Mynd i'r cynnwys

Gweithio tuag at degwch iechyd – Fframweithiau ac Offer i helpu i ddatblygu ymagwedd strategol

Gorffennaf 22, 2024

Mae gweithio tuag at degwch iechyd yn dasg heriol ond un hollbwysig. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ceisio eich cefnogi yn y gwaith hwn, beth bynnag fo’ch rôl, drwy lunio ystod o offer cenedlaethol a rhyngwladol sydd wedi’u datblygu i arwain y gwaith hwn mewn gwahanol gyd-destunau.  

Mae tegwch iechyd yn cael ei gyflawni pan fydd pawb mewn poblogaeth yn gallu cyflawni eu potensial o ran iechyd a llesiant. Fel y maent mewn llawer o wledydd ledled y byd, mae anghydraddoldebau iechyd yn fater hirsefydlog yng Nghymru. Maent yn effeithio’n anghymesur ar bobl, grwpiau a chymunedau difreintiedig. Yn aml, pobl sy’n byw yn y rhannau mwyaf difreintiedig o’r wlad neu’r rhai sydd ag anghenion nad ydynt wedi’u diwallu neu sy’n agored i niwed, sy’n cael y canlyniadau iechyd gwaethaf. Canlyniad hyn yw bod anghydraddoldebau iechyd yn parhau i fodoli ac mae hyn yn ei dro yn atal eu cyfle i fyw bywydau llawn a ffyniannus. 

Er mwyn i bobl Cymru fod yn iach, mae angen i ni gael yr holl flociau adeiladu cywir ar gyfer iechyd a llesiant. Y blociau adeiladu yw’r pethau cadarnhaol sydd eu hangen ar bawb er mwyn bod yn iach, ac maent yn cynnwys pethau fel cartrefi cynnes, swyddi da, digon o arian i dalu biliau, plentyndod diogel a chysylltiadau â phobl yn ein cymunedau. Mewn gormod o rannau o Gymru, nid yw’r blociau adeiladu iechyd a llesiant hyn yn ddigon cryf neu maent ar goll yn gyfan gwbl. Mae hyn yn arwain at iechyd gwaeth a bywydau’n cael eu torri’n fyr.   

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi trosolwg o 22 o fframweithiau ac offer tegwch iechyd i gefnogi llywodraethau, sefydliadau ac unigolion i weithio tuag at degwch iechyd. Daethpwyd o hyd i fframweithiau ac offer trwy chwilio adnoddau rhyngwladol a chenedlaethol allweddol. Roedd y dull hwn yn galluogi nodi fframweithiau mynediad agored a ddatblygwyd ar gyfer y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch iechyd y cyhoedd a thegwch iechyd, yr ydym wedi’u crynhoi mewn dogfen hygyrch. 

O ystyried bod y fframweithiau a’r offer sydd wedi’u cynnwys yn y ddogfen hon yn defnyddio dulliau gwahanol o weithio tuag at degwch iechyd, rydym wedi eu categoreiddio’n 5 dull bras, yn dibynnu ar y math o gymorth a ddarperir ganddynt:  

  • Llyfrgell adnoddau (mae fframweithiau yn y categori hwn yn creu llyfrgell o wybodaeth ac adnoddau tegwch iechyd er mwyn cefnogi camau gweithredu wedi’u targedu, gan gynnwys enghreifftiau o arferion) 
  • Data (mae fframweithiau yn y categori hwn yn canolbwyntio ar gasglu a defnyddio data i nodi, disgrifio a mesur materion tegwch iechyd) 
  • Gweithredu (mae fframweithiau yn y categori hwn yn nodi, trefnu, cynllunio, olrhain a gwerthuso camau gweithredu i wella tegwch iechyd) 
  • Gwerthuso (mae fframweithiau yn y categori hwn yn canolbwyntio ar adolygu, monitro a/neu werthuso polisïau ac ymyriadau sydd â’r nod o gynyddu tegwch iechyd) 
  • Theori (mae fframweithiau yn y categori hwn yn ceisio disgrifio ac egluro materion tegwch iechyd) 

Rhestrir y gynulleidfa ar gyfer pob offeryn, gan eich galluogi i nodi’r adnodd sydd fwyaf defnyddiol i chi a’ch sefydliad. Rydym hefyd yn tynnu sylw at aliniad pob offeryn â HESRi (Menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd) – mecanwaith i hyrwyddo a chefnogi gweithredu polisi ac ymrwymiad ar gyfer tegwch iechyd a llesiant yn y Rhanbarth Ewropeaidd.  

Er enghraifft, rydym wedi cynnwys Porth Anghydraddoldebau Iechyd EuroHealthNet, sef llyfrgell adnoddau manwl y gellir ei defnyddio gan unrhyw randdeiliad sydd â rôl mewn hybu tegwch iechyd, ac sydd â chysylltiadau cryf â’r 5 amod hanfodol. Rydym hefyd wedi cynnwys Buddsoddiad Cynaliadwy yn Iechyd a Llesiant y Boblogaeth: Tuag at Iechyd Cyhoeddus ar sail Gwerth Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd â’r nod o gefnogi cymhwyso Gwerth Cymdeithasol ac Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi mewn bywyd go iawn i wella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a thu hwnt. Mae gan y ddogfen hon gysylltiadau cryf â HESRi ac mae wedi’i theilwra ar gyfer nifer o gynulleidfaoedd.  

Beth bynnag fo’ch cyd-destun a’ch nodau, mae offeryn tegwch iechyd ar gael i’ch cefnogi, a nod y ddogfen hon yw gwneud y broses o ddod o hyd i’r offeryn hwnnw’n symlach. Cymerwch amser i archwilio’r offer rydym wedi’u casglu a chymerwch eich camau nesaf tuag at degwch iechyd gyda chymorth offer arbenigol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.  

Cyfeiriadau: