Mynd i'r cynnwys

Anghenion nas diwallwyd a bod yn agored i niwed

Trosolwg

Mae’r gwahaniaethau sy’n creu bylchau iechyd yn tanseilio tegwch iechyd. Maent yn deillio o amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys yr amgylchiadau lle cawn ein geni ac yr ydym yn byw, megis ein tai, ein haddysg a’n gwaith. Maent yn aml wedi’u gwaethygu gan wahaniaethu, ystrydebu a rhagfarn sy’n seiliedig ar  ffactorau ar lefel yr unigolyn, y mae llawer ohonynt yn nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, megis ein rhyw, hil, rhywedd neu oedran. Gall pob un o’r ffactorau hyn arwain at fylchau iechyd ar eu pennau eu hunain, ond gallant hefyd orgyffwrdd ac, yn eu tro, creu anfanteision lluosog a dyfnhau annhegwch iechyd.

Mae annhegwch iechyd wedi’i gysylltu ers amser maith â phrosesau ac amodau sy’n atal neu’n cyfyngu’n systematig ar grwpiau poblogaeth rhag cael cynhwysiad economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol. Yn fwy diweddar, mae’r pandemig COVID-19 wedi gwaethygu annhegwch iechyd presennol, gan dynnu sylw pellach at anfantais a gwahaniaethu strwythurol. Mae’r pandemig hefyd wedi arwain at fylchau newydd mewn meysydd megis y gallu i weithio o gartref a mynediad digidol, gan greu ysgogyddion bod yn agored i niwed sy’n dod i’r amlwg ac anghenion nas diwallwyd. At hynny, mae pwysau costau byw yn cael effeithiau arwyddocaol a all danseilio annhegwch ym maes iechyd, yn enwedig yn achos yr aelwydydd tlotaf yng Nghymru.

Y Pum Amod Hanfodol

Mae’r adran hon yn rhoi enghreifftiau o adnoddau sy’n ymchwilio i anghydraddoldebau iechyd yng nghyd-destun bod yn agored i niwed ac anghenion nas diwallwyd, wedi’u halinio i’r pum amod hanfodol. Mae’r adnoddau’n cwmpasu ystod o’r nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys lle maent yn gorgyffwrdd ac yn arwain at anfantais luosog, y cyfeirir atynt weithiau fel ‘croestoriadedd’ nodweddion gwarchodedig. Ymdrinnir hefyd ag amgylchiadau eraill nad ydynt yn cael eu hystyried yn nodweddion gwarchodedig, megis amddifadedd a digartrefedd.

Ymhlith yr adnoddau dan sylw mae adroddiadau, briffiau polisi, briffiau ymchwil ac erthyglau ymchwil mewn siwrnalau academaidd a adolygwyd gan gymheiriaid. Mae’r holl adnoddau’n canolbwyntio ar anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru (gweler y DU ac yn rhyngwladol am adnoddau nad ydynt yn ymwneud â Chymru).

Cael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Diweddarir Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru yn barhaus gyda’r adnoddau a’r deunyddiau diweddaraf, gan gynnwys data, polisïau, adroddiadau ac astudiaethau achos. Cysylltwch â ni i gael eich hysbysu am ddiweddariadau i’r Llwyfan Datrysiadau.

Cysylltwch â ni i gymryd rhan.

Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid a defnyddwyr i ddiweddaru ac ehangu’r Llwyfan Datrysiadau gyda phrosiectau, astudiaethau achos a nodweddion sbotolau sy’n canolbwyntio ar degwch iechyd. Cysylltwch â ni i rannu eich prosiectau a’ch storïau am lwyddiant, i’w dangos ar y llwyfan.