Mynd i'r cynnwys

Defnyddio Gwyddor Ymddygiad i Fynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Iechyd 

Tachwedd 3, 2025

Cyflwyniad i Wyddor Ymddygiad a’r Uned Gwyddor Ymddygiad 

Mae gwyddor ymddygiad yn ymwneud ag astudio ymddygiad dynol – gan nodi’r cymysgedd o ffactorau gwybyddol, seicolegol, cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n effeithio arno, a sut y gall y rhain amrywio fesul grŵp poblogaeth. Mae’n ein helpu i ddeall yr hyn sy’n cefnogi a/neu’n atal pobl rhag cymryd camau a allai effeithio ar eu hiechyd — a sut y gallwn eu cefnogi orau i wneud dewisiadau iachach. Mae gwyddor ymddygiad yn arbennig o werthfawr ym maes iechyd y cyhoedd, wrth lunio polisïau, gwasanaethau a chyfathrebiadau sy’n fwy effeithiol, cynhwysol a theg. 

Mae’r Uned Gwyddor Ymddygiad yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu arbenigedd i integreiddio gwyddor ymddygiad mewn ymarfer iechyd y cyhoedd. Mae’r Uned yn cefnogi gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd, llunwyr polisi a chynllunwyr gwasanaethau i wneud y canlynol: 

  • Cymhwyso dealltwriaeth ymddygiadol i wella canlyniadau iechyd a llesiant, 
  • Datblygu adnoddau a phrosiectau sy’n ystyriol o ymddygiad,
  • Meithrin eu capasiti a’u gallu, ar draws y system iechyd y cyhoedd,
  • Cydweithio ar draws sectorau a sefydliadau academaidd i ddylunio ymyriadau gwell. 

Mae’r Uned Gwyddor Ymddygiad yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i gynllunio ymyriadau sy’n lleihau anghydraddoldebau iechyd drwy ystyried heriau a rhwystrau ymddygiadol go iawn y mae gwahanol grwpiau poblogaeth yn eu hwynebu a defnyddio dulliau sy’n helpu i’w goresgyn.  

Ffigur 1: Beth yw Gwyddor Ymddygiad?  

Deall y Broblem 

Un o’r prif heriau iechyd y cyhoedd yw nad yw ymyriadau iechyd cyffredinol yn aml yn gweithio cystal i bawb. Gallai rhaglen sydd â’r nod o wella cyfraddau sgrinio neu nifer y bobl sy’n cael eu brechu lwyddo mewn un gymuned ond cael ychydig iawn o effaith mewn cymuned arall. Mae’r gwahaniaethau hyn yn aml yn adlewyrchu lefelau anghyfartal o asiantaeth bersonol— sef gallu unigolyn i wneud newidiadau yn ei fywyd neu’i amgylchedd er mwyn elwa ar ymyrraeth iechyd. 

Mae ymyriadau iechyd yn aml yn mabwysiadu dull cyffredinol, ac yn cymhwyso’r un strategaeth ar draws y boblogaeth gyfan. Y rheswm am hyn yw bod llawer ohonynt yn cael eu datblygu’n gyflym a than bwysau, yn enwedig mewn atal cychwynnol. Mae gan yr ymyriadau hyn fel arfer alw  uchel gan yr asiant: maent yn dibynnu’n fawr ar unigolion yn cymryd y cam cyntaf ac yn gweithredu. 

Ond nid yw asiantaeth bersonol wedi’i dosbarthu’n gyfartal. Mae’n dibynnu ar: 

  • Gallu unigol – gwybodaeth, sgiliau a hyder 
  • Adnoddau – cymorth ariannol, materol a chymdeithasol 
  • Rhyddid a chyfle – y gallu i weithredu ar ddewisiadau sy’n hybu iechyd 

Os nad yw’r ffactorau hyn yn cael eu hystyried ac yn cael sylw wrth gynllunio ymyriadau, gall ymyriadau sy’n galw am lawer o alluedd unigol (agentic demand) ehangu anghydraddoldebau iechyd yn anfwriadol.

Lefel y galw  Disgrifiad   Enghraifft   Amrywiadau canlyniad   
Uchel   Ymyriadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i unigolion gymryd cyfrifoldeb personol dros newid. Mae’r rhain yn dibynnu ar bobl yn meddu ar yr wybodaeth, y cymhelliant, yr amser a’r adnoddau (megis arian neu ymdrech wybyddol) i weithredu.  Ymgyrch iechyd y cyhoedd yn annog pobl i fwyta llai o halen trwy ddewisiadau bwyd gwell. Mae llwyddiant yn dibynnu ar ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a gallu unigol i newid ymddygiad.  Mae llwyddiant yn dibynnu ar ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a gallu unigol i newid ymddygiad.  
IselYmyriadau sy’n lleihau’r baich ar unigolion drwy newid yr amgylchedd, systemau, neu normau cymdeithasol lle mae ymddygiadau’n digwydd. Mae’r dulliau hyn yn gwneud dewisiadau iach yn haws neu’n awtomatig, sy’n golygu nad oes angen llawer o ymdrech bersonol.  Addasu bwydydd wedi’u prosesu i leihau’r cynnwys halen. Mae pawb yn elwa heb fod angen gwneud dewis gweithredol na chymryd camau gweithredu.  Mae pawb yn elwa heb fod angen gwneud dewis gweithredol na chymryd camau gweithredu.
Tabl 1: Agentic demand (Garrott 2023

Gellir gweld hyn yn glir ym mholisi atal gordewdra Lloegr. Dros y 30 mlynedd diwethaf, dim ond 19% o bron i 700 o bolisïau arfaethedig oedd â galw isel gan yr asiant. Roedd y gweddill yn dibynnu’n fawr ar weithredu personol, yn hytrach na chymorth ar lefel y system. 

Camau Gweithredu sy’n Seiliedig ar Ddatrysiadau: Sut gall Gwyddor Ymddygiad helpu? 

Mae gwyddor ymddygiad yn helpu i ail-lunio ac ailgynllunio ymyriadau fel eu bod yn: 

  • Ystyried realiti ymddygiad y bobl y maent yn anelu at eu helpu, 
  • Lleihau’r gofynion a roddir ar unigolion, 
  • Ac yn y pen draw yn dod yn fwy cyfartal ac effeithiol

Drwy ddefnyddio gwyddor ymddygiad yn gynnar yn y broses gynllunio, gallwn ddatblygu datrysiadau iechyd y cyhoedd sy’n cyflawni’r hyn yr ydym yn anelu ato – yn amlach. 

Mae’r Uned Gwyddor Ymddygiad yn cefnogi’r broses hon drwy: 

  • Ymgorffori gwyddor ymddygiad mewn polisi, gwasanaethau a chyfathrebu iechyd y cyhoedd, 
  • Cynnig offer fel manylebau ymddygiad i egluro elfennau “pwy, beth, pryd, a ble” ymyrraeth, 
  • Helpu i nodi pryd a sut y gall heriau ymddygiad atgyfnerthu neu fynd i’r afael ag anghydraddoldebau, ac
  • Gweithio ar draws sectorau i sicrhau dulliau cydgysylltiedig, sy’n seiliedig ar dystiolaeth. 

Enghraifft o sut y defnyddiwyd Gwyddor Ymddygiad yn ymarferol gan y gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu Helpa Fi I Stopio. Cyfathrebir â rhai cleientiaid sy’n hunan-atgyfeirio at y gwasanaeth Helpa Fi i Stopio trwy neges destun. Nod y neges destun yw annog cleientiaid i ymgysylltu â gwasanaethau cymorth ar ôl iddynt ddechrau hunanatgyfeiriad drwy’r wefan. Dangosodd data ymgysylltu mai dim ond 5% o’r cleientiaid a oedd wedi cael y neges destun wreiddiol a ffoniodd y gwasanaeth ar Ddiwrnod 0. Yn gyffredinol, y gyfradd ar gyfer cyswllt llwyddiannus gan y rhai a hunan-atgyfeiriodd oedd 30%. Ni wnaeth llawer o gleientiaid ymateb i ymdrechion y gwasanaeth i ymgysylltu. Mae’n debyg bod hyn oherwydd diffyg galwad i weithredu ar unwaith, neu fframio ysgogol. Defnyddiwyd manyleb ymddygiad Gwyddor Ymddygiad (Ffigur 2) i nodi elfennau pwy, beth, pryd a ble’r ymyrraeth.   

Ffigur 2. Manyleb Ymddygiad ar gyfer yr Ymgyrch Helpa Fi i Stopio (Astudiaethau Achos Gwyddor Ymddygiad)  

Helpodd cyflwyno cadarnhaol a darparu ysgogiad amserol sicrhau nad oedd cymhelliant y cleient yn cael ei golli. At ei gilydd, helpodd hyn i newid y negeseuon o gyfathrebu gwybodaeth yn unig i negeseuon sy’n canolbwyntio ar weithredu sy’n fwy tebygol o arwain at newid ymddygiad.  Mae helpu mwy o ysmygwyr i roi’r gorau iddi yn dod â manteision clir i unigolion, ond mae hefyd yn bwysig o ran cydraddoldeb iechyd – mae’r gyfradd marwolaethau sy’n gysylltiedig ag ysmygu ymhlith y rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig fwy na theirgwaith yn uwch nag ymhlith y rhai o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig.  

