Mynd i'r cynnwys

Y DU a rhyngwladol

Trosolwg

Mae annhegwch iechyd hirsefydlog a pharhaus yr un mor amlwg yng Nghymru ag y mae ar draws Ewrop a gweddill y byd.  Mae Agenda Datblygu Cynaliadwy 2030 y Cenhedloedd Unedig yn pennu 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG, neu Nodau Byd-eang) gyda Nod 10 yn canolbwyntio’n benodol ar leihau anghydraddoldebau; a phob Nod arall yn cael effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol ar les pobl a’r bwlch iechyd. Y nodau sy’n arbennig o berthnasol yw Nod 1 Dim tlodi; Nod 2 Dim newyn; Nod 3 Iechyd a Lles Da; Nod 4 Addysg o safon; Nod 5 Cydraddoldeb Rhywiol a Nod 8 Gwaith da a thwf economaidd.

SDGs sy’n ymwneud yn benodol â gwella iechyd a thegwch

Gall gwella iechyd a lles i bawb, lleihau annhegwch ym maes iechyd a sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl ddod â manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach i boblogaethau, gan gyfrannu at dwf economaidd cynhwysol a datblygu cynaliadwy.

Fodd bynnag, mae’r cynnydd tuag at y Grwpiau Datblygu Cynaliadwy ledled y byd wedi’i atal gan bandemig y Coronafeirws.

Wedi’u halinio â’r Grwpiau Datblygu Cynaliadwy, nod trydydd Rhaglen Waith Gyffredinol ar ddeg Sefydliad Iechyd y Byd 2019–2025 yw sicrhau bywydau iach a hyrwyddo lles i bawb o bob oedran. Er mwyn ysgogi a hwyluso gweithredu, datblygodd Swyddfa Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Buddsoddi mewn Iechyd a Datblygu yn Fenis, Yr Eidal, y fenter Adroddiadau Statws Ecwiti Iechyd (HESRi) i ymchwilio i’r heriau, y cyfleoedd a’r opsiynau allweddol i: a) ddileu’r rhwystrau sy’n dal pobl yn ôl mewn iechyd ac mewn bywyd; a b) creu’r amodau i bawb lwyddo a ffynnu mewn iechyd ac mewn bywyd. Mae hefyd yn darparu methodoleg flaengar a set o offer i hyrwyddo a chefnogi camau polisi dros degwch iechyd a lles.  

Yn dilyn hyn, mabwysiadwyd y Penderfyniad cyntaf ar Gyflymu cynnydd tuag at fywydau iach a ffyniannus i bawb, cynyddu tegwch iechyd a gadael neb ar ôl yn Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd, gan gydnabod bod lleihau a dileu annhegwch ym maes iechyd yn gyfraniad angenrheidiol at dwf cynhwysol a datblygu cynaliadwy.

Mae Rhaglen Waith Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd , 2020–2025 “Gweithredu ar y Cyd dros Iechyd Gwell yn Ewrop” wedi rhoi pwyslais cryf ar ‘adael neb ar ôl’ er mwyn ymdrin â her barhaus annhegwch ym maes iechyd ar draws y Rhanbarth Ewropeaidd. Yn y DU, mae Sefydliad Tegwch Iechyd UCL wedi bod yn arwain ac yn cydweithio ar waith i ymdrin â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd a gwella tegwch iechyd, datblygu a chefnogi adolygiadau, ymagweddau a chapasiti.

Bu cydweithio hirsefydlog rhwng Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd, gan gryfhau gwybodaeth, gallu a phartneriaeth ryngwladol dros wella lles a thegwch iechyd, atal a thaclo bygythiadau i bobl ac i gymdeithas; a sicrhau datblygu cynaliadwy. Mae Canolfan Cydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi mewn Iechyd a Lles (WHO CC) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda Swyddfa Ranbarthol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ewrop a’r Swyddfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddi mewn Iechyd a Datblygu yn Fenis, Yr Eidal i gryfhau rôl flaenllaw Cymru o ran ysgogi buddsoddiad cynaliadwy mewn lles poblogaeth a thegwch iechyd, a chefnogi ffyniant i bawb. Trwy sefydlu WHESRi, mae Cymru wedi cael ei chydnabod fel dylanwadwr byd-eang ac yn safle arloesi byw ar gyfer tegwch iechyd, gan roi esiampl ac ysbrydoliaeth i wledydd a rhanbarthau eraill; yn ogystal â dysgu o arfer gorau, arbenigedd ac ymagweddau arloesol rhyngwladol.

