Trosolwg
Mae annhegwch iechyd yn peri costau cymdeithasol ac economaidd arwyddocaol i unigolion a chymdeithasau. Yng Nghymru, mae’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol yn amlygu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol, ac yn gosod taclo anghydraddoldeb wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.
Mae lleihau anghydraddoldebau iechyd yn amcan polisi pwysig, o safbwynt cyfiawnder cymdeithasol. Gall dadl economaidd o bosib ychwanegu pwysau at yr amcan o leihau anghydraddoldebau iechyd.
Mae economeg iechyd yn ymwneud â defnyddio adnoddau’n effeithlon i wella iechyd y boblogaeth. Mae’n canolbwyntio ar degwch, effeithlonrwydd, effeithiolrwydd, gwerthoedd ac ymddygiadau ar gyfer dyrannu adnoddau gofal iechyd i ddiwallu anghenion iechyd y boblogaeth y mae’n ei gwasanaethu.
Mae gwerthuso economaidd yn cymharu costau a chanlyniadau camau gweithredu amgen ac yn darparu tystiolaeth i gyfeirio penderfyniadau ar sut i ddyrannu darpariaeth gofal iechyd gyfyngedig. Mae angen gwneud penderfyniadau ar ddyrannu adnoddau yn y fath fodd sy’n sicrhau canlyniadau effeithiol a theg a gwerth am arian.
Ceir tystiolaeth economaidd gynyddol sy’n ffurfio sail i ymyriadau iechyd y cyhoedd. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod ymyriadau iechyd cyhoeddus lleol a chenedlaethol yn arbed costau mawr, a bod toriadau i gyllidebau iechyd cyhoeddus mewn gwledydd incwm uchel yn debygol o gynhyrchu biliynau o bunnoedd o gostau ychwanegol i wasanaethau iechyd a’r economi ehangach.
Y Pum Amod Hanfodol
Mae’r adran hon yn cynnwys enghreifftiau o adnoddau ar natur ac effeithiau anghydraddoldebau iechyd, gan gysylltu â’r Pum Amod Hanfodol ar gyfer iechyd. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys:
- Dangosfwrdd rhyngweithiol
- Adroddiadau
- Canllawiau
- Erthyglau ymchwil
Cael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Diweddarir Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru yn barhaus gyda’r adnoddau a’r deunyddiau diweddaraf, gan gynnwys data, polisïau, adroddiadau ac astudiaethau achos. Cysylltwch â ni i gael eich hysbysu am ddiweddariadau i’r Llwyfan Datrysiadau.
Cysylltwch â ni i gymryd rhan.
Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid a defnyddwyr i ddiweddaru ac ehangu’r Llwyfan Datrysiadau gyda phrosiectau, astudiaethau achos a nodweddion sbotolau sy’n canolbwyntio ar degwch iechyd. Cysylltwch â ni i rannu eich prosiectau a’ch storïau am lwyddiant, i’w dangos ar y llwyfan.