Y Cyfathrebiad Gwreiddiol:   Y Cyfathrebiad Diwygiedig:  
Helo [%FORENAME%], rydych chi wedi gofyn am alwad yn ôl gan y tîm Helpa Fi i Stopio. Bydd aelod o’n tîm yn eich ffonio chi cyn bo hir i siarad am sut y gallwn eich cefnogi. Neu, gallwch chi ein ffonio ni ar 0800 0852219 ar amser sy’n gyfleus i chi. Rydym ar agor dydd Llun/Mercher 9am-8pm, dydd Mawrth/Iau 9am-6pm, dydd Gwener/Sad 9am-5pm. Atebwch STOP i ganslo  Helo [%FORENAME%], da iawn ar ddechrau eich taith i roi’r gorau iddi! Ffoniwch ni heddiw ar 0800 085 2219 i gymryd y cam nesaf a chynllunio eich llwybr i fod yn ddi-fwg. Rydym ar agor dydd Llun/Mercher 9am-8pm, dydd Mawrth/Iau 9am-6pm, dydd Gwener/Sad 9am-5pm. Beth am fynd amdani heddiw? Os na allwch chi ein ffonio ni, byddwn yn cysylltu â chi yn fuan. Atebwch STOP i ganslo. 

Tabl 2:  Helpa Fi i Stopio – Negeseuon Testun SMS (yr Uned Gwyddor Ymddygiad

Casgliad 

Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn gofyn am ddealltwriaeth ddyfnach o sut mae ymddygiad yn cael ei lunio gan gyd-destunau bywyd go iawn a chynllunio datrysiadau iechyd y cyhoedd sy’n adlewyrchu’r realiti hwnnw – mewn grwpiau poblogaeth targed sydd wedi’u diffinio’n glir.Dylai ymyriadau effeithiol ystyried yr angen am ymdrech ymwybodol (pa mor anodd yw hi i bobl gymryd y camau gweithredu gofynnol, fel newid arferion neu wneud penderfyniadau, oherwydd nad oes gan bawb yr un gallu na’r un adnoddau i wneud hynny). Er enghraifft, gall defnyddio proffiliau risg personol helpu i ddylanwadu ar ymddygiadau fel ysmygu a deiet ond mae’n rhoi mwy o gyfrifoldeb ar yr unigolyn. Mewn cyferbyniad, mae newid y cyd-destun neu’r bensaernïaeth dewis—megis cynyddu argaeledd opsiynau bwyd iachach — yn gofyn am lai o ymdrech gan unigolion a gall arwain at ganlyniadau mwy teg. 

Dangoswyd bod gwneud gwasanaethau’n fwy ymatebol i anghenion a dewisiadau poblogaethau amrywiol, drwy newid opsiynau diofyn neu symleiddio systemau cymhleth, yn gwella’r nifer sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd ataliol.  Mae dewis y mecanwaith cywir ar gyfer ymyrraeth benodol yn gofyn am ystyriaeth weithredol o alluedd unigol, yn ddelfrydol trwy ddechrau gyda manyleb ymddygiad glir, ac yna prosesau diagnostig a dylunio. Mae’r dull hwn yn helpu i sicrhau bod ymyriadau’n lleihau anghydraddoldeb iechyd, neu o leiaf, ddim yn eu gwaethygu. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig y canlynol er mwyn cefnogi’r gwaith hwn: 

  • Canllaw cyffredinol 
  • Cyfres o offer cysylltiedig 
  • Storfa ar-lein o astudiaethau achos ac adnoddau    
  • Cymuned Ymarfer (CoP) i Gymru, sy’n agored i bawb sydd â diddordeb mewn gwella effaith polisïau, gwasanaethau a chyfathrebu drwy roi gwyddor ymddygiad ar waith yn rheolaidd 

Mae gwaith yr Uned Gwyddor Ymddygiad yn dangos pan gaiff gwyddor ymddygiad ei roi ar waith yn systematig, ei bod yn galluogi ymyriadau iechyd mwy craff, tecach a mwy effeithiol

Cyfeiriadau