Wedi’i gychwyn i lywio a chefnogi ymateb ac adferiad pandemig COVID-19, mae adroddiadau Sganio’r Gorwel Rhyngwladol a Dysgu Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu tystiolaeth ryngwladol helaeth ar effeithiau iechyd, lles, cymdeithasol ac economaidd COVID-19. Nid yw’r effeithiau hyn wedi’u teimlo’n gyfartal ac maent wedi arwain at fylchau a gwendidau iechyd cynyddol, gan ddod â heriau newydd a digynsail i boblogaethau, systemau iechyd a llywodraethau ar draws y byd. Maent wedi amlygu annhegwch cymdeithasol, gwahaniaethu a bylchau iechyd ymhellach o fewn a rhwng gwledydd, gan arwain at alwadau i ‘adeiladu’n ôl yn decach‘. Mae’r adroddiadau bellach wedi ehangu o ran cwmpas i gynnwys pynciau iechyd cyhoeddus â blaenoriaeth.

Y Pum Amod Hanfodol

Mae’r adran hon yn cynnwys enghreifftiau o adnoddau ar natur ac effeithiau anghydraddoldebau iechyd, gan gysylltu â’r Pum Amod Hanfodol ar gyfer iechyd. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys:

  • Dangosfwrdd rhyngweithiol
  • Adroddiadau
  • Canllawiau
  • Erthyglau ymchwil

Cael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Diweddarir Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru yn barhaus gyda’r adnoddau a’r deunyddiau diweddaraf, gan gynnwys data, polisïau, adroddiadau ac astudiaethau achos. Cysylltwch â ni i gael eich hysbysu am ddiweddariadau i’r Llwyfan Datrysiadau.

Cysylltwch â ni i gymryd rhan.

Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid a defnyddwyr i ddiweddaru ac ehangu’r Llwyfan Datrysiadau gyda phrosiectau, astudiaethau achos a nodweddion sbotolau sy’n canolbwyntio ar degwch iechyd. Cysylltwch â ni i rannu eich prosiectau a’ch storïau am lwyddiant, i’w dangos ar y llwyfan.


Adnoddau defnyddiol:

ADNODD

Sefydliad Iechyd y Byd Menter Adroddiadau Statws Ecwiti Iechyd

Sydd â'r nod o symud y ffocws gwleidyddol a pholisi o ddisgrifio'r broblem i gofnodi cynnydd a galluogi gweithredu i gynyddu tegwch mewn iechyd.

Sefydliad Iechyd y Byd Menter Adroddiadau Statws Ecwiti Iechyd - Saesneg yn unig


ADNODD

Sefydliad Iechyd y Byd Penderfynyddion Cymdeithasol Iechyd

Cyflwyno gwybodaeth am annhegwch mewn iechyd a sut y caiff ei bennu'n gymdeithasol, gan atal poblogaethau tlotach rhag symud i fyny mewn cymdeithas a gwneud y gorau o'u potensial.

Sefydliad Iechyd y Byd Penderfynyddion Cymdeithasol Iechyd - Saesneg yn unig


ADNODD

Sefydliad Iechyd y Byd Cyfres Gweminarau Fyd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar Ecwiti, COVID-19 a Phenderfynyddion Cymdeithasol Iechyd

Trafod yr effeithiau anghymesur y mae'r pandemig COVID-19 yn eu cael ar grwpiau poblogaeth mwy difreintiedig, gan ganolbwyntio ar sut mae'n ehangu annhegwch ym maes iechyd.

Sefydliad Iechyd y Byd Cyfres Gweminarau Fyd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar Ecwiti, COVID-19 a Phenderfynyddion Cymdeithasol Iechyd - Saesneg yn unig


ADNODD

Gweithredu ar y Cyd Tegwch Iechyd Ewrop (JAHEE)

Cyfrannu at ymdrechion i sicrhau gwell tegwch mewn deilliannau iechyd ar draws pob grŵp mewn cymdeithas yn y gwledydd sy'n cymryd rhan ac yn Ewrop yn gyffredinol a lleihau heterogenedd rhwng gwledydd wrth daclo anghydraddoldebau iechyd.

Gweithredu ar y Cyd Tegwch Iechyd Ewrop (JAHEE) - Saesneg yn unig


ADNODD

Y Ganolfan Ymchwil Anghydraddoldebau Iechyd Byd-eang (CHAIN)

Dwyn ynghyd ymchwilwyr o ranbarthau'r byd a gwahanol ddisgyblaethau ymchwil i ddatblygu'r sefyllfa bresennol drwy gynnig mewnwelediadau newydd o arbrofion cymdeithasol, labordy a naturiol i'r mecanweithiau achlysurol sy'n cysylltu statws economaidd-gymdeithasol ac iechyd.

Y Ganolfan Ymchwil Anghydraddoldebau Iechyd Byd-eang (CHAIN) - Saesneg yn unig


ADNODD

EuroHealthNet Porth Anghydraddoldebau Iechyd

Hyb gwybodaeth ar anghydraddoldebau iechyd yn Ewrop sy'n darparu gwybodaeth am amrywiaeth o feysydd, megis cyllid, data, mentrau ac offer.

