Datrysiadau
Mae nifer o benderfynyddion ehangach iechyd yn deillio o’n hiechyd a’n hamodau byw; er enghraifft, tai. Mae’r angen am ddiogelwch o ran cael a chadw cartref a chael ein hamgylchynu gan amgylchedd cartref diogel a chyson, a’i effaith ar iechyd a lles corfforol a meddyliol, wedi’i gydnabod ers tro byd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu nifer o adroddiadau sy’n amlygu problemau tai o ansawdd gwael a’i effaith ar iechyd. Mae’r adroddiadau hyn yn cynnwys atebion posib, gan gynnwys yr achos dros fuddsoddi mewn tai sy’n amlinellu’r angen am daclo tai fel penderfynydd sylfaenol iechyd ac yn cyflwyno atebion gan gynnwys: dileu oerfel, lleithder a llwydni mewn cartrefi; gwella awyru; mesurau effeithlonrwydd ynni a chynlluniau tlodi tanwydd; cefnogi aelwydydd sy’n agored i niwed yn lle ymyriadau seiliedig ar ardaloedd.
Yn Ewrop, mae prosiect sy’n mapio tueddiadau a pholisïau i daclo digartrefedd. Mae hyn wedi cynnwys nodi argymhellion i fynd i’r afael â digartrefedd, gan gynnwys yr hawl i dai digonol ar gyfer pob person (agored i niwed) yn Ewrop ac integreiddio gwasanaethau iechyd o fewn datrysiadau tai.
Yn ystod cyfnodau o ansicrwydd, fel y pandemig COVID-19, gall cartref ddarparu sylfaen ddiogel a sefydlog i unigolion ac aelwydydd. Cynhaliwyd asesiad o’r effaith ar iechyd mewn perthynas ag effaith COVID-19 ar dai gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gwnaed argymhellion pellach ar gyfer y dyfodol gan gynnwys: buddsoddi mewn tai fforddiadwy, diogel a chynaliadwy fel rhan o adferiad ‘gwyrdd’ yn sgil y pandemig, a chymorth i greu lleoedd cynaliadwy fel yr amlinellir ym Mholisi Cynllunio Cymru; annog tenantiaethau tymor hwy i roi mwy o sicrwydd i denantiaid a mwy o amddiffyniad rhag cael eu troi allan – gan gydbwyso hyn ag anghenion landlordiaid, er mwyn lleihau’r rhwystrau i ddod o hyd i lety diogel yn y dyfodol.
Adnoddau defnyddiol:
CANLLAW
Hybu Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant Canllaw ar gyfer Buddsoddiad Traws-sector ar Sail Tystiolaeth
Mae'r canllaw hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu opsiynau polisi ar gyfer buddsoddi blaenoriaethol yng Nghymru, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael yng Nghymru ac yn Ewrop. Mae'r opsiynau polisi yn ymdrin â meysydd o faich a chostau uchel, yn ogystal â dangos cyd-fanteision (enillion) i'r economi, cymdeithas a'r amgylchedd, gan gynnwys buddsoddi mewn mentrau cynllunio gofodol a threfol, cymunedau cefnogol a chydnerth, cymunedau gwyrddach a mwy diogel, ac ymyriadau tai amlochrog. Gall y canllaw gael ei ddefnyddio gan wneuthurwyr polisi a phenderfyniadau ar draws llywodraeth genedlaethol a lleol, y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, a chyrff cyhoeddus ym mhob sector arall yng Nghymru.
CANLLAW
Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol
Mae'r canllaw ymarferol hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn offeryn i wella llywodraethu, buddsoddi ac atebolrwydd ar gyfer iechyd a thegwch. Bwriad y canllaw yw helpu i ddatblygu adroddiadau eiriolaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'u teilwra i'r cyd-destun a dogfennau ac offer perthnasol eraill, gan alluogi polisïau a gwneud penderfyniadau iach ar draws gwahanol sectorau, lefelau'r llywodraeth a sefyllfa'r wlad. Ei nod yw atal dadfuddsoddi mewn iechyd, cynyddu buddsoddiad mewn atal (iechyd y cyhoedd), a buddsoddiad traws-sectoraidd prif ffrwd i ymdrin â phenderfynyddion ehangach iechyd a thegwch.
Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol
ADRODDIAD
Gwneud Gwahaniaeth Tai ac Iechyd: Prif Adroddiad Achos dros Fuddsoddi
Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflwyno'r achos dros fuddsoddi mewn iechyd a thai yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn amlinellu costau tai annigonol i'r GIG ac i gymdeithas, gan gynnwys tystiolaeth ar grwpiau poblogaeth penodol gan gynnwys pobl hŷn a phobl ag anableddau a thystiolaeth ar ddigartrefedd. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer camau ataliol, tystiolaeth ar ymyriadau tai effeithiol, ac astudiaethau achos o'r camau a gymerwyd yng Nghymru i fynd i'r afael ag ansawdd tai, cartrefi anaddas a digartrefedd.
Gwneud Gwahaniaeth Tai ac Iechyd: Prif Adroddiad Achos dros Fuddsoddi
ADRODDIAD COVID
Gosod Tegwch Iechyd Wrth Wraidd Ymateb ac Adferiad Cynaliadwy COVID-19: Adeiladu Bywydau Llewyrchus i Bawb yng Nghymru
Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi tegwch iechyd wrth wraidd ymateb ac adfer cynaliadwy yn sgil y pandemig COVID-19 ac yn ymchwilio i effeithiau'r pandemig ar y system tai, digartrefedd, mynediad i fannau glas a gwyrdd, troseddu a thrais domestig yng Nghymru.
ADRODDIAD COVID
Mwyafu Cyfleoedd Iechyd a Lles Mewn Cynllunio Gofodol Wrth Ailsefydlu yn Sgil y Pandemig COVID-19
Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi'r dystiolaeth ar effaith COVID-19 ar gymunedau yng Nghymru, gan gynnwys tai, amgylcheddau bwyd iach, economïau sylfaenol lleol, trafnidiaeth, a seilwaith gwyrdd a glas. Mae'r adroddiad yn argymell y dylai systemau iechyd cyhoeddus a gofal iechyd a chynllunio ddod at ei gilydd i alluogi ymagweddau effeithiol a chynaliadwy at gynllunio'r defnydd o dir a chreu lleoedd wrth adeiladu mannau cynaliadwy sy'n gwella iechyd a lles.
Mwyafu Cyfleoedd Iechyd a Lles Mewn Cynllunio Gofodol Wrth Ailsefydlu yn Sgil y Pandemig COVID-19
CANLLAW
Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl): Pecyn Cymorth ar gyfer Ymarfer
Mae'r pecyn cymorth hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlinellu'r cyd-destun a'r ysgogiadau polisi ar gyfer HIA a chynllunio'r defnydd o dir a chyngor ac adnoddau ymarferol y gellir eu defnyddio fel ffynhonnell gyfeirio hygyrch pan fo'i hangen wrth ddatblygu cynlluniau datblygu lleol (CDLl), cynlluniau datblygu strategol (CDS) a chanllawiau cynllunio atodol (CCA). Nod y Pecyn Cymorth yw cefnogi'r cydweithio parhaus rhwng y sectorau cynllunio ac iechyd cyhoeddus yng Nghymru er mwyn mwyafu iechyd a lles cadarnhaol drwy bolisïau cynllunio defnydd tir sy'n creu cymunedau iach, teg a chydlynol.
Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl): Pecyn Cymorth ar gyfer Ymarfer
ADRODDIAD
Cynllunio a Galluogi Amgylcheddau Iach
Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn hyrwyddo gwell dealltwriaeth o'r rhwystrau amgylcheddol a chymdeithasol ehangach sy'n effeithio ar iechyd, lles ac anghydraddoldebau. Mae'r adroddiad yn galluogi polisïau a chynlluniau a all raeadru allan er budd lles corfforol a meddyliol unigol, iechyd cymunedol ac amgylcheddol. Mae'r adroddiad wedi'i ategu gan adnodd astudiaethau achos sydd ag enghreifftiau o Gymru a'r Deyrnas Unedig mewn perthynas â: buddsoddi yng nghanol trefi a'r stryd fawr, adfywio trefi, siopau cludfwyd poeth, datblygiadau preswyl, seilwaith gwyrdd, a mannau chwarae.
Cynllunio a Galluogi Amgylcheddau Iach
ADRODDIAD COVID
Does Unman yn Debyg i Gartref? Archwilio Effaith Iechyd a Llesiant COVID-19 ar Dai Heb Ddiogelwch
Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn seiliedig ar Asesiad o'r Effaith ar Iechyd (HIA) cynhwysfawr a chyfranogol sy'n archwilio effaith iechyd a lles COVID-19 ar dai ac ansicrwydd tai. Mae'r adroddiad yn nodi camau gweithredu i hyrwyddo lles unigolion, cymunedau a chymdeithas. Gall y dystiolaeth yn yr adroddiad hwn gynorthwyo'r rhai sy'n gwneud polisïau a phenderfyniadau wrth ystyried effaith y pandemig ar dai ac ansicrwydd tai, fel y gellir lleihau anghydraddoldebau posib ac effeithiau negyddol, a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i sicrhau iechyd a lles cadarnhaol yn y dyfodol.
Does Unman yn Debyg i Gartref? Archwilio Effaith Iechyd a Llesiant COVID-19 ar Dai Heb Ddiogelwch
ADRODDIAD
Gwneud Gwahaniaeth: Lleihau’r Risg i Iechyd Sydd yn Gysylltiedig â Llygredd Traffig ar y Ffyrdd yng Nghymru
Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlinellu atebion sy'n ceisio lleihau allyriadau traffig ffyrdd a sicrhau effeithiau cadarnhaol ar iechyd y cyhoedd drwy ddatblygu economi fwy cynaliadwy, cymdeithas ffyniannus a'r iechyd a'r lles gorau posib ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yng Nghymru.
CANLLAW
Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl): Pecyn Cymorth ar gyfer Ymarfer
Dylunnir y pecyn cymorth Asesu'r Effaith ar Iechyd hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi cynllunwyr i integreiddio iechyd yn hwylus yn eu cynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol, a'i nod yw mwyafu'r deilliannau iechyd a lles cadarnhaol drwy bolisïau cynllunio'r defnydd o dir sy'n creu cymunedau iach, teg a chydlynol.
Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl): Pecyn Cymorth ar gyfer Ymarfer
ADRODDIAD
Atal Digartrefedd Pobl Ifanc Adolygiad Rhyngwladol o Dystiolaeth
Mae'r adroddiad hwn gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn seiliedig ar adolygiad rhyngwladol. Mae'r adroddiad yn nodi ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, arferion addawol, blaenoriaethau atal a nodwyd gan bobl ifanc, ac elfennau polisi croestoriadol sy'n cyfrannu at atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Arweiniwyd yr adolygiad o dystiolaeth gan gwestiynau gan gynnwys 'Pa bolisïau a rhaglenni sy'n effeithiol o ran atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc?', a 'Beth yw nodweddion strategaethau effeithiol i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc?’
Atal Digartrefedd Pobl Ifanc Adolygiad Rhyngwladol o Dystiolaeth
CANLLAW
Lleihau Digartrefedd ymysg Ymfudwyr, Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Canllaw Arferion Da
Mae'r canllaw arfer da hwn gan Tai Pawb ar gyfer Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn rhannu enghreifftiau o arfer da o Gymru a gwledydd eraill ar atal a thaclo digartrefedd ymhlith poblogaethau ymfudwyr.
Lleihau Digartrefedd ymysg Ymfudwyr, Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Canllaw Arferion Da
PAPUR
Gwneud y Gwahaniaeth: Taclo Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Mae'r papur byr hwn gan Gydffederasiwn Cymru yn amlinellu syniadau ar ffyrdd o weithio a fyddai'n sicrhau effaith ar y cyd wrth ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd, gan gynnwys pwysigrwydd cartrefi cymdeithasol fforddiadwy o ansawdd da ac atebion ynni gwyrdd fforddiadwy.
Gwneud y Gwahaniaeth: Taclo Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru - Saesneg yn unig
ADRODDIAD
Gweithio gyda'n Gilydd i Ddod â Digartrefedd o Dai Cymdeithasol i Ben
Mae'r adroddiad hwn gan Shelter Cymru yn cydnabod y berthynas rhwng tai ac iechyd corfforol a meddyliol. Caiff yr adroddiad ei gyfeirio gan brofiadau rhai pobl sydd wedi bod yn agos iawn at golli eu cartrefi cymdeithasol, a gwaith landlordiaid cymdeithasol a sefydliadau eraill wrth helpu i atal digartrefedd o dai cymdeithasol.
Gweithio gyda'n Gilydd i Ddod â Digartrefedd o Dai Cymdeithasol i Ben - Saesneg yn unig
ADRODDIAD COVID
Ymdrin â'r Syndemig Cenedlaethol: Problemau ac Atebion sy'n Seiliedig ar Le i Anghydraddoldeb Iechyd y DU
Mae'r adroddiad hwn gan Brosiectau Polisi Cyhoeddus a'r Sefydliad Tegwch Iechyd yn cyflwyno enghreifftiau o'r hyn y gellir ei wneud i daclo anghydraddoldebau iechyd: gan y system iechyd a gofal, llywodraeth leol a rhanbarthol, y sector gwirfoddol a chymunedol, a chan fusnes, gan weithio gydag unigolion a chymunedau.
