Mynd i'r cynnwys

Datrysiadau
Iechyd a chyfalaf cymdeithasol a dynol

Person sitting at a laptop

Gwyddys bod cyfalaf dynol a chyfalaf cymdeithasol yn cael effaith ar iechyd a lles. Mae tystiolaeth o Ewropyn awgrymu y gall ymyriadau polisi sydd wedi’u targedu at wella cyfalaf cymdeithasol unigol wella iechyd unigolion yn uniongyrchol a chyfrannu at gyfalaf cymdeithasol cymunedol, gan atgyfnerthu rôl fuddiol cyfalaf cymdeithasol unigol.

Cyfalaf Dynol

Mae diffiniadau o gyfalaf dynol yn cwmpasu’r syniad y ceir buddsoddiadau mewn pobl fel addysg, hyfforddiant neu iechyd, a bod y buddsoddiadau hyn yn cynyddu cynhyrchiant unigolyn. Cyfalaf dynol yw gwerth sgiliau, gwybodaeth, galluoedd, rhinweddau cymdeithasol, personoliaeth a phriodoleddau iechyd unigolion. Mae’r ffactorau hyn yn galluogi unigolion i weithio, ac felly cynhyrchu rhywbeth o werth economaidd. Fe’i mesurir fel swm cyfanswm enillion posib pawb yn y farchnad lafur yn y dyfodol. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynhyrchu amcangyfrifon cyfalaf dynol ar gyfer y DU.

Mae Prifysgol Harvard wedi cynhyrchu crynodeb o sut i roi hwb i gyfalaf dynol a’r ffactorau sy’n bwysig, gan gynnwys: addysg; hyfforddiant galwedigaethol; hinsawdd o greadigrwydd; a seilwaith. Yn y DU, mae’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) wedi cyhoeddi’n eang ar gyfalaf dynol. Mae adroddiad technegol CIPD ar ddamcaniaeth cyfalaf dynol yn cyflwyno’r achos dros fuddsoddi mewn pobl fel unigolion ac o’r lefel sefydliadol, ac yn darparu cyfres o argymhellion ar gyfer gwella cyfalaf dynol gan gynnwys: hyfforddiant ffurfiol; mentora; anogaeth; tracio hwyliau a chynhyrchiant; a rheoli doniau i gadw cyfalaf dynol o fewn sefydliad neu leoliad.

Cyfalaf Cymdeithasol

Cyfalaf cymdeithasol yw’r rhwydweithiau o berthnasoedd ymhlith pobl sy’n byw ac yn gweithio mewn cymdeithas benodol, gan alluogi’r gymdeithas honno i weithredu’n effeithiol. Mae cyfalaf cymdeithasol yn deillio o’r gallu dynol i ystyried eraill, i feddwl a gweithredu’n hael ac yn gydweithredol. Mae tair agwedd graidd ar gyfalaf cymdeithasol: perthnasoedd cymdeithasol; ansawdd perthnasoedd a dealltwriaeth a rennir. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynhyrchu canfyddiadau ar gyfalaf cymdeithasol yn y DU.

Mae adolygiad systematig wedi cyflwyno tystiolaeth gref i awgrymu bod gan bobl sydd â statws economaidd-gymdeithasol is lefelau is o gyfalaf cymdeithasol yn gyffredinol, a bod diffyg cyfalaf cymdeithasol yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol mewn iechyd. At hynny, gall y cyfalaf cymdeithasol hynny rhwng perthnasau agos neu gymunedau clos wrthbwyso rhai o effeithiau negyddol statws economaidd-gymdeithasol isel ar iechyd.

Mae llythrennedd iechyd yn nodwedd allweddol o gyfalaf cymdeithasol. Hwnyw’r adnoddau cymdeithasol y mae eu hangen ar unigolion a chymunedau i ddod o hyd i wybodaeth a gwasanaethau, eu deall, eu gwerthuso a’u defnyddio i wneud penderfyniadau am iechyd. Mae llythrennedd iechyd  yn grymuso pobl i wneud dewisiadau cadarnhaol ac yn alluogwr sy’n cefnogi hyrwyddo tegwch drwy wella mynediad pobl at wybodaeth iechyd, a’u gallu i’w defnyddio’n effeithiol. Mae gan ddatblygiadau iechyd digidol y potensial i helpu i wella mynediad, lleihau costau’r system gofal iechyd a gwella deilliannau iechyd. Fodd bynnag, mae gan atebion technoleg i lythrennedd iechyd digidol y potensial i hyrwyddo llythrennedd iechyd a bod yn rhwystr ill dau. Hefyd, mae tystiolaeth o sut mae gwahanol agweddau ar gyfalaf cymdeithasol yn effeithio ar wahanol ddeilliannau iechyd  i wahanol actorion yn parhau’n aneglur, a phrin yw’r llenyddiaeth ar fanteision iechyd ymyriadau cyfalaf cymdeithasol.

Adnoddau defnyddiol:

CANLLAW

Hybu Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant Canllaw ar gyfer Buddsoddiad Traws-sector ar Sail Tystiolaeth

Mae'r canllaw hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu opsiynau polisi ar gyfer buddsoddi blaenoriaethol yng Nghymru, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael yng Nghymru ac yn Ewrop. Mae'r opsiynau polisi yn ymdrin â meysydd o faich a chostau uchel, yn ogystal â dangos cyd-fanteision (enillion) i'r economi, cymdeithas a'r amgylchedd, gan gynnwys buddsoddi mewn addysg a gofal cynnar o safon, cyfleoedd dysgu gydol oes a hyfforddiant swyddi a chefnogi dysgu oedolion a llythrennedd iechyd. Gall y canllaw gael ei ddefnyddio gan wneuthurwyr polisi a phenderfyniadau ar draws llywodraeth genedlaethol a lleol, y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, a chyrff cyhoeddus ym mhob sector arall yng Nghymru.