EuroHealthNet Porth Anghydraddoldebau Iechyd - Saesneg yn unig


ADNODD

The Lancet Group Hyrwyddo Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiad

Hyrwyddo tegwch, amrywiaeth a chynhwysiad (EDI) fel ymrwymiad i iechyd i bawb.

The Lancet Group Hyrwyddo Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiad - Saesneg yn unig


ADNODD

Y Sefydliad Iechyd Hyb Tystiolaeth: Beth sy'n Gyrru Anghydraddoldebau Iechyd?

Darparu data, mewnwelediadau a dadansoddiadau yn ymchwilio i sut mae amgylchiadau yr ydym yn byw ynddynt yn siapio ein hiechyd.

Y Sefydliad Iechyd Hyb Tystiolaeth: Beth sy'n Gyrru Anghydraddoldebau Iechyd? - Saesneg yn unig


ADNODD

Coleg Prifysgol Llundain Sefydliad Ecwiti Iechyd

Cefnogi gwell tegwch iechyd drwy adeiladu'r sylfaen dystiolaeth, dylanwadu ar gamau gweithredu sy'n gweithio, a meithrin gallu.

Coleg Prifysgol Llundain Sefydliad Ecwiti Iechyd - Saesneg yn unig


ADNODD

Sicrhau Cynnydd o ran y Nodau Datblygu Cynaliadwy Mewn Argyfyngau Rheolaidd

Canolbwyntir ar effaith gronnus COVID, y rhyfel yn Wcráin a’r argyfwng hinsawdd mewn cyd-destun economaidd. Mae’r adroddiad hwn gan y Cenhedloedd Unedig yn edrych ar yr effaith anghymesur ar y rhai sydd fwyaf agored i niwed ac mae’n canolbwyntio ar ddatrysiadau drwy gynnwys 'map ffordd i gyflymu cynnydd y Nodau Datblygu Cynaliadwy'

Sicrhau Cynnydd o ran y Nodau Datblygu Cynaliadwy Mewn Argyfyngau Rheolaidd - Saesneg yn unig


ADNODD

Yr Argyfwng Costau Byw: Sut mae'n Effeithio ar Blant yn Ewrop a Beth sydd Angen i Lywodraethau ei Wneud

Gan edrych ar yr argyfwng tlodi plant yn Ewrop a achoswyd yn rhannol gan y pandemig COVID a’r rhyfel yn Wcráin, mae’r adroddiad hwn gan Achub y Plant yn rhoi cipolwg ar 12 gwlad Ewropeaidd, yn dangos effaith yr argyfwng costau byw ar blant/teuluoedd. Mae’n canolbwyntio ar ddatrysiadau yn yr ystyr ei fod yn darparu gwybodaeth ac enghreifftiau o ymyriadau'r llywodraeth ac yn cynnig argymhellion.

Yr Argyfwng Costau Byw: Sut mae'n Effeithio ar Blant yn Ewrop a Beth sydd Angen i Lywodraethau ei Wneud - Saesneg yn unig


ADNODD

Mynd i'r Afael â'r Argyfwng Costau Byw Mewn Gwledydd sy'n Datblygu: Rhagolygon Mewn Perthynas â Thlodi a’r Perygl o Fynd i Dlodi ac Ymatebion Polisi

Mae’r adroddiad hwn gan y Cenhedloedd Unedig yn archwilio effaith yr argyfwng costau byw ar yr economi fyd-eang, gan edrych ar effeithiau hyn ar newidiadau i dlodi a’r perygl o fynd i dlodi. Mae’n canolbwyntio ar ddatrysiadau drwy gynnwys ymatebion polisi.

Mynd i'r Afael â'r Argyfwng Costau Byw Mewn Gwledydd sy'n Datblygu: Rhagolygon Mewn Perthynas â Thlodi a’r Perygl o Fynd i Dlodi ac Ymatebion Polisi - Saesneg yn unig


CANLLAW

Sut i Ddiogelu Tegwch Eich Polisïau a’ch Ymyriadau: Canllaw Adnoddau ar Gyfer Cynllunwyr a Llunwyr Polisi i Osgoi Gadael Neb ar ôl

Mae’r pecyn cymorth hwn yn rhoi adnoddau ategol i’r Fenter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd. Mae’n cynnig arweiniad sy’n hawdd i’w ddefnyddio ac yn ymwneud â datblygu dulliau cynhwysol, cyfranogol ar gyfer llunio polisïau sy’n ystyried grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli yn y data sydd ar gael.

Sut i Ddiogelu Tegwch Eich Polisïau a’ch Ymyriadau: Canllaw Adnoddau ar Gyfer Cynllunwyr a Llunwyr Polisi i Osgoi Gadael Neb ar ôl – Saesneg yn unig