Datrysiadau
Er mwyn byw bywyd iach a hapus mae angen sicrwydd economaidd ar bobl.Yng Nghymru, daeth y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol i rym ar 31 Mawrth 2021. Wrth wneud penderfyniadau strategol ynghylch sut i arfer eu swyddogaethau mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd, roi sylw dyledus i ddymunoldeb eu harfer mewn ffordd a ddylunnir i leihau’r anghydraddoldebau o ran canlyniad sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi teclyn tracio cynnydd i gefnogi cyrff cyhoeddus i fodloni gofynion y Ddyletswydd. Dylai Cyrff Cyhoeddus ddefnyddio’r teclyn tracio cynnydd i feincnodi sut mae gofynion y Ddyletswydd yn cael eu bodloni; deall sut i fwrw ymlaen â gwelliannau i sicrhau newid pwrpasol mewn diwylliant, y tu hwnt i ofynion y Ddyletswydd; ac annog myfyrio a chofnodi cynnydd.
Mae llawer o sefydliadau wedi ymchwilio i atebion posib i fater diogelwch incwm a diogelu cymdeithasol. Lluniodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid adroddiad a fu’n ymchwilio i anghydraddoldebau incwm yn y DU. Mae’r adroddiad yn cyflwyno opsiynau ar gyfer mynd i’r afael ag effeithiau diweithdra cynyddol, sef lleihau’r gost o gyflogi pobl sy’n defnyddio’r system dreth; codi gwariant ar wasanaethau cyhoeddus a chyflogaeth yn y sector cyhoeddus; mwy o gyllid ar gyfer rhaglenni (ail)hyfforddi; rhoi hwb i fudd-daliadau allan o waith; neu newidiadau mwy sylfaenol i gyflwyno mwy o yswiriant cymdeithasol i’r system les. Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu cynlluniau i ymestyn y cymorth i’r rhai sy’n gadael gofal drwy gynllun peilot Incwm Sylfaenol yng Nghymru. Nod y cynllun peilot yw ymestyn cymorth i’r rhai sy’n gadael gofal a bydd yn darparu prawf ar gyfer manteision incwm sylfaenol a nodwyd, megis mynd i’r afael â thlodi a diweithdra a gwella iechyd a lles ariannol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu adroddiad Incwm Sylfaenol sy’n ystyried amrywiaeth o dystiolaeth ac yn ymchwilio i’r effeithiau posib ar iechyd a lles. Mae hefyd yn edrych ar y gwahanol ymagweddau at gynllunio a gweithredu polisïau yn rhyngwladol. Mae’r adroddiad yn nodi opsiynau ar gyfer llunwyr polisi sy’n ystyried incwm sylfaenol, megis gwneud gwaith modelu economaidd, gosod iechyd a lles fel un o nodau craidd unrhyw gynllun, a chynnal astudiaethau dichonoldeb i ddeall sut y gellid cyflwyno incwm sylfaenol yng Nghymru.
Adnoddau defnyddiol:
ADRODDIAD
Revenue, capital, prevention: a new public spending framework for the future
Mae'r papur briffio hwn yn galw am greu categori newydd o fewn gwariant y llywodraeth, sef Terfynau Gwariant Adrannol Ataliol (PDEL). Byddai hyn yn dosbarthu ac yn clustnodi buddsoddiad ataliol, er mwyn cyflwyno ffocws ar y tymor hir i wariant cyhoeddus.
Revenue, capital, prevention: a new public spending framework for the future
OFFERYN AR-LEIN
Systemau ar gyfer newid: Ysgogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd
Mae'r platfform hwn yn cipio’r hyn a ddysgwyd o systemau ac yn gwneud camau breision i gefnogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd ehangach mewn systemau gofal integredig. Mae’n cyflwyno mewnwelediadau ymarferol mewn darnau bach, cryno, ac yn eich arwain trwy bopeth sydd angen i chi ei wybod i wneud cynnydd ar ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd.
Systemau ar gyfer newid: Ysgogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd
ADRODDIAD
Trawsnewid y maes iechyd a chydraddoldeb cymdeithasol: hyrwyddo twf cymdeithasol cyfiawn a chynhwysol i wella gwydnwch, undod a heddwch
Mae’r adroddiad hwn yn archwilio’r gydberthynas rhwng iechyd, yr economi a chyfalaf cymdeithasol. Mae'n archwilio sut y gall Aelod-wladwriaethau weithio i feithrin cydlyniant cymdeithasol a buddsoddi yn iechyd pobl i wella gwydnwch a hybu adferiad teg.
Canllawiau’r sefydliad
Canllawiau darpariaeth cadeiriau olwyn
Nod y canllawiau darparu cadeiriau olwyn hyn yw cefnogi gwell mynediad i gadeiriau olwyn priodol, ar gyfer pawb sydd mewn angen, gan gynnwys plant, pobl hŷn, pobl ag anableddau symudedd, a'r rhai â chyflyrau iechyd cronig. Maent yn berthnasol i bob gwlad a phob defnyddiwr cadair olwyn a phob math o gadeiriau olwyn. Maent yn pwysleisio bod y canlyniadau gorau o ran mynediad i gadeiriau olwyn yn digwydd pan fydd defnyddwyr cadeiriau olwyn yn cael budd o broses unigol o asesu, ffitio, hyfforddi, a dilyn i fyny, wedi’i darparu gan bersonél hyfforddedig.
