Mynd i'r cynnwys

Economeg iechyd a modelu

Filming a classroom setting

Adnoddau

ADRODDIAD

Adolygiad o dystiolaeth am anfantais economaidd-gymdeithasol ac anghydraddoldebau canlyniadau

Adolygiad cyflym o lenyddiaeth yw hwn a oedd yn ceisio rhoi darlun o anfantais economaidd-gymdeithasol a’r anghydraddoldebau cysylltiedig o ran canlyniadau yng Nghymru yn enwedig mewn cymunedau penodol, gan ganolbwyntio ar y rhai â nodweddion gwarchodedig a chymunedau a/neu fannau o ddiddordeb.

Adolygiad o dystiolaeth am anfantais economaidd-gymdeithasol ac anghydraddoldebau canlyniadau


ADRODDIAD

Trwy'r lens: Ethnigrwydd, arian ac iechyd meddwl

Mae'r adroddiad hwn yn archwilio'r rhyngweithio rhwng iechyd meddwl ac ariannol ymhlith grwpiau lleiafrifoedd ethnig. Mae'n rhoi enghreifftiau allweddol o'r heriau penodol y gall pobl o grwpiau ethnig lleiafrifol eu hwynebu.

Trwy'r lens: Ethnigrwydd, arian ac iechyd meddwl


ERTHYGL WEDI'I HADOLYGU GAN GYMHEIRIAID

Toriadau i nawdd cymdeithasol a disgwyliad oes: dadansoddiad hydredol o awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban

Ymchwiliodd yr astudiaeth hon i'r gydberthynas rhwng gweithrediad llawn rhaglen 'diwygio lles' Llywodraeth y DU o ostyngiadau mewn taliadau nawdd cymdeithasol erbyn 2016 a disgwyliad oes ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Toriadau i nawdd cymdeithasol a disgwyliad oes: dadansoddiad hydredol o awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban


ERTHYGL WEDI'I HADOLYGU GAN GYMHEIRIAID

Effeithiau costau byw cynyddol ar farwolaethau yn y boblogaeth yn yr Alban: astudiaeth modelu senario

Defnyddiodd yr astudiaeth hon fodelu senario i archwilio effeithiau chwyddiant diweddar ar incwm aelwydydd yn yr Alban. Asesodd effeithiolrwydd mesurau lliniaru ac archwiliodd yr effaith ar ganlyniadau marwolaethau ac anghydraddoldebau cysylltiedig yn y cyd-destun economaidd esblygol. Roedd y dadansoddiad yn cymharu canlyniadau o dan chwyddiant diweddar heb ymyrraeth â senario gyda chwyddiant wedi’i liniaru gan bolisïau cymorth Llywodraeth y DU. 

Effeithiau costau byw cynyddol ar farwolaethau yn y boblogaeth yn yr Alban: astudiaeth modelu senario


ERTHYGL WEDI'I HADOLYGU GAN GYMHEIRIAID

A yw cyni yn achos gwelliannau arafach mewn marwolaethau mewn gwledydd incwm uchel? Dadansoddiad panel

Mae'r astudiaeth hon yn ymchwilio i effaith mesurau cyni ar dueddiadau marwolaethau mewn 37 o wledydd incwm uchel rhwng 2000 a 2019, ac mae’n ystyried amrywiol ddangosyddion economaidd. Nod yr ymchwil yw canfod y cysylltiad rhwng polisïau cyni a roddwyd ar waith ar ôl argyfwng ariannol 2007-08 a’r gyfradd arafach o welliant mewn marwolaethau a welwyd mewn llawer o wledydd incwm uchel ers 2010.

A yw cyni yn achos gwelliannau arafach mewn marwolaethau mewn gwledydd incwm uchel? Dadansoddiad panel


ERTHYGL WEDI'I HADOLYGU GAN GYMHEIRIAID

Gwybod y nod: economi gynhwysol a all fynd i’r afael â heriau iechyd y cyhoedd ein hoes

Mae'r erthygl hon yn adolygiad cyflym o lenyddiaeth lwyd a llenyddiaeth a adolygwyd gan gymheiriaid i nodi nodweddion economi gynhwysol i alluogi gweithwyr iechyd y cyhoedd proffesiynol i ddylanwadu ar adferiad economaidd cynhwysol.

Gwybod y nod: economi gynhwysol a all fynd i’r afael â heriau iechyd y cyhoedd ein hoes


ERTHYGL WEDI'I HADOLYGU GAN GYMHEIRIAID

Sut mae newidiadau incwm yn effeithio ar iechyd meddwl a llesiant oedolion o oedran gweithio? Adolygiad systematig a metaddadansoddiad

Roedd yr astudiaeth hon yn cyfuno tystiolaeth o astudiaethau yn mesur effaith newidiadau mewn incwm unigolion ac aelwydydd ar ganlyniadau iechyd meddwl a llesiant mewn oedolion o oedran gweithio (16-64 oed).

Sut mae newidiadau incwm yn effeithio ar iechyd meddwl a llesiant oedolion o oedran gweithio? Adolygiad systematig a metaddadansoddiad


ERTHYGL WEDI'I HADOLYGU GAN GYMHEIRIAID

Siarter Genefa - Gwireddu potensial cymdeithas llesiant

Mae’r erthygl hon yn cyflwyno Siarter Llesiant Genefa ac yn trafod y cysyniadau a’r syniadau llesiant sy’n berthnasol i lunio polisïau. Mae hefyd yn cyflwyno pedair astudiaeth achos sy’n pontio’r cysyniadau â pholisïau a realiti gwleidyddol

Siarter Genefa - Gwireddu potensial cymdeithas llesiant


ERTHYGL WEDI'I HADOLYGU GAN GYMHEIRIAID

Sut i fesur cynnydd tuag at economi llesiant: gwahaniaethu rhwng datblygiadau gwirioneddol a ‘sioe yn unig'

Edrychodd yr erthygl hon ar ddulliau o fesur economi llesiant ar gyfer cenhedloedd ac fe gynigiodd gyfres o feini prawf y gellir eu defnyddio i benderfynu a oes cynnydd tuag at economi llesiant yn digwydd. 

Sut i fesur cynnydd tuag at economi llesiant: gwahaniaethu rhwng datblygiadau gwirioneddol a ‘sioe yn unig'


ADRODDIAD

Cwestiwn o Drethu? Y System Dreth a Ffyrdd Iachach o Fyw yng Nghymru

Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn canolbwyntio ar bryderon iechyd y boblogaeth gyfoes sy'n ymwneud â deietau lle mae trethiant wedi'i ystyried neu ei weithredu mewn mannau eraill, a/neu'n arloesedd dichonol yng nghyd-destun Cymru. Ei nod yw cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r amrywiaeth o opsiynau trethu sydd ar gael i hybu iechyd a dylanwadu ar newid ymddygiadau afiach; a rhoi tystiolaeth iechyd gyfredol i wneuthurwyr polisi yng Nghymru sy'n gysylltiedig â'r opsiynau hyn, gan nodi pam mae mesurau cyllidol yn fecanwaith ar gyfer gwella iechyd.

Cwestiwn o Drethu? Y System Dreth a Ffyrdd Iachach o Fyw yng Nghymru


ADRODDIAD

Effaith Cyllid Rhanbarthol ar Iechyd a Llesiant yng Nghymru: Gweithio Tuag at Gymunedau mwy Cadarn, Cyfartal a Llewyrchus

Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn canolbwyntio ar effaith colli Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd (UE) ar iechyd a llesiant a'r risgiau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil cynllun newydd. Ei nod yw hysbysu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â dyrannu a rheoli cynlluniau cyllido rhanbarthol yn y dyfodol. Mae'r adroddiad yn cynnwys mewnwelediadau allweddol i bwysigrwydd presennol Cronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer iechyd a lles ardaloedd lleol gan ganolbwyntio ar wahanol grwpiau poblogaeth. Mae'n trafod yr effaith bosib ar iechyd a lles pan ddaw cyllid yr UE i ben ac yn nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer cyllid rhanbarthol yn y dyfodol.

Effaith Cyllid Rhanbarthol ar Iechyd a Llesiant yng Nghymru: Gweithio Tuag at Gymunedau mwy Cadarn, Cyfartal a Llewyrchus


ADRODDIAD COVID

Beth Nesaf? Y Materion o Bwys ar Gyfer y Chweched Senedd

Mae'r adroddiad hwn gan Adran Ymchwil Senedd Cymru'n ymchwilio i faterion polisi cymdeithasol, economaidd a chyhoeddus heriol cyfredol yng Nghymru, gan gynnwys tlodi a chefnogi aelwydydd incwm isel ac effaith y pandemig COVID-19 ar aelwydydd incwm isel. Mae hefyd yn bwrw golwg ar gyllid cyhoeddus gan gynnwys y pwysau sy'n wynebullywodraeth leol, ffocws ar drethiant, a thueddiadau yng nghyllidebau Cymru dros fframwaith ariannu blaenorol y Senedd a Chymru.

Beth Nesaf? Y Materion o Bwys ar Gyfer y Chweched Senedd


CANLLAW

Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol

Mae'r canllaw ymarferol hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlinellu proses gam wrth gam o sut i syntheseiddio, trosi a chyfathrebu tystiolaeth iechyd y cyhoedd ac economeg iechyd i bolisi ac arfer, gan gyflwyno'r achos dros fuddsoddi cynaliadwy mewn lles a thegwch iechyd. Mae'r canllaw yn dadlau bod iechyd y boblogaeth yn ased economaidd ac yn fuddiant cynhyrchiol. Y bwriad yw helpu rhanddeiliaid allweddol, eiriolwyr dros iechyd a thegwch, gweision sifil a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd a rhai nad ydynt yn ymwneud ag iechyd ond sydd â rôl wrth gyfeirio, dylanwadu ar neu lunio polisi ac arfer cenedlaethol ac is-genedlaethol.

Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol


CANLLAW

Hybu Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant Canllaw ar gyfer Buddsoddiad Traws-sector ar Sail Tystiolaeth

Mae'r canllaw hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu opsiynau polisi ar gyfer buddsoddi blaenoriaethol yng Nghymru, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael yng Nghymru ac yn Ewrop. Mae'r opsiynau polisi yn ymdrin â meysydd o faich a chostau uchel, yn ogystal â dangos cyd-fanteision (enillion) i'r economi, cymdeithas a'r amgylchedd, gan gynnwys buddsoddi mewn gwarchodaeth gyffredinol. Gall y canllaw gael ei ddefnyddio gan wneuthurwyr polisi a phenderfyniadau ar draws llywodraeth genedlaethol a lleol, y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, a chyrff cyhoeddus ym mhob sector arall yng Nghymru.

Hybu Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant Canllaw ar gyfer Buddsoddiad Traws-sector ar Sail Tystiolaeth


ERTHYGL

Dylanwadau economaidd ar iechyd y boblogaeth yn yr Unol Daleithiau: Tuag at Lunio Polisïau sy'n cael eu Gyrru gan Ddata a Thystiolaeth

Mae'r adolygiad hwn yn archwilio dylanwad ffactorau economaidd ar iechyd y boblogaeth yn yr Unol Daleithiau. Daw'r adolygiad i'r casgliad y ceir tystiolaeth gynyddol i awgrymu bod cyfleoedd economaidd disbyddol ac ansicrwydd economaidd cynyddol wedi chwarae rhan bwysig mewn deilliannau iechyd dirywiol a'r cyfraddau marwolaeth cynyddol a welir ymysg unigolion oedran gweithio. Mae hefyd yn awgrymu bod angen i wneuthurwyr polisi ystyried a gwerthuso ymagweddau newydd yn drylwyr, megis grantiau incwm sylfaenol neu raglenni gwarantu swyddi.

Dylanwadau economaidd ar iechyd y boblogaeth yn yr Unol Daleithiau: Tuag at Lunio Polisïau sy'n cael eu Gyrru gan Ddata a Thystiolaeth - Saesneg yn unig


ADRODDIAD COVID

Modelu Effaith COVID-19 ar Economi'r DU: Cymhwyso Model Keynes Newydd wedi'i Ddadelfennu

Mae'r adroddiad hwn gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn nodi fframwaith y gellir ei ddefnyddio i werthuso polisïau a fwriedir i liniaru effeithiau economaidd COVID-19. Yn ein fframwaith, gall siociau sydd ond yn effeithio ar sectorau penodol orlifo i sectorau eraill oherwydd cysylltiadau mewnbwn-allbwn ac yswiriant incwm cyfyngedig. Rydym yn dangos y gall polisïau fel y cynllun ffyrlo atal y cynnydd sydyn mewn diweithdra a allai godi yn absenoldeb y cynllun, ac yn dangos sut y gellir gwerthuso'r fath bolisïau gan ddefnyddio'r fframwaith.

Modelu Effaith COVID-19 ar Economi'r DU: Cymhwyso Model Keynes Newydd wedi'i Ddadelfennu - Saesneg yn unig


ADRODDIAD

Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi (SROI) ar Ymyriadau’n Ymwneud ag Iechyd Meddwl – Adolygiad Cwmpasu

Mae Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi (SROI) yn ddull methodolegol sydd yn ymgorffori pob un o’r dair agwedd o werthuso ymyriadau. Problemau iechyd meddwl yw un o brif achosion salwch ac anabledd yn fyd-eang. Nod yr astudiaeth hon yw mapio tystiolaeth bresennol o werth cymdeithasol ymyriadau iechyd meddwl sy’n defnyddio methodoleg SROI. Yr adolygiad cwmpasu hwn yw’r cyntaf o’i fath i ganolbwyntio ar SROI o ymyriadau iechyd meddwl, yn canfod nifer dda o astudiaethau SROI sydd yn dangos adenillion cadarnhaol o fuddsoddi gyda’r ymyriadau a nodir. Mae’r adolygiad hwn yn dangos y gallai SROI fod yn offeryn defnyddiol ac yn ffynhonnell tystiolaeth i lywio penderfyniadau polisi ac ariannu ar gyfer buddsoddi mewn iechyd a lles meddwl, am ei fod yn rhoi cyfrif am fuddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach ymyriadau iechyd y cyhoedd.

Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi (SROI) ar Ymyriadau’n Ymwneud ag Iechyd Meddwl – Adolygiad Cwmpasu - Seasneg yn unig


ADRODDIAD

Yr Argyfwng Costau Byw: Goblygiadau i Iechyd y Cyhoedd a Nodi Atebion adroddiad

Mae adroddiad Yr Argyfwng Costau Byw: Goblygiadau i Iechyd y Cyhoedd a Nodi Atebion yn crynhoi’r hyn a ddysgwyd o weminar y Rhwydwaith Rhanbarthau dros Iechyd (RHN) Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi ei hwyluso gan Ganolfan Gydweithredu WHO yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 21 Medi 2022.

Yr Argyfwng Costau Byw: Goblygiadau i Iechyd y Cyhoedd a Nodi Atebion adroddiad