Llwyfan Datrysiadau Ecwiti Iechyd Cymru
Y Pum Amod Hanfodol
Polisïau sy’n ceisio sicrhau argaeledd, hygyrchedd, fforddadwyedd ac ansawdd gwasanaethau ac ymyriadau ataliol a gofal iechyd. Er enghraifft, diogelu iechyd, hybu a gwella iechyd, gofal sylfaenol, eilaidd a gofal wedi’i drefnu.
Polisïau sy’n ceisio sicrhau argaeledd, hygyrchedd, fforddadwyedd ac ansawdd gwasanaethau ac ymyriadau ataliol a gofal iechyd. Er enghraifft, diogelu iechyd, hybu a gwella iechyd, gofal sylfaenol, eilaidd a gofal wedi’i drefnu.
Polisïau sydd â’r nod o sicrhau cyfleoedd ar gyfer, a mynediad ac amlygiad i, amodau byw ac amgylcheddau sy’n cael dylanwad cadarnhaol ar iechyd a lles pobl. Er enghraifft, cynllunio, tai diogel o ansawdd da, aer glân, mannau gwyrdd.
Polisïau sydd â’r nod o ddatblygu a chryfhau cysylltiadau cymdeithasol ac asedau cymunedol, gan gynnwys addysg, sgiliau, adnoddau cymunedol a phwrpasol.
Rhyngweithio cymdeithasol i hyrwyddo dysgu, a diogelu a hyrwyddo iechyd a lles drwy gydol bywyd rhywun.
Er enghraifft, gwella hyfforddiant, prentisiaethau, adeiladu cydlyniant cymunedol a gwydnwch, ymddiriedaeth, ymdeimlad o berthyn.
Polisïau sydd â’r nod o wella effaith cyflogaeth, amodau gweithio a chydraddoldeb yn y gweithle ar iechyd. Er enghraifft, argaeledd gwaith, cyflog byw, gofynion corfforol a meddyliol, sicrhau iechyd a diogelwch yn y gwaith.
Ni fu sylw i degwch iechyd* a sicrhau bywydau ffyniannus ac iach i bawb erioed yn bwysicach.
Mae gan Gymru hanes a thraddodiad hir o gynnal polisïau cyffredinol, lles, cynaladwyedd ac ymagweddau at les y boblogaeth sy’n seiliedig ar hawliau. Fodd bynnag, mae’r tueddiadau o ran lleihau’r bwlch iechyd yn gymysg, mae cyfradd y gwelliant yn arafach na’r disgwyl, ac mae grwpiau newydd yn dod i’r amlwg gyda risg anghymesur o uwch o iechyd gwael a marwolaeth a chlefyd cynamserol.
Mae annhegwch iechyd yn fater hirsefydlog yng Nghymru, fel y mae mewn llawer o wledydd ledled y byd. Maent yn effeithio’n anghymesur ar bobl, grwpiau a chymunedau difreintiedig, a’u ddeilliannau iechyd, yn enwedig ymhlith y rhai sy’n byw yn y rhannau mwyaf difreintiedig o’r wlad neu’r rhai sydd ag anghenion neu fregusrwydd nas diwallir. Y canlyniad yw bod ein cymdeithasau’n parhau i fod ar ei hôl hi o ran iechyd a lles, ac mae hyn yn ei dro yn atal eu cyfleoedd i fyw bywydau llawn a llewyrchus.
Nid yw annhegwch iechyd yn anochel. Mae’n deillio o anghydraddoldebau o fewn a rhwng gwledydd a chymdeithasau, ac yn ganlyniad i ffactorau niferus ac amrywiol gan gynnwys yr amodau y mae pobl yn cael eu geni, yn tyfu i fyny, yn byw, yn gweithio ac yn heneiddio ynddynt, ac o stigma a gwahaniaethu, megis ar sail hil a rhyw. Gall y materion hyn ddwysáu a gwaethygu ei gilydd, ac yn aml maent yn arwain at effeithiau negyddol gydol oes, megis deilliannau iechyd corfforol a meddyliol gwaeth.
Mae’r un ffactorau hyn wedi bod yn sail i lwybrau allweddol o ran creu annhegwch yn y coronafeirws newydd (COVID-19), sydd nid yn unig wedi ehangu’r bylchau iechyd fu’n bodoli eisoes ond sydd hefyd wedi arwain at heriau newydd a gwendidau newydd.
Mae arnom angen gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n symbylu bylchau mewn iechyd dros amser a chyfeirio cliriach at y dystiolaeth, polisïau, ymagweddau ac offer lluosog a fydd yn sicrhau’r deilliannau gorau o ran tegwch iechyd. Mae cynnydd go iawn yn golygu ymgysylltu â phartneriaid newydd, adeiladu a chryfhau cynghreiriau, blaenoriaethu buddsoddiad a chwalu’r rhwystrau allweddol i lwyddiant. Mae’r wybodaeth hon yn hollbwysig i feithrin cefnogaeth wleidyddol a thraws-sector dros weithredu, i ganolbwyntio ar atebion, ac i alluogi deialog gonest a chynhwysol ynghylch pam mae lleihau annhegwch iechyd yn bwysig i bawb, mae’n galluogi twf economaidd cynhwysol ac yn sbarduno datblygu cynaliadwy a ffyniant ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
*Beth yw tegwch iechyd?
Absenoldeb gwahaniaethau annheg, y gellir eu hosgoi neu y gellir eu gwella ymhlith grwpiau o bobl, waeth p’un a yw’r grwpiau hynny wedi’u diffinio’n gymdeithasol, yn economaidd, yn ddemograffig neu’n ddaearyddol neu drwy foddau eraill megis rhyw, ethnigrwydd neu anabledd. Cyflawnir tegwch iechyd pan fydd pawb yn gallu cyflawni eu potensial llawn o ran iechyd a lles.
Cysylltwch â ni i gymryd rhan.
Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid a defnyddwyr i ddiweddaru ac ehangu’r Llwyfan Datrysiadau gyda phrosiectau, astudiaethau achos a nodweddion sbotolau sy’n canolbwyntio ar degwch iechyd. Cysylltwch â ni i rannu eich prosiectau a’ch storïau am lwyddiant, i’w dangos ar y llwyfan.
Blog
Dyma’r erthyglau diweddaraf