Dangosyddion Data
Ffynonellau data cenedlaethol
Mae’r adran ganlynol yn cynnwys setiau data ac offer rhyngweithiol sy’n mesur anghydraddoldebau/annhegwch iechyd a’u penderfynyddion yng Nghymru.

Mae’r SYG yn cynhyrchu amrywiaeth eang o ystadegau economaidd, cymdeithasol a phoblogaeth ac mae’n cyhoeddi dros 600 o ddatganiadau’r flwyddyn. Mae’r SYG hefyd yn cynnal y Cyfrifiad unwaith bob 10 mlynedd – mae data’r Cyfrifiad ar gael trwy NOMIS.
Ffynonellau data rhyngwladol
Mae’r adran ganlynol yn cynnwys setiau data ac offer rhyngweithiol sy’n mesur anghydraddoldebau/annhegwch iechyd a’u penderfynyddion ar draws y byd.

Yr Arsyllfa Iechyd Fyd-eang yw porth Sefydliad Iechyd y Byd i ystadegau sy’n ymwneud ag iechyd ar gyfer ei 194 o Aelod-wladwriaethau. Mae’n darparu mynediad at dros 1,000 o ddangosyddion ar bynciau iechyd â blaenoriaeth sy’n cynnwys marwolaethau a baich clefydau, Nodau Datblygu’r Mileniwm, clefydau anhrosglwyddadwy a ffactorau risg ac ati.

Mae’r Catalog Data gan Fanc y Byd yn cynnwys data o blatfformau data microdata, cyllid ac ynni Banc y Byd, yn ogystal â dangosyddion datblygu. Mae dangosyddion datblygu yn cynnwys pethau fel mynediad at drydan, digonolrwydd amddiffyniad cymdeithasol a rhaglenni llafur, ymhlith penderfynyddion ehangach eraill.

Mae Cronfa Ddata Dangosyddion y Nodau Datblygu Cynaliadwy yn galluogi defnyddwyr i gael mynediad at fwy na 200 o broffiliau gwledydd neu ardaloedd. Mae gan y Nodau Datblygu Cynaliadwy fframwaith dangosyddion byd-eang sy’n cynnwys 231 o ddangosyddion unigryw. Mae cyfran fawr o’r dangosyddion yn cipio’r penderfynyddion iechyd e.e. addysg o safon.

Lletyir ILOSTAT gan Adran Ystadegau’r ILO, sef y canolbwynt ar gyfer ystadegau llafur i’r Cenhedloedd Unedig.