Mynd i'r cynnwys

DU a rhyngwladol

A woman and a nurse

Adnoddau

ADRODDIAD COVID

Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol – Adroddiad Cryno Ar effaith COVID-19 ar gynyddu’r Bwlch Iechyd a Bod yn Agored i Niwed

Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dwyn ynghyd dystiolaeth a mewnwelediadau rhyngwladol ar anghydraddoldebau o'r Adroddiadau Dysgu Sganio'r Gorwel Rhyngwladol a gyhoeddwyd rhwng mis Mai 2020 a mis Awst 2021. Mae'n canolbwyntio ar grwpiau sy'n agored i niwed a dosbarthiad anghyfartal effeithiau anuniongyrchol sy'n deillio o'r pandemig COVID-19, gan gynnwys effeithiau ar gyflogaeth.

Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol – Adroddiad Cryno Ar effaith COVID-19 ar gynyddu’r Bwlch Iechyd a Bod yn Agored i Niwed


PAPUR

Anghydraddoldeb a'r argyfwng COVID yn y Deyrnas Unedig

Mae'r papur gweithio hwn gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn adolygu effeithiau'r pandemig COVID-19 ar anghydraddoldebau yn y DU gan gynnwys anghydraddoldebau yn y farchnad lafur, ac yn nodi bod cyfraddau gweithio gartref uwch yn ôl pob tebyg yn debygol o barhau, gan gynyddu rhai anghydraddoldebau a lleihau eraill o bosib.

Anghydraddoldeb a'r argyfwng COVID yn y Deyrnas Unedig - Saesneg yn unig


ERTHYGL

Iechyd Emosiynol ac Ariannol yn Ystod COVID-19: Rôl Gwaith Tŷ, Cyflogaeth a Gofal Plant yn Awstralia a'r Unol Daleithiau

Mae'r erthygl ymchwil hon yn nodi teimladau o orbryder a phryder ariannol ynghylch cyflogaeth a newidiadau domestig, yn enwedig ymhlith mamau yn America, yn ystod y pandemig COVID-19, gan o bosib waethygu anghydraddoldeb rhwng y rhywiau o ran iechyd emosiynol.

Iechyd Emosiynol ac Ariannol yn Ystod COVID-19: Rôl Gwaith Tŷ, Cyflogaeth a Gofal Plant yn Awstralia a'r Unol Daleithiau - Saesneg yn unig


PAPUR

Ieuenctid yn Ewrop: Effeithiau COVID-19 ar eu Sefyllfa Economaidd a Chymdeithasol

Mae'r astudiaeth hon yn ymchwilio i effeithiau'r pandemig COVID-19 ar ieuenctid yn Ewrop, gan gynnwys datblygiad cyflogaeth ieuenctid a diweithdra a'r effaith ar bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant. Mae hefyd yn cynnwys camau a gymerwyd i daclo effeithiau COVID-19, gan gynnwys hyfforddeiaethau o safon, prentisiaethau effeithiol a phwysigrwydd cynyddol cyfarwyddyd gyrfa.

Ieuenctid yn Ewrop: Effeithiau COVID-19 ar eu Sefyllfa Economaidd a Chymdeithasol - Saesneg yn unig


ERTHYGL

COVID-19 a'r Eeffaith Uniongyrchol ar Bobl Ifanc a Chyflogaeth yn Awstralia: Dadansoddiad ar Sail Rhyw

Mae'r erthygl ymchwil hon yn awgrymu bod COVID-19 wedi effeithio'n arwyddocaol ar bobl ifanc yn Awstralia o'u cymharu â'u cymheiriaid hŷn, gyda menywod ifanc yn arbennig o agored i'r dirywiad economaidd.

COVID-19 a'r Eeffaith Uniongyrchol ar Bobl Ifanc a Chyflogaeth yn Awstralia: Dadansoddiad ar Sail Rhyw - Saesneg yn unig


ADRODDIAD

Amodau Gweithio ac Iechyd Gweithwyr

Mae'r adroddiad hwn gan y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Gwella Byw ac Amodau Gweithio (Eurofound) yn defnyddio data Arolwg Amodau Gweithio Ewrop ac yn disgrifio'r canfyddiadau, sef bod gofynion emosiynol gwaith wedi cynyddu, gan danlinellu pwysigrwydd cynyddol risgiau seicogymdeithasol yn y gwaith. Mae hefyd yn datgelu bod newidiadau dros amser yn awgrymu, er bod y risg o iechyd gwael wedi'i ganolbwyntio ar rai galwedigaethau, bod y galwedigaethau hynny a ystyrir yn draddodiadol i gael eu diogelu, yn gynyddol agored i risgiau sy'n debygol o effeithio ar iechyd a lles gweithwyr.

Amodau Gweithio ac Iechyd Gweithwyr - Saesneg yn unig


ERTHYGL

A Oes Cysylltiad Rhwng Amodau Gweithio ac Iechyd?: Dadansoddiad o Ddata'r Chweched Arolwg Amodau Gweithio Ewropeaidd

Mae'r erthygl ymchwil hon ar amodau gweithio Ewropeaidd yn cyflwyno canlyniadau sy'n dangos bod annog amodau gweithio, amgylchedd gwaith a chymorth swyddi yn gysylltiedig â gwell iechyd a hunanasesir ac iechyd gwrthrychol gwell.

A Oes Cysylltiad Rhwng Amodau Gweithio ac Iechyd?: Dadansoddiad o Ddata'r Chweched Arolwg Amodau Gweithio Ewropeaidd - Saesneg yn unig


ERTHYGL

Cyfraniad Cyflogaeth ac Amodau Gweithio at Anghydraddoldebau Galwedigaethol mewn Clefydau nad Ydynt yn Drosglwyddadwy yn Ewrop

Daw'r erthygl ymchwil hon i'r casgliad bod cyflogaeth ac amodau gweithio'n benderfynyddion pwysig o anghydraddoldebau galwedigaethol mewn clefydau nad ydynt yn drosglwyddadwy (NCD) ac mae'n argymell ystyried rheoliadau'r farchnad lafur wrth lunio dulliau atal NCD.

Cyfraniad Cyflogaeth ac Amodau Gweithio at Anghydraddoldebau Galwedigaethol mewn Clefydau nad Ydynt yn Drosglwyddadwy yn Ewrop - Saesneg yn unig


ERTHYGL

Gweithwyr Anffurfiol yn yr Undeb Ewropeaidd: Amodau Gweithio, Cyflogaeth Ansicr ac Iechyd

Daw'r erthygl ymchwil hon i'r casgliad bod cyflogaeth anffurfiol yn yr UE-27 yn cael ei nodweddu gan amodau gweithio gwaeth a chyflogaeth ansicr na'r amodau ar gyfer gweithwyr ffurfiol. Hefyd, nid oes tystiolaeth bod cyflogaeth anffurfiol yn awgrymu gwell deilliannau iechyd o'i gymharu â gweithwyr parhaol.

Gweithwyr Anffurfiol yn yr Undeb Ewropeaidd: Amodau Gweithio, Cyflogaeth Ansicr ac Iechyd - Saesneg yn unig


ADRODDIAD

Rhagolwg Cyflogaeth yr OECD 2022

Yn edrych ar adferiad y farchnad lafur ar ôl y pandemig a sut mae’r rhyfel yn Wcráin wedi effeithio ymhellach ar hyn; adolygir y farchnad lafur allweddol a heriau cymdeithasol ar gyfer adferiad mwy cynhwysol ar ôl COVID-19. Yn canolbwyntio ar fregusrwydd drwy sylw a roddir i weithwyr rheng flaen a grwpiau sydd wedi cael eu gadael ar ôl o ran adfer y farchnad lafur (pobl ifanc, gweithwyr sydd â llai o addysg, a lleiafrifoedd hiliol/ethnig). Mae’n canolbwyntio ar ddatrysiadau drwy archwilio polisïau i fynd i'r afael â'r heriau hyn a'r rhagolygon ar gyfer y dyfodol.

Rhagolwg Cyflogaeth yr OECD 2022 - Saesneg yn unig