i, amodau byw ac amgylcheddau sy’n cael dylanwad cadarnhaol ar iechyd a lles pobl. Er enghraifft, cynllunio, tai diogel o ansawdd da, aer glân, mannau gwyrdd.
Polisïau sydd â’r nod o ddatblygu a chryfhau cysylltiadau cymdeithasol ac asedau cymunedol, gan gynnwys addysg, sgiliau, adnoddau cymunedol a phwrpasol.
Rhyngweithio cymdeithasol i hyrwyddo dysgu, a diogelu a hyrwyddo iechyd a lles drwy gydol bywyd rhywun.
Er enghraifft, gwella hyfforddiant, prentisiaethau, adeiladu cydlyniant cymunedol a gwydnwch, ymddiriedaeth, ymdeimlad o berthyn.
Polisïau sydd â’r nod o wella effaith cyflogaeth, amodau gweithio a chydraddoldeb yn y gweithle ar iechyd. Er enghraifft, argaeledd gwaith, cyflog byw, gofynion corfforol a meddyliol, sicrhau iechyd a diogelwch yn y gwaith.
Mae Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru yn rhan o fenter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi), sy’n cyflwyno Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd (WHO); a chefnogi Cymru iachach, fwy cyfartal a ffyniannus ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Cymru yw’r wlad gyntaf i gymhwyso carreg filltir menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Ewropeaidd (HESR) Sefydliad Iechyd y Byd, gan fod yn ddylanwad byd-eang a safle arloesi byw ar gyfer tegwch iechyd a buddsoddi mewn iechyd a lles, gan ddatblygu a hyrwyddo ymagweddau, offer a datrysiadau blaengar er mwyn sicrhau bywydau ffyniannus iach i bawb yng Nghymru a thu hwnt.
Mae Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru’n borth i ddata, tystiolaeth, economeg a modelu iechyd, polisïau, arfer da, offer arloesol a datrysiadau ymarferol i helpu i wella lles y boblogaeth a lleihau’r bwlch tegwch iechyd yng Nghymru a thu hwnt. Mae wedi’i strwythuro o amgylch fframwaith arloesol Sefydliad Iechyd y Byd o ‘Bum Amod Hanfodol’ ar gyfer bywydau ffyniannus ac iach i bawb. Bydd y Llwyfan yn cysylltu â phorth ecwiti iechyd Sefydliad Iechyd y Byd ac yn bwydo iddo, gan ddarparu enghraifft ac ysbrydoliaeth i wledydd ddysgu ohoni a’i dilyn, yn ogystal â chyfrannu a rhannu.
Datblygwyd WHESRi a’r Llwyfan Datrysiadau gan weithwyr proffesiynol ac arbenigwyr perthnasol ar draws Llywodraeth Cymru, Sefydliad Iechyd y Byd, cyrff academaidd a rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol eraill ledled Cymru ac yn rhyngwladol ac maent yn datblygu mewn cydweithrediad agos â hwy. Mae’n cael ei chyfeirio a’i siapio trwy adborth parhaus gan randdeiliaid a defnyddwyr a chan dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg, ac yn adlewyrchu blaenoriaethau cenedlaethol a byd-eang deinamig.
Gan weithio gyda rhanddeiliaid a defnyddwyr, bydd y Llwyfan Datrysiadau’n cael ei diweddaru a’i hehangu i gynnwys prosiectau ac astudiaethau achos sy’n canolbwyntio ar degwch iechyd o Gymru a thu hwnt. Cysylltwch â ni i gymryd rhan.
Mae’r Llwyfan Datrysiadau’n cynnwys:
- Teclyn Archwilio Data: Dewis ac arddangos dangosyddion wedi’u hidlo yn ôl cyflwr hanfodol, gyda’r opsiwn i lawrlwytho i’w defnyddio mewn cyflwyniadau
- Economeg a modelu iechyd: Archwilio’r gronfa ddata ryngweithiol ‘Cost anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru’ a gweld adnoddau economeg iechyd
- Polisi: Archwilio polisïau a deddfwriaeth Cymru sy’n helpu i leihau annhegwch a chreu cymdeithas fwy cynaliadwy a theg yng Nghymru
- DU a rhyngwladol: Gweld adnoddau o’r DU ac ar draws y byd, gan gyflwyno gwybodaeth a mewnwelediadau ar degwch iechyd
- Pobl sy’n agored i niwed ac anghenion nas diwallir: Gweld adnoddau sy’n archwilio tegwch iechyd, pobl sy’n agored i niwed ac anghenion nas diwallir yng Nghymru
- Datrysiadau: Gweld adnoddau ar atebion posib i helpu ymdrin â thegwch iechyd
- Cynhyrchu adroddiadau: Cynhyrchu a lawrlwytho adroddiadau wedi’u teilwra sy’n cyflwyno gwybodaeth ddethol o bob rhan o’r Llwyfan Datrysiadau wedi’i hidlo yn ôl math o wybodaeth (e.e. data, y DU a rhyngwladol, datrysiadau) a chyflwr hanfodol.
Gweler y fideo cyfarwyddiadol ar sut i ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch ar y Llwyfan Datrysiadau
Mae animeiddiad Platfform Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru (WHESP) yn rhoi trosolwg o ymarferoldeb y platfform ac yn arwain y defnyddiwr fesul tudalen trwy bob adran ac adnodd. Mae’n arddangos yr Adnodd Data a’r Cynhyrchydd Adroddiadau hawdd eu defnyddio, y gellir eu teilwra i’r maes diddordeb a ddymunir i gynhyrchu allbynnau i lywio gwaith a llunio mewnwelediadau.
Cael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Diweddarir Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru yn barhaus gyda’r adnoddau a’r deunyddiau diweddaraf, gan gynnwys data, polisïau, adroddiadau ac astudiaethau achos. Cysylltwch â ni i gael eich hysbysu am ddiweddariadau i’r Llwyfan Datrysiadau.
Cysylltwch â ni i gymryd rhan.
Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid a defnyddwyr i ddiweddaru ac ehangu’r Llwyfan Datrysiadau gyda phrosiectau, astudiaethau achos a nodweddion sbotolau sy’n canolbwyntio ar degwch iechyd. Cysylltwch â ni i rannu eich prosiectau a’ch storïau am lwyddiant, i’w dangos ar y llwyfan.
Y Pum Amod Hanfodol
Mae Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru wedi’i drefnu o amgylch fframwaith tegwch iechyd blaengar Sefydliad Iechyd y Byd o ‘bum amod hanfodol’ a ddatblygwyd gan Swyddfa Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Buddsoddi mewn Iechyd a Datblygu yn Fenis, yr Eidal. Y pum amod hanfodol yw’r meysydd gweithredu polisi aml-sectoraidd i ymdrin â bylchau iechyd cymhleth a pharhaus a chynyddu cyfleoedd i bawb fyw bywydau iach a llewyrchus.
Iechyd a Gwasanaethau Iechyd
Polisïau sy’n ceisio sicrhau argaeledd, hygyrchedd, fforddadwyedd ac ansawdd gwasanaethau ac ymyriadau ataliol a gofal iechyd. Er enghraifft, diogelu iechyd, hybu a gwella iechyd, gofal sylfaenol, eilaidd a gofal wedi’i drefnu.
Iechyd ac Incwm a Diogelu Cymdeithasol.
Polisïau sydd â’r nod o ddarparu sicrwydd a chymorth economaidd i leihau canlyniadau iechyd a chymdeithasol sy’n deillio o dlodi ac incwm isel drwy gydol bywyd unigolyn. Er enghraifft, cymorth ariannol i rieni, pobl hŷn neu bobl ddi-waith.
Iechyd ac Amodau Byw
Polisïau sydd â’r nod o sicrhau cyfleoedd ar gyfer, a mynediad ac amlygiad i, amodau byw ac amgylcheddau sy’n cael dylanwad cadarnhaol ar iechyd a lles pobl. Er enghraifft, cynllunio, tai diogel o ansawdd da, aer glân, mannau gwyrdd.
Iechyd a Chyfalaf Cymdeithasol a Dynol
Polisïau sydd â’r nod o ddatblygu a chryfhau cysylltiadau cymdeithasol ac asedau cymunedol, gan gynnwys addysg, sgiliau, adnoddau cymunedol a phwrpasol rhyngweithio cymdeithasol i hyrwyddo dysgu, a diogelu a hyrwyddo iechyd a lles drwy gydol bywyd rhywun. Er enghraifft, gwella hyfforddiant, prentisiaethau, adeiladu cydlyniant cymunedol a gwydnwch, ymddiriedaeth, ymdeimlad o berthyn.
Iechyd a Chyflogaeth ac Amodau Gweithio
Polisïau sydd â’r nod o wella effaith cyflogaeth, amodau gweithio a chydraddoldeb yn y gweithle ar iechyd. Er enghraifft, argaeledd gwaith, cyflog byw, gofynion corfforol a meddyliol, sicrhau iechyd a diogelwch yn y gwaith.
Cydnabyddiaeth
Datblygwyd Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru mewn cydweithrediad agos â chydweithwyr ac arbenigwyr perthnasol ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Iechyd y Byd, a rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol eraill ledled Cymru ac yn rhyngwladol, ac mae’n cael ei ddiweddaru a’i ehangu ymhellach mewn cydweithrediad agos â hwy. Mae’n cael ei chyfeirio a’i siapio trwy adborth parhaus gan randdeiliaid a defnyddwyr a chan dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg, ac yn adlewyrchu blaenoriaethau ac agendau cenedlaethol a byd-eang deinamig.
Rydym yn ddiolchgar i aelodau’r Cyd-grŵp Gwyddonol ac Ymgynghorol am eu goruchwyliaeth, arweiniad, cefnogaeth a chyfraniad parhaus i ddatblygu menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi) a Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru. Bu eu mewnbwn proffesiynol, eu hadborth a’u cyswllt ag arbenigwyr a grwpiau perthnasol eraill yn amhrisiadwy wrth ddatblygu’r llwyfan.