Canllawiau darpariaeth cadeiriau olwyn
CANLLAW
Hybu Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant Canllaw ar gyfer Buddsoddiad Traws-sector ar Sail Tystiolaeth
Mae'r canllaw hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu opsiynau polisi ar gyfer buddsoddi blaenoriaethol yng Nghymru, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael yng Nghymru ac yn Ewrop. Mae'r opsiynau polisi yn ymdrin â meysydd o faich a chostau uchel, yn ogystal â dangos cyd-fanteision (enillion) i'r economi, cymdeithas a'r amgylchedd, gan gynnwys buddsoddi mewn gwarchodaeth gyffredinol. Gall y canllaw gael ei ddefnyddio gan wneuthurwyr polisi a phenderfyniadau ar draws llywodraeth genedlaethol a lleol, y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, a chyrff cyhoeddus ym mhob sector arall yng Nghymru.
CANLLAW
Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol
Mae'r canllaw ymarferol hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn offeryn i wella llywodraethu, buddsoddi ac atebolrwydd ar gyfer iechyd a thegwch. Bwriad y canllaw yw helpu i ddatblygu adroddiadau eiriolaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'u teilwra i'r cyd-destun a dogfennau ac offer perthnasol eraill, gan alluogi polisïau a gwneud penderfyniadau iach ar draws gwahanol sectorau, lefelau'r llywodraeth a sefyllfa'r wlad. Ei nod yw atal dadfuddsoddi mewn iechyd, cynyddu buddsoddiad mewn atal (iechyd y cyhoedd), a buddsoddiad traws-sectoraidd prif ffrwd i ymdrin â phenderfynyddion ehangach iechyd a thegwch.
Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol
ADRODDIAD
Incwm Sylfaenol i Wella Iechyd a Llesiant y Boblogaeth yng Nghymru?
Anelir yr adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru at wneuthurwyr penderfyniadau sy'n ystyried incwm sylfaenol yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn cyflwyno'r cysyniad o incwm sylfaenol, yn arfarnu'r dystiolaeth bresennol o gynlluniau a threialon fu'n bodoli eisoes, ac yn ymchwilio i ba gamau y byddai angen i Gymru eu hystyried wrth ddatblygu cynnig incwm sylfaenol sydd â gwella iechyd a lles fel amcan allweddol. Nid yw'r adroddiad hwn yn gwneud argymhellion ffurfiol; yn hytrach, ei nod yw darparu tystiolaeth i gyfeirio'r drafodaeth, cefnogi gwneud penderfyniadau yn y dyfodol, a chyfeirio meddwl er ymchwil bellach.
Incwm Sylfaenol i Wella Iechyd a Llesiant y Boblogaeth yng Nghymru?
PAPUR
Polisïau Incwm Sylfaenol Cyffredinol a'u Potensial i Ymdrin ag Annhegwch Iechyd: Ymagweddau Trawsnewidiol at Fywyd Iach a Ffyniannus i Bawb
Mae'r papur trafod hwn gan Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop yn seiliedig ar adolygiad eang o lenyddiaeth, gan gynnwys llenyddiaeth academaidd, dogfennau polisi, gwerthusiadau effaith o ymagweddau peilot incwm sylfaenol cyffredinol, a rhaglenni tebyg eraill. Mae'r papur yn ymchwilio i'r ffactorau cyd-destunol sy'n siapio'r achos a'r amodau ar gyfer diwygio incwm sylfaenol, ac yn trafod rhai o'r dadleuon a'r heriau sy'n gysylltiedig ag incwm sylfaenol cyffredinol fel mesurau polisi pendant.
ADRODDIAD COVID
Gosod Tegwch Iechyd Wrth Wraidd Ymateb ac Adferiad Cynaliadwy COVID-19: Adeiladu Bywydau Llewyrchus i Bawb yng Nghymru
Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi tegwch iechyd wrth wraidd ymateb ac adfer cynaliadwy yn sgil y pandemig COVID-19 ac yn ymchwilio i effaith y pandemig ar y bwlch economaidd-gymdeithasol a gwahanol sectorau yng Nghymru.
GWEMINAR COVID
Wynebu Tlodi ac Ansicrwydd Incwm yn Ystod COVID-19 Drwy Gryfhau Amddiffyniad Cymdeithasol
Mae'r weminar hon yn rhan o gyfres weminarau byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar effaith y pandemig COVID-19 ar degwch a phenderfynyddion cymdeithasol iechyd. Mae'r weminar yn cynnwys trafodaethau ar y dystiolaeth fyd-eang ar rôl amddiffyniad cymdeithasol wrth liniaru'r effeithiau annhegwch iechyd sy'n deillio o dlodi ac ansicrwydd incwm a achoswyd gan y pandemig COVID-19.
ADRODDIAD
Yr Argyfwng Costau Byw - Cynllun Gweithredu i Gymru
Mae'r adroddiad byr hwn yn nodi cynigion Sefydliad Bevan o ran camau gweithredu yn y 6-12 mis nesaf a fydd yn lleddfu pwysau'r argyfwng costau byw ar gyfer y rhai lleiaf cefnog. Mae'n argymell gweithredu ar y tri maes sy’n gwasgu fwyaf ar gyllidebau aelwydydd: tai, ynni a bwyd. Mae'n canolbwyntio ar gamau y gellir eu cyflawni yn y tymor byr, gan ddefnyddio'r grantiau a'r lwfansau presennol sydd wedi'u datganoli a thrwy weithio gyda sefydliadau cymunedol, ac mae’n gwneud argymhellion am eu defnyddio'n effeithiol.
Yr Argyfwng Costau Byw - Cynllun Gweithredu i Gymru - Saesneg yn unig