Mynd i'r cynnwys

Economeg iechyd a modelu
Iechyd ac amodau byw

A woman in distress in a living room with broken bottles

Adnoddau

ADRODDIAD

Adolygiad o dystiolaeth am anfantais economaidd-gymdeithasol ac anghydraddoldebau canlyniadau

Adolygiad cyflym o lenyddiaeth yw hwn a oedd yn ceisio rhoi darlun o anfantais economaidd-gymdeithasol a’r anghydraddoldebau cysylltiedig o ran canlyniadau yng Nghymru yn enwedig mewn cymunedau penodol, gan ganolbwyntio ar y rhai â nodweddion gwarchodedig a chymunedau a/neu fannau o ddiddordeb.

Adolygiad o dystiolaeth am anfantais economaidd-gymdeithasol ac anghydraddoldebau canlyniadau


ADRODDIAD

Beth Nesaf? Y Materion o Bwys ar Gyfer y Chweched Senedd

Mae'r adroddiad hwn gan Adran Ymchwil Senedd Cymru'n ymchwilio i faterion polisi cymdeithasol, economaidd a chyhoeddus heriol cyfredol yng Nghymru, gan gynnwys yr her o roi terfyn ar ddigartrefedd a materion cludiant cyhoeddus, ffermio a natur.

Beth Nesaf? Y Materion o Bwys ar Gyfer y Chweched Senedd


ADRODDIAD

Costau a Chanlyniadau Trais i'r System Gofal Iechyd yng Nghymru

Mae'r adroddiad hwn gan Brifysgol John Moores Lerpwl yn nodi ac yn mesur costau trais i'r system gofal iechyd yng Nghymru, gan ddefnyddio dulliau costau salwch (COI). Mae'n dod i'r casgliad bod trais yn gosod baich economaidd mawr ar y system gofal iechyd yng Nghymru, gydag amcangyfrif o £46.6 miliwn yn cael ei wario ar ymdrin â deilliannau tymor byr trais yn 2018/19.

Costau a Chanlyniadau Trais i'r System Gofal Iechyd yng Nghymru - Saesneg yn unig


ADRODDIAD

Gamblo Fel Mater Iechyd Cyhoeddus yng Nghymru

Mae'r adroddiad hwn gan Brifysgol Bangor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i effeithiau ariannol, iechyd a chymdeithasol gamblo, pa grwpiau sy'n fwy agored i niwed o ganlyniad i gamblo, a'r hyn y gellir ei wneud i atal niwed o ganlyniad i gamblo yng Nghymru. .

Gamblo Fel Mater Iechyd Cyhoeddus yng Nghymru


ADRODDIAD

Adolygiad o Dystiolaeth o Niwed Gysylltiedig â Gamblo: Cost Economaidd a Chymdeithasol y Niwed

Amcangyfrifodd yr adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr y gost uniongyrchol ychwanegol i lywodraeth a'r gost ychwanegol i gymdeithas ehangach sy'n gysylltiedig â gamblwyr problemus ac mewn perygl yn Lloegr.

Adolygiad o Dystiolaeth o Niwed Gysylltiedig â Gamblo: Cost Economaidd a Chymdeithasol y Niwed - Saesneg yn unig


CANLLAW

Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol

Mae'r canllaw ymarferol hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlinellu proses gam wrth gam o sut i syntheseiddio, trosi a chyfathrebu tystiolaeth iechyd y cyhoedd ac economeg iechyd i bolisi ac arfer, gan gyflwyno'r achos dros fuddsoddi cynaliadwy mewn lles a thegwch iechyd. Mae'r canllaw yn dadlau bod iechyd y boblogaeth yn ased economaidd ac yn fuddiant cynhyrchiol. Y bwriad yw helpu rhanddeiliaid allweddol, eiriolwyr dros iechyd a thegwch, gweision sifil a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd a rhai nad ydynt yn ymwneud ag iechyd ond sydd â rôl wrth gyfeirio, dylanwadu ar neu lunio polisi ac arfer cenedlaethol ac is-genedlaethol.

Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol


CANLLAW

Hybu Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant Canllaw ar gyfer Buddsoddiad Traws-sector ar Sail Tystiolaeth

Mae'r canllaw hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu opsiynau polisi ar gyfer buddsoddi blaenoriaethol yng Nghymru, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael yng Nghymru ac yn Ewrop. Mae'r opsiynau polisi yn ymdrin â meysydd o faich a chostau uchel, yn ogystal â dangos cyd-fanteision (enillion) i'r economi, cymdeithas a'r amgylchedd, gan gynnwys buddsoddi mewn mentrau cynllunio gofodol a threfol, cymunedau cefnogol a chydnerth, cymunedau gwyrddach a mwy diogel, ac ymyriadau tai amlochrog. Gall y canllaw gael ei ddefnyddio gan wneuthurwyr polisi a phenderfyniadau ar draws llywodraeth genedlaethol a lleol, y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, a chyrff cyhoeddus ym mhob sector arall yng Nghymru.

Hybu Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant Canllaw ar gyfer Buddsoddiad Traws-sector ar Sail Tystiolaeth


ADRODDIAD

Economïau Cylchol ac Iechyd a Llesiant Cynaliadwy

Mae’r adroddiad, ‘Economïau Cylchol ac Iechyd a Llesiant Cynaliadwy: Effaith iechyd cyhoeddus pan fydd cyrff cyhoeddus yn ailganolbwyntio ar leihau ac ailddefnyddio gwastraff yng Nghymru’, yn nodi sut y bydd gweithredu polisïau i leihau ac ailddefnyddio gwastraff, ochr yn ochr â chynlluniau ailgylchu yn cael effeithiau cadarnhaol posibl ar iechyd a llesiant ar gyfer poblogaeth gyfan Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys cyfrannu at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a thrwy hynny leihau llygredd aer, lleihau’r risg o ddigwyddiadau tywydd eithafol, cynhyrchu mwy o fwyd yn gynaliadwy a gwella iechyd meddwl a llesiant.

Economïau Cylchol ac Iechyd a Llesiant Cynaliadwy