Y Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) Newydd: Fframwaith ar gyfer Hyrwyddo Tegwch Iechyd yng Nghymru
Chwefror 24, 2026
Mae Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) yn ddull sy’n dwyn ynghyd gyfuniad o weithdrefnau, dulliau ac offer i werthuso sut y gallai penderfyniad, menter, polisi, rhaglen neu brosiect arfaethedig effeithio ar iechyd poblogaeth.
Yng Nghymru, mae’r dull HIA arloesol wedi cael ei gydnabod trwy newid deddfwriaethol. Mae’r Rheoliadau Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025, a basiwyd gan y Senedd ar 19 Tachwedd 2025, yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus roi iechyd, llesiant a thegwch wrth wraidd eu prosesau gwneud penderfyniadau strategol. Mae’r Rheoliadau’n diffinio HIA fel ‘…asesiad o effaith debygol, yn y tymor byr ac yn y tymor hir, unrhyw weithred neu benderfyniad arfaethedig ar iechyd corfforol a meddyliol pobl Cymru neu rai o bobl Cymru.’
Yn ei hanfod, mae HIA yn ymwreiddio lens tegwch iechyd cryf, gan sicrhau bod y sawl sy’n gwneud penderfyniadau’n asesu’r effeithiau posibl ar grwpiau agored i niwed, dan anfantais neu heb gydnabyddiaeth ddigonol yn feirniadol. Mae’r dull hwn yn arbennig o effeithiol pan gaiff ei gymhwyso’n gynnar yn y broses o wneud penderfyniad. Mae HIA yn archwilio anghydraddoldebau iechyd presennol a phosibl ar draws grwpiau poblogaeth a allai gael eu heffeithio. Trwy wneud hynny, gellir defnyddio’r dull i gynnig argymhellion sy’n gwella canlyniadau iechyd drwy gryfhau a gwneud y mwyaf o effeithiau cadarnhaol penderfyniad arfaethedig ar iechyd a lles, gan helpu hefyd i nodi a lliniaru unrhyw ganlyniadau negyddol neu anfwriadol.
Rhai enghreifftiau o sectorau lle mae dulliau HIA wedi cael eu defnyddio yw trafnidiaeth, amaethyddiaeth, ynni, gwastraff a thai. Gan fod yn ymwybodol o benderfynyddion ehangach iechyd, mae’r dull yn ystyried ac yn ceisio lliniaru’r ffyrdd y mae’r ffactorau hyn yn effeithio ar iechyd y boblogaeth, gan ymwreiddio dull Iechyd ym Mhob Polisi hefyd.
Cymru’n Arwain y Ffordd: Rôl Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y Ddeddfwriaeth
Mae Cymru’n nodedig fel y genedl gyntaf i gymryd y cam deddfwriaethol hwn, gan ei alinio â pholisïau cenedlaethol allweddol eraill fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi chwarae rhan allweddol wrth lunio a chefnogi gweithrediad y Rheoliadau. Yn benodol, mae Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cefnogi gweithredu’r ddeddfwriaeth, trwy Fwrdd Prosiect ar y cyd. Mae WHIASU wedi bod yn cynnal ac yn cefnogi HIAs ers 2001 ar draws amrywiaeth o sectorau a gydag amrywiaeth o gwmpasau, meintiau a hydau prosiectau, polisïau a strategaethau.
Mae WHIASU yn cefnogi cyrff cyhoeddus drwy ddatblygu cyfres o adnoddau gan gynnwys:
- Canllaw HIA statudol ar gyfer cyrff cyhoeddus
- Cymorth uniongyrchol i gyrff cyhoeddus i uwchsgilio staff drwy hyfforddiant a gweithdai
- Cyhoeddi astudiaethau achos ac adroddiadau
- Adnodd gwe sy’n cynnig gwybodaeth ac offer
Nod WHIASU yw adeiladu ar hyn yn y dyfodol drwy gyfrannu at waith Llywodraeth Cymru ar fonitro a gwerthuso’r rheoliadau.
Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA): Proses ac Effaith Ddisgwyliedig
Bydd y Rheoliadau’n dod i rym ym mis Ebrill 2027, a bryd hynny bydd yn ofynnol yn gyfreithiol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys awdurdodau lleol, parciau cenedlaethol, cyrff y GIG, a sefydliadau diwylliannol a chwaraeon cenedlaethol fel yr Amgueddfa Genedlaethol, y Llyfrgell Genedlaethol a Chwaraeon Cymru, gynnal HIA wrth gynnig gwneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch sut i arfer eu swyddogaethau.
Gall gwneud penderfyniadau ar draws ystod eang o feysydd polisi ddylanwadu’n fawr ar ganlyniadau iechyd hirdymor. Mewn datganiad ysgrifenedig, nododd Llywodraeth Cymru y bydd “HIA yn sicrhau bod effeithiau ar iechyd corfforol a meddyliol yn cael eu hystyried yn gyson pan fydd sefydliadau’r sector cyhoeddus yn datblygu polisïau neu brosiectau newydd”. Mae hyn yn cynnwys sectorau fel tai, trafnidiaeth, addysg, cyflogaeth, diwylliant a’r amgylchedd.
Nodau cyflwyno HIA gorfodol yw:
- Gwella iechyd a llesiant y boblogaeth
- Lleihau anghydraddoldebau iechyd a mynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd
- Ymwreiddio ystyriaethau iechyd mewn penderfyniadau cyhoeddus rheolaidd
- Sicrhau cysondeb a gwella ansawdd gwneud penderfyniadau ar draws cyrff cyhoeddus
- Cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r Ddyletswydd Gymdeithasol-Economaidd
- Lleoli Cymru fel arweinydd byd-eang ym maes polisi a deddfwriaeth iechyd y cyhoedd
I gael gwybod mwy am egwyddorion, methodolegau a chanllawiau cyffredinol HIA yng Nghymru, ewch i dudalen we WHIASU.