ADRODDIAD
Lefelu Iechyd i Fyny: Fframwaith Ymarferol sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth
TMae'r adroddiad hwn, a arweinir ar y cyd gan Brifysgolion Caergrawnt a Newcastle (Lloegr), yn darparu arweiniad ymarferol ar sut i leihau anghydraddoldebau iechyd ar lefel leol a rhanbarthol. Mae'r arweiniad wedi'i anelu at lywodraeth ganolog a lleol yn ogystal ag asiantaethau eraill sydd â rhan mewn gwella iechyd. Mae'n cynnwys astudiaethau achos ar fodelau ac ymagweddau at ddylunio a siapio lleoedd newydd fel eu bod yn hyrwyddo iechyd a lles, a gwasanaethau a rhaglenni sydd wedi'u dylunio o gwmpas anghenion penodol lleoedd a chymunedau, yn seiliedig ar ymgysylltu cymunedol da.
Lefelu Iechyd i Fyny: Fframwaith Ymarferol sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth - Saesneg yn unig
CANLLAW
Canllawiau Iechyd a Thai Sefydliad Iechyd y Byd: Argymhellion i Hyrwyddo Tai Iach ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy a Theg
Mae'r canllawiau hyn gan Sefydliad Iechyd y Byd yn darparu argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar amodau ac ymyriadau sy'n hyrwyddo tai iach, ac yn hwyluso arweinyddiaeth wrth alluogi ystyriaethau iechyd a diogelwch i fod yn sail i reoliadau tai. Bydd y canllawiau'n galluogi ystyriaethau iechyd i gyfeirio polisïau tai, ynni, datblygu cymunedol a datblygu trefol.
ADRODDIAD
Cynghrair Iechyd a Llesiant: Cau’r Bwlch: Beth sy’n Rhwystro Newid? Yr Argyfwng Costau Byw a'r Cynnydd mewn Anghydraddoldebau yng Nghymru
Yn yr adroddiad hwn, mae Cynghrair Iechyd a Llesiant Conffederasiwn GIG Cymru yn archwilio'r argyfwng costau byw a'r cynnydd mewn anghydraddoldebau yng Nghymru. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu'r camau sy'n cael eu cymryd ar draws holl adrannau'r llywodraeth, gan nodi sut y bydd llwyddiant yn cael ei fesur a'i werthuso drwy fesurau a chanlyniadau perfformiad cyffredin ar gyfer pob corff cyhoeddus yng Nghymru, ynghyd â chanllawiau ar sut y dylai sefydliadau unigol gydweithio i leihau anghydraddoldebau a mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.
ADRODDIAD
Adolygiad o Dlodi ac Allgáu Cymdeithasol yng Nghymru
Mae Canolfan Polisïau Cyhoeddus Cymru wedi paratoi dau adroddiad ar dlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru yn rhan o’i gorchwyl i adolygu strategaethau, rhaglenni a chamau rhyngwladol ym meysydd tlodi ac allgáu cymdeithasol i Lywodraeth Cymru. Mae’r naill adroddiad yn canolbwyntio ar dystiolaeth feintiol, ac mae’r llall yn trafod tystiolaeth ansoddol eilaidd ynghylch profiad pobl o dlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru.
Adolygiad o Dlodi ac Allgáu Cymdeithasol yng Nghymru
ADRODDIAD
Tlodi yn y DU 2023
Dyma'r ail rifyn o adroddiad tlodi Sefydliad Joseph Rowntree, sy'n edrych ar dueddiadau mewn tlodi ar draws llawer o nodweddion ac effeithiau pwysig.
Tlodi yn y DU 2023 - Saesneg yn unig
ADRODDIAD
Cipolwg ar Dlodi
Rhennir adroddiad Cipolwg ar Dlodi Sefydliad Bevan yn dair adran. Nod yr adran gyntaf yw rhoi trosolwg ar sut y mae pobl yng Nghymru yn rheoli costau cynyddol. Mae'r ail adran yn edrych yn fanylach ar brofiadau'r grwpiau y mae costau cynyddol yn effeithio fwyaf arnynt. Mae'r adran olaf yn archwilio effaith yr argyfwng costau byw ar iechyd pobl.
Cipolwg ar Dlodi - Saesneg yn unig