Dulliau Polisi i Hyrwyddo Tegwch Rhywedd: Astudiaethau Achos o’r Ffindir a’r Alban
Tachwedd 17, 2026
Ledled y byd, mae gwledydd yn mabwysiadu gwahanol ddulliau o wella cydraddoldeb rhwng y rhywiau ym maes iechyd, gan gynnwys strategaethau cenedlaethol, diwygio polisïau, a chamau gweithredu ar draws systemau cyfan i fynd i’r afael â’r ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy’n benderfynyddion iechyd.
Archwiliodd erthygl sbotolau flaenorol sut mae annhegwch rhywedd yn dylanwadu ar iechyd drwy gydol cwrs bywyd. Mae’r erthygl sbotolau hon yn adeiladu ar y mewnwelediadau hynny. Mae’n canolbwyntio ar weithredu, gan amlygu enghreifftiau rhyngwladol o bolisïau, rhaglenni a dulliau ar lefel systemau sy’n helpu i wella canlyniadau iechyd a hyrwyddo tegwch rhywedd ym maes iechyd. Mae archwilio astudiaethau achos rhyngwladol yn rhoi cyfleoedd i rannu dysgu a nodi arferion da a allai lywio gweithredu. Er bod pob gwlad yn wynebu heriau ac ymatebion unigryw i anghenion penodol ei phoblogaeth, gall deall sut mae gwahanol systemau iechyd yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhywedd gynnig mewnwelediadau i wella canlyniadau iechyd a hyrwyddo tegwch.
Pam mae rhywedd yn bwysig?
Nid yw annhegwch rhywedd yn deillio o un digwyddiad neu brofiad. Yn hytrach, cânt eu llunio gan ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy’n cronni ac yn rhyngweithio mewn modd cymhleth drwy gydol oes. Gall profiadau a chyfleoedd yn ystod plentyndod cynnar, addysg, cyflogaeth, gofalu, ac yn hwyrach mewn bywyd, atgyfnerthu neu liniaru anghydraddoldebau. Mae hyn yn dylanwadu ar ganlyniadau iechyd, cyfranogiad economaidd a llesiant cyffredinol dros amser.

Ffigur 1: Darlun o sut mae anghydraddoldebau rhywedd yn cronni ac yn cyfuno ar draws cwrs bywyd
Mae’r enghreifftiau rhyngwladol canlynol o’r Ffindir a’r Alban yn dangos sut y gellir defnyddio polisi ar wahanol bwyntiau ymyrryd ar draws cwrs bywyd.
Mae’r Ffindir yn canolbwyntio ar greu amodau teg i deuluoedd drwy ofal plant ac absenoldeb rhiant. Mae’r Alban yn archwilio sut y gall cyllidebau’r llywodraeth gefnogi cydraddoldeb rhywedd yn well ar draws y gymdeithas. Er eu bod yn wahanol o ran dull gweithredu, mae’r ddwy wlad yn dangos enghreifftiau o fynd i’r afael ag achosion sylfaenol annhegwch cyn iddynt ddod yn rhan annatod o’r sefyllfa ac yn anoddach eu newid.
Maent hefyd yn tynnu sylw at sut y gellir defnyddio polisi, buddsoddiad a thystiolaeth i greu’r amodau ar gyfer bywydau iachach a mwy teg.
Y Ffindir Polisïau gofal plant yn hyrwyddo tegwch rhywedd
Mae gofal yn effeithio ar bobl drwy gydol cwrs bywyd, gan greu anghydraddoldebau economaidd sy’n gysylltiedig â gwaith gofal di-dâl, a hefyd effeithiau iechyd fel straen, diffygiad, a llesiant meddyliol gwael. Mae’r Ffindir yn cynnig enghraifft o sut y gellir defnyddio polisi gofal fel cyfrwng ar gyfer tegwch rhywedd a chyfranogiad economaidd. Mae system gofal plant a chymorth cynhwysfawr i deuluoedd sydd wedi’i chynllunio i gydbwyso gwaith, bywyd teuluol a llesiant plant wrth wraidd ei dull.
Mae polisïau’r Ffindir yn cyfuno sawl elfen gydgysylltiedig:
- Diwygio Absenoldeb Rhiant (2022): Cyflwynodd hawliau absenoldeb rhiant mwy cyfartal ac unigol i’r ddau riant, gan hyrwyddo gofalu ar y cyd.
- Manteision a gwerth: Yn 2024, derbyniodd rhieni oedd yn ennill rhwng €10,665 a €67,296 90% o’u hincwm yn ôl, tra bod y rhai oedd yn ennill llai yn cael eu cefnogi drwy lwfans lleiaf o tua €800 y mis. Mae hawl i bensiwn hefyd yn parhau i gronni yn ystod absenoldeb, ac yn helpu i amddiffyn diogelwch ariannol hirdymor.