Hybu Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant Canllaw ar gyfer Buddsoddiad Traws-sector ar Sail Tystiolaeth


CANLLAW

Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol

Mae'r canllaw ymarferol hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn offeryn i wella llywodraethu, buddsoddi ac atebolrwydd ar gyfer iechyd a thegwch. Bwriad y canllaw yw helpu i ddatblygu adroddiadau eiriolaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'u teilwra i'r cyd-destun a dogfennau ac offer perthnasol eraill, gan alluogi polisïau a gwneud penderfyniadau iach ar draws gwahanol sectorau, lefelau'r llywodraeth a sefyllfa'r wlad. Ei nod yw atal dadfuddsoddi mewn iechyd, cynyddu buddsoddiad mewn atal (iechyd y cyhoedd), a buddsoddiad traws-sectoraidd prif ffrwd i ymdrin â phenderfynyddion ehangach iechyd a thegwch.

Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol


ADRODDIAD COVID

Gosod Tegwch Iechyd wrth Wraidd Ymateb ac Adferiad Cynaliadwy COVID-19: Adeiladu Bywydau Llewyrchus i Bawb yng Nghymru

Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi tegwch iechyd wrth wraidd ymateb ac adfer cynaliadwy yn sgil y pandemig COVID-19 ac yn archwilio effeithiau tarfu ar addysg, defnyddio technoleg ddigidol a chyfryngau cymdeithasol, a gwirfoddoli yng Nghymru.

Gosod Tegwch Iechyd wrth Wraidd Ymateb ac Adferiad Cynaliadwy COVID-19: Adeiladu Bywydau Llewyrchus i Bawb yng Nghymru


ADRODDIAD

Cyfranogiad Fel Ysgogydd i Degwch Iechyd

Mae'r adroddiad hwn gan Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd yn nodi y gall hyrwyddo systemau cyfranogiad cymdeithasol fod yn fformiwla effeithlon ar gyfer lleihau annhegwch ym maes iechyd.

Cyfranogiad Fel Ysgogydd i Degwch Iechyd - Saesneg yn unig


PAPUR

Gwneud y Gwahaniaeth: Taclo Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru

Mae'r papur byr hwn gan Gydffederasiwn Cymru yn amlinellu syniadau ar ffyrdd o weithio a fyddai'n sicrhau effaith gyfunol wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, gan gynnwys ymagweddau sy'n blaenoriaethu gwerth cysylltedd cymdeithasol ochr yn ochr ag iechyd.

Gwneud y Gwahaniaeth: Taclo Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru - Saesneg yn unig


ADRODDIAD COVID

Mynd i’r Afael ag Unigrwydd yng Nghymru yn Ystod y Pandemig ac Wedyn - Syniadau Rhanddeiliaid ar Gyfer Gweithredu

Mae'r adroddiad hwn gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) yn nodi pum maes gweithredu ar gyfer taclo unigrwydd, gan ganolbwyntio ar dechnoleg, rôl cymunedau, profiad grwpiau sy'n agored i niwed, rheoli'r broses o bontio o COVID-19, a gwella cydweithio a ffyrdd cyfunol o weithio.

Mynd i’r Afael ag Unigrwydd yng Nghymru yn Ystod y Pandemig ac Wedyn - Syniadau Rhanddeiliaid ar Gyfer Gweithredu


ADRODDIAD

Cefnogi System Dysgu Gydol Oes Cymru

Mae'r adroddiad hwn gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn nodi manteision mabwysiadu strategaeth dysgu gydol oes i bob oed. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at sut y gall dysgu gydol oes a chaffael sgiliau helpu i ddod o hyd i atebion a fydd yn helpu'r economi a lles trigolion Cymru ac yn awgrymu defnyddio dysgu i hyrwyddo ymagwedd ataliol at iechyd.

Cefnogi System Dysgu Gydol Oes Cymru


CANLLAW

Dyfodol Gwell Cymru: Pecyn Cymorth

Mae'r pecyn cymorth hwn yn darparu offer ymarferol i helpu i ymestyn y dychymyg a rennir ynghylch yr hyn a allai fod yn bosib yn y dyfodol, ac i gefnogi cymunedau i nodi dyfodol a ddymunir a gwneud cynlluniau penodol i weithio tuag at y dyfodol hwnnw. Datblygwyd y pecyn cymorth drwy ymarfer rhagwelediad cymunedol peilot gyda grwpiau gwirfoddol a chymunedol ar draws tair cymuned wahanol yng Nghymru.

Dyfodol Gwell Cymru: Pecyn Cymorth


CANLLAW

Llythrennedd Iechyd Digidol: Sut y Gall Sgiliau Newydd Helpu i Wella Iechyd, Tegwch a Chynaladwyedd

Mae'r crynodeb polisi hwn gan EuroHealthNet ynymchwilio i lythrennedd iechyd digidol a'r hyn y mae'n ei olygu ar gyfer tegwch iechyd. Mae hefyd yn edrych ar arferion addawol gan ein haelodau ar lawr gwlad a sut y gellir gwneud cynnydd pellach ar draws Ewrop.

Llythrennedd Iechyd Digidol: Sut y Gall Sgiliau Newydd Helpu i Wella Iechyd, Tegwch a Chynaladwyedd - Saesneg yn unig