Mynd i'r cynnwys

Ecwiti ar Waith: Hyrwyddo Iechyd LHDTCRhA+ yng Nghymru

Mehefin 17, 2024

Mae LHDTCRhA+ yn cynrychioli cymunedau Lesbiaidd/Hoyw/Deurywiol/Trawsryweddol/Cwiar/ Cwestiynu/Rhyngryw/Arywiol/Cynghreiriad. Mae’r symbol “+” yn cydnabod amrywiaeth a hylifedd rhywioldeb dynol a hunaniaeth rhywedd, ac yn cydnabod y gall labeli a hunaniaeth amrywio’n fawr o un unigolyn i’r llall.

Y materion:

Mae anghydraddoldebau iechyd ymhlith y cymunedau LHDTCRhA+ yng Nghymru yn her enbyd. Er gwaethaf datblygiadau o ran cael eu derbyn ar lefel gymdeithasol a hawliau cyfreithiol, mae unigolion LHDTCRhA+ yn parhau i wynebu gwahaniaethau sylweddol o ran iechyd meddwl, iechyd rhywiol a mynediad at ofal iechyd. Nid yw’r materion hyn yn gyfyngedig i Gymru, maent yn adlewyrchu tueddiadau ehangach y DU a thueddiadau rhyngwladol.

Mae’r gymuned LHDTCRhA+ yn y DU, yn enwedig yng Nghymru, yn wynebu gwahaniaethau iechyd sylweddol mewn meysydd fel canser, HIV, ac iechyd meddwl. Caiff hyn ei waethygu gan ffactorau fel cyfraddau uwch o gymryd risg, rhwystrau i fynediad at ofal iechyd, a gwahaniaethu systemig. Mae canlyniadau iechyd meddwl unigolion LHDTCRhA+ yng Nghymru gryn dipyn yn waeth o’u cymharu â’u cymheiriaid heterorywiol. Nodweddir hyn gan achosion uwch o iselder, gorbryder, unigrwydd, a meddyliau hunanladdol, gyda llawer o’r rhai yr effeithir arnynt yn troi at sylweddau fel tybaco ac alcohol fel mecanweithiau ymdopi. Yn rhyngwladol, mae’r gymuned LHDTCRhA+ yn profi baich canser uwch, gydag is-grwpiau penodol fel dynion hoyw a deurywiol yn profi cyfraddau uwch o ganser yr anws a sarcoma Kaposi, a menywod lesbiaidd a deurywiol yn fwy agored i ganser y fron a chanser ceg y groth. Nodir hefyd fod dynion trawsryweddol ddwywaith yn fwy tebygol o gael diagnosis o ganser o’i gymharu â dynion cisryweddol.

Yng nghyd-destun HIV, mae Cymru wedi cyflawni gostyngiad nodedig o 75% mewn diagnosisau newydd o HIV  ar gyfer y boblogaeth fyd-eang a gostyngiad o 77% mewn diagnosisau newydd mewn dynion sy’n cael rhyw gyda dynion rhwng 2015 a 2021, oherwydd argaeledd helaeth Proffylacsis Cyn-Amlygiad (PrEP) a gwell mynediad at brofion HIV. Fodd bynnag, mae heriau megis diagnosis hwyr a stigma parhaus yn ymwneud â HIV yn parhau, gyda chyfradd diagnosis hwyr yng Nghymru yn uwch na gweddill y DU. Mae hyn yn amlygu’r angen am fwy o fentrau profi ac ymwybyddiaeth. Yn ogystal, mae gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol a daearyddol o ran cyffredinrwydd HIV yn parhau, gyda rhai grwpiau a rhanbarthau yn profi cyfraddau uwch o’r feirws, gan danlinellu’r angen am ymyriadau wedi’u targedu.

Amgylchedd polisi unigryw Cymru

Mae Cynllun Gweithredu LHDTC+ 2021 Llywodraeth Cymru, yn gyfle arbennig i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd integreiddio tegwch iechyd mewn strategaethau iechyd y cyhoedd, gan ei fod yn effeithio’n uniongyrchol ar lesiant y gymuned LHDTCRhA+ ac iechyd cyffredinol y boblogaeth.