- Deddf Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (2015): Mae’n gwarantu mynediad cyffredinol at ofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel (ECEC) i bob plentyn.
- Manteision a gwerth: Yn 2017 roedd 83.7% o blant yn mynd i ofal dydd trefol (y ECEC mwyaf cyffredin). Mae buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar yn gysylltiedig â manteision cymdeithasol ac economaidd hirdymor trwy ganlyniadau iechyd, addysgol a chyflogaeth gwell.
- Lwfans Gofal Plant Cartref (1985): Deddf ar Ofal Cartref i Blant a Lwfans Gofal Preifat. Mae’n darparu cefnogaeth ariannol i rieni sy’n gofalu am blant ifanc gartref.
- Manteision a gwerth: Yn 2024, roedd y lwfans yn cynnwys tâl sylfaenol o €377 y mis, taliadau ychwanegol ar gyfer plant eraill, ac atodiadau prawf modd o hyd at €202 y mis. Y lwfans cyfartalog a dalwyd yn 2023 oedd €451 y mis.
- Deddf ar Ffioedd Cleientiaid Addysg Blynyddoedd Cynnar (2016): Sicrhau bod gofal plant yn seiliedig ar incwm, yn fforddiadwy ac yn hygyrch.
- Manteision a gwerth: Dim ond am yr oriau a ddefnyddir y mae teuluoedd yn talu, gyda 60% o’r ffi llawn amser yn cael ei godi am blant. Mae’r ffi ar gyfer ail blentyn wedi’i chapio ar 40% o ffi’r plentyn cyntaf, gyda phlant dilynol yn talu 20% yn unig, gan helpu i leihau costau gofal plant i deuluoedd â mwy nag un plentyn. Mae gofal plant fforddiadwy yn helpu i gael gwared ar rwystrau ariannol a all gyfyngu ar gyfranogiad rhieni mewn cyflogaeth, yn enwedig i famau.
Gyda’i gilydd, mae’r polisïau hyn yn creu amgylchedd sy’n galluogi’r ddau riant i barhau i fod yn weithgar yn y farchnad lafur. Un newid nodedig fu diwygio absenoldeb rhiant. Yn dilyn newidiadau i wneud hawliau absenoldeb rhiant yn fwy cyfartal rhwng rhieni, mae’r nifer sy’n manteisio arno ymhlith tadau wedi dyblu. Mae hyn yn arwydd o newid graddol mewn normau gofalu a symud tuag at rolau rhianta mwy cytbwys.
Mae’r Ffindir wedi blaenoriaethu gofal plant fforddiadwy cyffredinol. Mae hyn yn sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at addysg gynnar wrth gefnogi cyflogaeth rhieni. Mae hefyd wedi cryfhau cymorth i ofalwyr anffurfiol drwy lwfansau ariannol ac archwiliadau iechyd rheolaidd. Mewn rhai bwrdeistrefi, mae rhwydweithiau cefnogaeth gan gymheiriaid, sy’n helpu i gydnabod a chynnal gofal di-dâl. Ochr yn ochr â hyn, mae’r Ffindir wedi cyflwyno arloesedd digidol ym maes gofal. Mae hyn yn cynnwys technolegau sy’n cefnogi byw’n annibynnol ac yn lleddfu’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal.
Mae’r polisïau hyn wedi cyflawni canlyniadau clir. Mae’r Ffindir yn gyson ymhlith yr uchaf yn Ewrop o ran cyfranogiad menywod yn y gweithlu, sydd wedi cysylltu’n agos â’i systemau gofal plant a chymorth teuluol hygyrch. Mae 90% wedi manteisio ar yr absenoldeb gofal plant a’r lwfans gofal cartref am o leiaf rai misoedd ar ôl absenoldeb rhiant. Mae’r dystiolaeth wedi dangos, ar ôl diwygio absenoldeb rhiant, fod tadau wedi cymryd bron ddwywaith cymaint o absenoldeb rhiant (13 wythnos o’i gymharu ag ychydig dros 7 wythnos), a bod rhieni wedi defnyddio absenoldeb yn fwy hyblyg, gan ddewis cyfnodau byrrach a rhan-amser.

Ffigur 2: Cynllun absenoldeb rhiant yn y Ffindir, 2024 (Saesneg yn unig)
Yn ogystal â hyn, mae diwygiadau wedi helpu i ail-lunio normau ynghylch tadolaeth. Mae wedi galluogi mwy o gyfrifoldeb a rennir am ofal a gwella cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i deuluoedd. Mae’r manteision ehangach yn cynnwys canlyniadau gwell o ran datblygiad plant a llesiant cyffredinol. Mae hyn yn dangos gwerth pellgyrhaeddol buddsoddi mewn seilwaith gofal.
Goblygiadau Tegwch
Mae’r ymchwil yn dangos bod nifer y tadau sy’n manteisio ar absenoldeb rhiant yn y Ffindir yn amrywio yn ôl statws economaidd-gymdeithasol. Mae tadau sydd ag addysg uwch a swyddi proffesiynol yn tueddu i gymryd mwy o absenoldeb ac absenoldeb hirach. Mae’r defnydd yn is ymhlith grwpiau llai breintiedig. Mae cyflogaeth ac addysg mamau hefyd yn dylanwadu ar faint o dadau sy’n manteisio ar y cynnig. Mae’r rhai mewn rolau medrus uwch yn llai tebygol o ymestyn absenoldeb trwy lwfansau gofal cartref.
Er gwaethaf y cynnydd hwn, mae tensiwn yn parhau. Gall y lwfans gofal cartref, sy’n cefnogi rhieni sy’n aros gartref gyda phlant ifanc, atgyfnerthu rolau rhywedd traddodiadol yn anfwriadol, gan fod mamau’n fwy tebygol o fanteisio ar y lwfans. Mae hyn yn tynnu sylw at y cydbwysedd bregus rhwng cynnig dewis a hyrwyddo cydraddoldeb.
Yr Alban: Cyllidebu ar sail rhywedd gan Lywodraeth yr Alban
Mae’r hyn sydd yn digwydd yn yr Alban yn enghraifft o sut y gall llywodraethau ddefnyddio prosesau cyllidebu i hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd. Er mwyn gwneud hyn, ymunodd Llywodraeth yr Alban â’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) i adolygu a phrofi model newydd o gyllidebu ar sail rhywedd drwy raglenni peilot. Newidiwyd y ffocws i archwilio sut y gall penderfyniadau ariannol leihau anghydraddoldebau rhywedd yn weithredol.
Adeiladodd y cynllun peilot ar ymrwymiadau presennol polisïau fel y Cynllun Iechyd Menywod (2021) a’r Strategaeth Cyflogadwyedd Gadael Neb Ar Ôl (2024–2027) .
Tynnodd y cynllun peilot sylw at fanteision clir a dangosodd y gall cyllidebu ar sail rhywedd ganolbwyntio mwy ar anghydraddoldebau, datgelu bylchau o ran gwariant, a chydweddu adnoddau’n well â nodau cydraddoldeb. Fodd bynnag, datgelodd hefyd heriau allweddol y mae angen mynd i’r afael â nhw cyn ehangu’r gwaith:
• Nodau rhywedd cyffredinol: Heb dargedau cydraddoldeb rhywedd clir, sy’n benodol i’r Alban, mae’n anodd alinio penderfyniadau gwariant yn gydlynol ar draws y llywodraeth.
• Cyfyngiadau strwythurol o ran cyllidebu: Mae’r model presennol, sy’n seiliedig ar bortffolios, yn dyrannu arian yn ôl adran yn hytrach nag yn ôl canlyniadau. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anoddach olrhain sut mae gwariant yn cyfrannu at gydraddoldeb rhywedd.
• Strwythurau ariannu cymhleth: Yn aml, mae llinellau cyllidebau yn eistedd o fewn dyraniadau ehangach, gan ei gwneud hi’n anodd olrhain sut mae gwariant penodol yn cefnogi canlyniadau rhywedd.
• Cyfyngiadau o ran adnoddau a chapasiti: Byddai cyllidebu ar sail rhywedd yn gofyn am fuddsoddiad, cydweithio ar draws timau, ac uwchsgilio sylweddol.
Cyfyngodd yr adrannau llywodraeth (Cyfiawnder ac Economi) a oedd yn ymwneud â’r cynllun peilot eu ffocws i feysydd lle’r oedd ganddynt ddylanwad clir, sef trais yn erbyn menywod a merched, a’r bwlch cyflog rhywedd ar gyfer menywod 50–64 oed. Amlygodd hyn fod materion anghydraddoldebau rhywedd yn drawsbynciol, ond mae cyllidebau’r llywodraeth yn parhau i fod ar wahân.
Yn galonogol, canfu’r adrannau a gymerodd ran fod nodau rhywedd lefel uchel a ddefnyddiwyd yn y cynllun peilot, a addaswyd o fenter debyg yng Nghanada, yn berthnasol i’r Alban. Mae hyn yn awgrymu y gallai datblygu nodau cenedlaethol wedi’u teilwra fod yn gam nesaf pwerus.
Casgliad
Gyda’i gilydd, mae’r enghreifftiau hyn yn tynnu sylw at wahanol ddulliau o hyrwyddo tegwch rhywedd ym maes iechyd. Maent yn dangos y gellir defnyddio gweithredu cydlynol ar draws llywodraeth, ymgorffori mecanweithiau atebolrwydd, a data cadarn i ddeall pwy sy’n elwa ar bolisïau