Sut i ddefnyddio’r Platfform Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru (WHESP) i lywio datblygiad a newid effeithiol

Camau Datblygu Polisi
Cam 1: Diffinio’r broblem a’i hachosion sylfaenol
- Egluro a fframio’r broblem neu’r mater o ran yr effaith ar iechyd y boblogaeth.
- Casglu, crynhoi a dehongli gwybodaeth sy’n berthnasol i’r broblem
- Diffinio nodweddion y broblem
- Adnabod bylchau yn y data
- Fframiwch y broblem yn y ffordd sy’n addas ar gyfer atebion polisi posibl
- Gwneud cysylltiadau ac integreiddio ag effeithiau eraill nad ydynt yn ymwneud ag iechyd.
- Ymgysylltu â’r rhai sydd â diddordeb personol yn y broblem.
Cam 2: Datblygu gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol
- Datblygu (neu gyfeirio at) weledigaeth hirdymor ar gyfer datrys y broblem dan sylw a’i hachosion.
- Ystyried beth yw’r tueddiadau hirdymor y gall eich gweledigaeth effeithio arnynt neu eu heffeithio.
- Meddwl am y canlyniadau rydych chi am eu cyflawni a sut olwg sydd ar lwyddiant/sut gallwch chi ei fesur.
- Ystyried a oes gweledigaethau eraill o’r dyfodol a all gefnogi neu wrthdaro â’ch un chi.
- Cyfeirio at y weledigaeth ar gyfer Cymru ar ffurf y 7 nod llesiant.
- Cynnal yr asesiadau effaith/HIA priodol.
- Meithrin perthnasoedd, ailadrodd eich neges a gofyn cwestiynau.
Cam 3: Nodi a datblygu opsiynau
- Adnabod opsiynau polisi posibl a allai ddatrys eich problem.
- Cymharu’r opsiynau hynny i ddewis yr un mwyaf effeithiol, effeithlon ac ymarferol.
- Gosod amcanion, adnabod y gost ac amcangyfrif effeithiau’r datrysiadau, gan ddewis o opsiynau polisi gwahanol.
- Mae ymgynghoriadau yn arf allweddol ar gyfer llywio datblygiad polisi.
- Datblygu perthynas â llunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill.
- Sbarduno partneriaid a datblygu mudiad o amgylch y mater fel bod y neges yn cael ei chlywed yn uchel ac yn glir.
- Enghreifftiau o feysydd lle mae polisïau tebyg wedi’u cyflwyno – gwersi a ddysgwyd y naill ffordd neu’r llall.
Cam 4: Gwneud penderfyniadau ‘gwleidyddol’ (deddfu gwleidyddol, pasio deddfwriaeth)
- Addysgwch seneddwyr a’r cyhoedd a chrynhowch gefnogaeth.
- Rhagwelwch rwystrau ffyrdd.
- Os oes angen, parhewch i gasglu data ac ymchw.
- Cydweithio â phartneriaid, a all ‘lobïo’ ac adeiladu mudiad o amgylch y mater (e.e. y sector gwirfoddol a chomisiynwyr).
- Adrodd straeon.
Cam 5: Rhoi’r polisi ar waith (o gysyniad i realiti)
- Gweithgareddau i gynyddu’r tebygolrwydd y bydd y polisi yn cyflawni ei ganlyniadau. arfaethedig.
- Addysgu ar newidiadau, Hwyluso mabwysiadu arferion Newydd.
- Sicrhau monitro a gorfodi.
Cam 6: Gwerthuso llwyddiant a therfynu, ailddiffinio neu ddefnyddio’n briodol
- Gwerthuso Proses
- A gafodd y polisi ei weithredu fel y cynlluniwyd?
- Oedd rhwystrau neu ffactorau cefnogol i’w weithrediad?
- Pa mor dda wnaethoch chi ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac a oeddent yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn y broses?
- Gwerthusiad effaith
- A ddigwyddodd y canlyniadau ac effeithiau arfaethedig?
- A oes unrhyw ganlyniadau ac effeithiau y gellir eu priodoli i’r polisi?
- A oedd unrhyw ganlyniadau anfwriadol?