Amlygodd Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru y profiadau o wahaniaethu, aflonyddu, a’r heriau a wynebir gan y gymuned LHDTCRhA+ mewn gwahanol agweddau ar eu bywydau, gan gynnwys y gweithle, gofal iechyd, a rhyngweithio cymdeithasol. Rhoddodd Arolwg Cenedlaethol LHDT 2017, a gynhaliwyd gan Lywodraeth y DU, yr arolwg mwyaf o’i fath gyda dros 108,000 o gyfranogwyr, fewnwelediadau helaeth i brofiadau unigolion LHDT yn y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru. Mae’r canfyddiadau’n datgelu heriau sylweddol gan gynnwys gwahaniaethu ac aflonyddu eang, mwy o achosion o faterion iechyd meddwl o’i gymharu â’r boblogaeth yn gyffredinol, pryderon diogelwch sy’n effeithio ar fywyd bob dydd a rhyngweithio cymdeithasol, ac angen difrifol am addysg fwy cynhwysol a mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus am faterion LHDT.

Mae canlyniadau’r canfyddiadau hyn yn tanlinellu’r angen am ymyriadau wedi’u targedu i fynd i’r afael â’r materion hyn a hyrwyddo amgylchedd mwy cynhwysol a chefnogol i unigolion LHDTCRhA+ yng Nghymru.

Sut mae Cymru yn ymateb i’r mater ar hyn o bryd?

Ymateb cyntaf: Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cynhwysol yng Nghymru

Mae menter “Mind Cymru” yn enghraifft o ymrwymiad Cymru i wella gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer y gymuned LHDTCRhA+, yn enwedig yn erbyn cefndir o wahaniaethu ac aflonyddu sylweddol yn y gweithle.

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn cymhwysedd diwylliannol LHDTCRhA+ a sefydlu grwpiau cymorth iechyd meddwl sy’n gyfeillgar i bobl LHDTCRhA+. Trwy gydweithio â sefydliadau LHDTCRhA+ lleol, mae’r fenter wedi gwella llesiant meddwl unigolion LHDTCRhA+ yn sylweddol. Gallai’r model hwn o ofal iechyd cynhwysol, sy’n mynd i’r afael ag anghenion iechyd uniongyrchol a phenderfynyddion cymdeithasol ehangach iechyd fel gwahaniaethu yn y gweithle, ysbrydoli mentrau tebyg yng Nghymru ac yn rhyngwladol, gan ddangos llwybr tuag at degwch o ran iechyd cyfannol.

Mae rhaglenni Mind Cymru, yn enwedig y gwasanaeth presgripsiynu cymdeithasol, wedi dangos effeithiolrwydd sylweddol o ran gwella cymorth iechyd meddwl yng Nghymru. Mae’r methodolegau ymchwil a ddefnyddiwyd wedi darparu gwerthusiad cadarn o’r rhaglenni hyn, ac wedi amlygu eu heffeithiau a meysydd i’w gwella. Mae hyblygrwydd y rhaglenni mewn ymateb i heriau allanol, megis y pandemig, yn tanlinellu ymhellach eu potensial i ddarparu cymorth hanfodol i unigolion ag anghenion iechyd meddwl.

Ail ymateb: Cynllun Gweithredu HIV a Hygyrchedd Gwasanaethau Sgrinio Canser:  Ymateb Cymreig

Mae dull rhagweithiol Cymru o fynd i’r afael â HIV/AIDS o fewn y gymuned LHDTCRhA+ wedi’i fynegi’n glir yn y Cynllun Gweithredu HIV a lansiwyd yn ddiweddar, ynghyd â’i rhaglen Fast Track Cymru. Wedi’i ddatblygu drwy ymgynghori’n helaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a grwpiau eiriolaeth LHDTCRhA+, mae’r cynllun yn blaenoriaethu atal, profion hygyrch, a thriniaeth gynhwysfawr. Mae gweithrediad y rhaglen yn tanlinellu pwysigrwydd ymyriadau iechyd wedi’u targedu i leihau cyfraddau trosglwyddo HIV ymhlith y gymuned LHDTCRhA+. Mae llwyddiant posibl y rhaglenni hyn yn cyd-fynd â thargedau byd-eang 95-95-95, sy’n anelu at ddod â’r epidemig HIV/AIDS i ben erbyn 2030. Mae’r targedau hyn yn nodi bod 95% o’r holl bobl â HIV yn gwybod eu statws, 95% o’r rhai sy’n cael diagnosis yn cael therapi gwrth-retrofeirysol parhaus, a 95% o’r rhai sy’n cael triniaeth yn cyflawni ataliad feirysol. Gallai’r llwyddiant hwn ddangos potensial datrysiadau sy’n cael eu gyrru gan bolisi i fynd i’r afael â gwahaniaethau o ran iechyd rhywiol, gan gynnig glasbrint ar gyfer rhanbarthau eraill sy’n ceisio gwella canlyniadau iechyd ar gyfer poblogaethau sydd mewn perygl.

Mae gweithredu cydweithredol arall rhwng GIG Cymru, byrddau iechyd, a sefydliadau eiriolaeth LHDTCRhA+ wedi arwain at roi hyfforddiant cynhwysiant ar waith gyda’r nod o wella hygyrchedd sgrinio canser ar gyfer unigolion LHDTCRhA+ ar draws gwahanol ranbarthau Cymru. Roedd y fenter hon yn hanfodol, gan fod llawer o sefydliadau wedi annog gweithredu ar y pwnc hwn. Er enghraifft, cynhaliodd Cyngor Iechyd Cymuned De Morgannwg (CIC) arolwg ar-lein i gasglu adborth gan y gymuned LHDTC+ yng Nghaerdydd a’r Fro ynghylch eu profiadau gyda gwasanaethau gofal iechyd y GIG. Roedd argymhellion yr adroddiad yn canolbwyntio ar wella cynwysoldeb a sensitifrwydd mewn gwasanaethau gofal iechyd i ddiwallu anghenion y gymuned LHDTC+ yn well. Felly, gallai hyfforddi darparwyr gofal iechyd i fod yn fwy cynhwysol ac ymwybodol o anghenion iechyd penodol y gymuned LHDTCRhA+ leihau rhwystrau i sgrinio a thriniaeth. Gallai canlyniadau cadarnhaol posibl y fenter hon, gan gynnwys cyfraddau sgrinio uwch a chanfod yn gynnar, amlygu effeithiolrwydd datrysiadau gofal iechyd sy’n cynnwys y gymuned wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Her sylweddol wrth fynd i’r afael â gwahaniaethau o ran canser yn y gymuned LHDTC+ yw diffyg data cynhwysfawr. Nid yw llawer o gofrestrfeydd canser cenedlaethol a threialon clinigol yn casglu gwybodaeth am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd, sy’n rhwystro’r gallu i ddeall a mynd i’r afael â’r gwahaniaethau hyn yn llawn. Mae’r diffyg data hwn yn arwain at fylchau mewn ymchwil a gallai arwain at bolisïau a rhaglenni gofal iechyd nad ydynt yn mynd i’r afael yn effeithiol ag anghenion y boblogaeth LHDTC+.

Trydydd ymateb: Gwella Cynhwysiant a Diogelwch yn y Gweithle ar gyfer Gweithwyr LHDTCRhA+ yng Nghymru

Agwedd ganolog ar hybu tegwch iechyd i unigolion LHDTCRhA+ yng Nghymru yw mynd i’r afael â chuddio hunaniaeth a gwella amgylcheddau gweithle. Mewn ymateb i’r heriau hyn, mae mentrau dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn cydweithrediad â grwpiau eiriolaeth LHDTCRhA+ lleol ac arweinwyr busnes, yn arloesi ymdrechion i greu amgylcheddau gweithle cynhwysol a chefnogol. Trwy ddatblygu polisïau gwrth-wahaniaethu cynhwysfawr, cynnal hyfforddiant sensitifrwydd, a meithrin deialog agored, nod y mentrau hyn yw lleihau’r angen am gelu a lleihau aflonyddu. Y nod yw creu gweithleoedd lle mae’r holl weithwyr, waeth beth fo’u cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd, yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn ddiogel. Mae’r dull hwn o fudd i lesiant unigol a hefyd yn gwella iechyd cyffredinol y sefydliad, ac yn gwasanaethu fel model ar gyfer hyrwyddo cynhwysiant a thegwch iechyd meddwl ledled Cymru a thu hwnt.

Casgliad

Mae’r mentrau a amlygir yn yr adroddiad hwn yn dangos ymrwymiad Cymru i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ymhlith ei phoblogaeth LHDTCRhA+ trwy gamau gweithredu wedi’u targedu sy’n canolbwyntio ar degwch yn enwedig yn y gweithle a lleoliadau gofal iechyd. Drwy dynnu ar yr enghreifftiau hyn, gall llunwyr polisïau a darparwyr gofal iechyd ymgorffori tegwch iechyd ymhellach yn eu harferion, gan sicrhau bod unigolion LHDTCRhA+ yn cael y cymorth a’r gofal y maent yn eu haeddu. Mae’r ymdrechion yn cyfrannu at lesiant y gymuned LHDTCRhA+ ac yn hyrwyddo’r nod ehangach o greu cymdeithas fwy cynhwysol ac iach yng Nghymru a thu hwnt.

Cyfeiriadau