Mynd i'r cynnwys

Telerau Defnyddio

Nid yw’r adnoddau sydd i’w gweld ar Lwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru yn ddiamheuaeth nac yn gynhwysfawr; maent yn darparu enghreifftiau ac yn cyfeirio defnyddwyr at ddetholiad o’r wybodaeth sydd ar gael am degwch iechyd a’i benderfynyddion yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Nodwch hefyd y gall terminoleg newid dros amser ac efallai na chaiff ei hadlewyrchu yn yr adnoddau dan sylw.

Adolygir yr adnoddau yn erbyn y meini prawf dethol a ganlyn: perthnasedd yr adnodd i ddeall tegwch iechyd; cyflwyno gwybodaeth a mewnwelediadau diweddar; y math o adnodd; a’i gyhoeddiad gan ffynhonnell neu sefydliad ag enw da neu, os yw adnodd yn erthygl ymchwil, mewn siwrnal academaidd a adolygir gan gymheiriaid. Mae’r adnoddau er mwyn cyfeirio atynt yn unig. Ni chaiff unrhyw gynrychioliadau na gwarantau o unrhyw fath, eu gwneud, eu mynegi na’u hawgrymu, ynghylch cyflawnrwydd, cywirdeb, dibynadwyedd, trylwyredd methodolegol, ansawdd, addasrwydd, neu argaeledd yr adnoddau sydd ar gael ar wefannau allanol.

Barn yr awduron yw unrhyw farn a fynegir yn yr adnoddau dan sylw. Nid oes unrhyw awgrym bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cymeradwyo unrhyw sefydliad, cynnyrch neu wasanaethau penodol. Nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am gynnwys gwefannau nac adnoddau allanol, ac nid yw o reidrwydd yn cefnogi’r safbwyntiau y maent yn eu mynegi nac yn gwarantu cywirdeb yr wybodaeth y maent yn ei darparu. Y darllenydd sy’n gyfrifol am ddehongli a defnyddio’r deunydd.

Ni fydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atebol am ddifrod neu golled o ganlyniad i unrhyw weithred neu anwaith sy’n deillio o ddefnyddio gwybodaeth ar Lwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru.