Anghenion nas diwallwyd a bod yn agored i niwed
Adnoddau
ADRODDIAD
Costly differences: Living standards for working-age people with disabilities
Yn y nodyn briffio hwn, mae’r Resolution Foundation yn canolbwyntio ar safonau byw pobl ag anableddau, gan gynnwys canlyniadau arolwg newydd o ychydig o dan 8,000 o oedolion o oedran gweithio, yr adroddodd dros 2,000 ohonynt salwch neu anabledd hirdymor, i gynnig cipolwg ar eu profiad o'r argyfwng presennol.
Costly differences: Living standards for working-age people with disabilities
ADRODDIAD
Cost Lawn Tai Gwael yng Nghymru
Mae'r adroddiad hwn ar y cyd gan Ymddiriedolaeth BRE, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i effeithiau amodau tai gwael ar iechyd a lles, ac yn datgelu yr amcangyfrifir mai tua £1 biliwn y flwyddyn yw'r gost lawn i gymdeithas o adael i bobl fyw mewn tai gwael yng Nghymru.
Cost Lawn Tai Gwael yng Nghymru
PAPUR
Pwysigrwydd Effeithlonrwydd Ynni Mewn Cartrefi i Iechyd a Llesiant Pobl
Mae'r papur trafod hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystyried ffactorau sy'n cysylltu gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartrefi ag iechyd, lles ac amcanion cymdeithasol ehangach ac yn awgrymu bod gwerthuso deilliannau iechyd cadarnhaol a negyddol yn hanfodol er mwyn arfarnu mesurau effeithlonrwydd ynni o safbwynt aelwydydd ac iechyd y boblogaeth.
Pwysigrwydd Effeithlonrwydd Ynni Mewn Cartrefi i Iechyd a Llesiant Pobl
ADRODDIAD
Yr Hawl i Dai Digonol yng Nghymru: Y Sylfaen Dystiolaeth
Mae'r adroddiad ymchwil annibynnol hwn gan Alma Economics, a gomisiynwyd gan Tai Pawb, Sefydliad Tai Siartredig Cymru a Shelter Cymru, yn ymchwilio i dai ac anghydraddoldeb tai yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn cyflwyno llenyddiaeth a mentrau sydd wedi ymchwilio i gost amodau tai gwael a digartrefedd o ran iechyd corfforol a meddyliol.
Yr Hawl i Dai Digonol yng Nghymru: Y Sylfaen Dystiolaeth
ADRODDIAD
Lleisiau’r Rhai Sydd â Phrofiadau Personol o Ddigartrefedd a Niwed yng Nghymru: Llywio Gwaith Atal ac Ymateb
Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu y gallai lleihau neu atal adfyd a brofir gan y plentyn helpu i leihau bod yn agored i niwed yn y dyfodol drwy liniaru deilliannau iechyd a chymdeithasol negyddol yn yr oedolyn, gan gynnwys digartrefedd. Trafododd cyfranogwyr â phrofiad o ddigartrefedd o lygad y ffynnon ddatblygu ymddygiadau ymdopi camaddasol yn eu harddegau, neu'n gynharach, wrth ymateb i'r adfyd yr oeddent yn ei brofi, a barhaodd i mewn i oedolaeth, gan gyfrannu at eu digartrefedd.
CANLLAW
Cymru fwy Cyfartal: y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol - Enghreifftiau o Anghydraddoldebau Canlyniad Oherwydd Anfantais Economaidd-gymdeithasol a COVID-19
Mae'r ddogfen arweiniad hon gan Lywodraeth Cymru yn cyflwyno enghreifftiau o anghydraddoldebau o ran canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol a lle mae'r rhain wedi'u gwaethygu o ganlyniad i COVID-19, gan gynnwys materion tai, costau tai a mynediad at erddi. Bwriedir i'r arweiniad fod yn fan cychwyn defnyddiol i wneuthurwyr polisi wrth iddynt ystyried anghydraddoldeb canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.
ADRODDIAD COVID
Drws ar Glo: Datgloi Bywydau a Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19
Mae'r adroddiad hwn gan Lywodraeth Cymru yn ymchwilio i effaith y pandemig COVID-19 ar bobl anabl yng Nghymru, gan gynnwys tystiolaeth ar dai hygyrch a phriodol, teithio diogel, hygyrch a fforddiadwy, a mynediad i fannau cyhoeddus a bywyd cyhoeddus.
Drws ar Glo: Datgloi Bywydau a Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19
ADRODDIAD COVID
Ymateb i Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a’r Newid yn yr Hinsawdd i Iechyd, Llesiant a Thegwch yng Nghymru
Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn disgrifio effeithiau cronnus ac unigol yr 'her driphlyg' - Brexit, COVID-19 a newid yn yr hinsawdd - ar iechyd, lles a thegwch yng Nghymru ac yn nodi'r grwpiau poblogaeth yr effeithir arnynt fwyaf o bosib fel cynnwys y rhai mewn cymunedau gwledig, pysgotwyr a ffermwyr, y rhai ar incwm isel a phlant a phobl ifanc.
ADRODDIAD COVID
Ymateb i Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a’r Newid yn yr Hinsawdd o Ran Iechyd, Llesiant a Thegwch yng Nghymru Pwyslais ar: Ddiogelwch Bwyd
Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru'n ymchwilio i ddiogelwch bwyd fel penderfynydd iechyd a lles pwysig ar lefel y boblogaeth genedlaethol ac ar lefel unigol a chymunedol, ac yn nodi nifer o gyfleoedd i wella diogelwch bwyd poblogaeth Cymru yn y tymor byr a'r hir dymor.
ADRODDIAD COVID
Ymateb i Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a’r Newid yn yr Hinsawdd o Ran Iechyd, Llesiant a Thegwch yng Nghymru Pwyslais ar: Gymunedau Gwledig
Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru'n amlygu sut y bydd dylanwadau cyfunedig Brexit, y Coronafeirws a newid yn yr hinsawdd o bosib yn gweld cymunedau gwledig yng Nghymru'n profi cyfnod o newidiadau mawrion, gyda chyfleoedd ac effeithiau negyddol i lywio trwyddynt.
ADRODDIAD COVID
Does Unman yn Debyg i Gartref? Archwilio Effaith Iechyd a Llesiant COVID-19 ar Dai Heb Ddiogelwch
Mae'r Asesiad o'r Effaith ar Iechyd (HIA) cynhwysfawr a chyfranogol hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i effaith iechyd a lles COVID-19 ar dai ac ansicrwydd tai. Gall gynorthwyo'r rhai sy'n gwneud polisïau a phenderfyniadau wrth ystyried effaith y pandemig ar dai ac ansicrwydd tai, fel y gellir lleihau anghydraddoldebau posib ac effeithiau negyddol, a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i sicrhau iechyd a lles cadarnhaol yn y dyfodol.
Does Unman yn Debyg i Gartref? Archwilio Effaith Iechyd a Llesiant COVID-19 ar Dai Heb Ddiogelwch
ADRODDIAD COVID
Asesiad o’r Effaith ar Iechyd y ‘Polisi Aros Gartref ac Ymbellhau Cymdeithasol’ yng Nghymru Mewn Ymateb i’r Pandemig COVID-19
Mae'r asesiad hwn o'r effaith ar iechyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru'n amlygu effeithiau iechyd a lles posib y Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol (y cyfeirir ato'n gyffredinol fel y 'Cyfnod Clo') ar boblogaeth Cymru yn y tymor byr, canolig a hir.
ADRODDIAD COVID
Asesiad o Anghenion Iechyd: Effaith COVID-19 ar Brofiadau Plant a Phobl Ifanc o Drais a Phrofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod
Mae'r ymchwil hon a ariennir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Uned Atal Trais Cymru yn amlygu sut mae COVID-19 wedi arwain at lawer o heriau i blant a phobl ifanc a, gyda ffactorau fel pryderon am fywyd cartref a lles presennol, ei fod yn debygol y bydd wedi cynyddu'r risg o ddod i gysylltiad â thrais a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yn enwedig ymhlith y plant a'r bobl ifanc mwyaf agored i niwed.
ADRODDIAD COVID
Mwyafu Cyfleoedd Iechyd a Lles Mewn Cynllunio Gofodol Wrth Ailsefydlu yn Sgil y Pandemig COVID-19
Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi materion a themâu allweddol mewn perthynas â chreu lleoedd iach gan gynnwys lleoedd a thai, economïau sylfaenol lleol, symud o gwmpas drwy gerdded, beicio a defnyddio cludiant cyhoeddus, mynediad i amgylcheddau bwyd iach a thyfu bwyd, cyrchu a defnyddio technoleg ddigidol, a mynediad i Seilwaith gwyrdd a glas. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi camau ar lefel strategol a all gael eu gweithredu gan amrywiaeth o gyrff cyhoeddus gan gynnwys y rhai sy'n gyfrifol am bolisïau a chynlluniau cynllunio, yr amgylchedd ac iechyd.
ADRODDIAD COVID
Pam Mae Angen Natur ar Gymdeithas: Gwersi o Ymchwil yn Ystod COVID-19
Mae'r adroddiad hwn gan Cyfoeth Naturiol Cymru, NatureScot, Natural England, Forest Research ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn pwysleisio pwysigrwydd mannau gwyrdd a glas ar gyfer iechyd a lles meddyliol pobl yn ystod y pandemig COVID-19. Mae'r ymchwil hefyd yn datgelu sut yr aeth ymgysylltu â natur yn begynol, gyda rhyngweithio rhai pobl yn cynyddu, tra bod eraill yn ymweld â'r awyr agored yn llai aml nag o'r blaen.
Pam Mae Angen Natur ar Gymdeithas: Gwersi o Ymchwil yn Ystod COVID-19 - Saesneg yn Unig
ADRODDIAD
Yr Hawl i Gartref Digonol yng Nghymru: Dadansoddiad Cost a Bud
Comisiynwyd Alma Economics gan Tai Pawb, Sefydliad Tai Siartredig (CIH) Cymru a Shelter Cymru fel rhan o’r ymgyrch Yn ôl y Bil i archwilio’r costau a’r manteision o gyflwyno’r RTAH yn raddol yng Nghymru. Yr ymchwil hwn yw ail ran prosiect dau gam ac mae’n adeiladu ar ganfyddiadau’r cam cyntaf a ganolbwyntiodd ar dystiolaeth ar effaith tai diogel, sicr, fforddiadwy a digonol ar ganlyniadau allweddol megis iechyd, lles, cynhyrchiant a throseddau. ac astudiaethau achos o gyflwyno hawliau tebyg i dai a pholisïau mewn gwledydd eraill, gan gynnwys achosion yn y Ffindir, Seland Newydd, yr Alban, Canada, Ffrainc, Sbaen a De Affrica.
Yr Hawl i Gartref Digonol yng Nghymru: Dadansoddiad Cost a Bud - Saesneg yn Unig
ADRODDIAD
Atal Digartrefedd Pobl Ifanc: Adolygiad Rhyngwladol o Dystiolaeth
Yng nghyd-destun y symud byd-eang tuag at atal, mae’r adolygiad ryngwladol yn nodi ymyriadau yn seiliedig ar dystiolaeth, arferion addawol, blaenoriaethau atal a nodwyd gan bobl ifanc, ac elfennau polisi sy’n croestorri sydd yn cyfrannu at atal digartrefedd pobl ifanc. Mae’r adroddiad yn defnyddio asesiad gofalus o’r gronfa ddata hon er mwyn datblygu set o argymhellion er mwyn dargyfeirio pobl ifanc yn effeithiol rhag profi digartrefedd.
Atal Digartrefedd Pobl Ifanc: Adolygiad Rhyngwladol o Dystiolaeth
ADRODDIAD
Cydweithio i Roi Terfyn ar Ddigartrefedd o Dai Cymdeithasol
Caiff yr adroddiad hwn ei lywio gan brofiadau rhai pobl sydd wedi bod yn agos iawn at golli eu cartrefi cymdeithasol, a gwaith landlordiaid cymdeithasol a sefydliadau eraill wrth helpu i atal digartrefedd o dai cymdeithasol. Mewn ymateb i'r canfyddiadau hyn, nod yr adroddiad yw bod yn arf defnyddiol, gydag awgrymiadau a syniadau newydd. Mae'n cynnwys awgrymiadau o'r egwyddorion y tu ôl i atal digartrefedd o dai cymdeithasol ac enghreifftiau ymarferol a syniadau o sut y gellid gweithredu'r rhain. Mae hefyd yn cynnwys modelau newydd petrus a chynigion ynghylch sut y gallwn helpu mwy o bobl i gadw eu cartrefi a rhoi terfyn ar droi allan o dai cymdeithasol yn ddigartref.
Cydweithio i Roi Terfyn ar Ddigartrefedd o Dai Cymdeithasol - Saesneg yn unig
CANLLAW
Lleihau Digartrefedd ymysg Ymfudwyr, Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches: Canllaw Arferion Da
Diben y canllaw hwn yw amlygu rhai o’r heriau allweddol sy’n gysylltiedig ag atal a mynd i'r afael â digartrefedd ymysg poblogaethau mudol a rhannu enghreifftiau o arferion da o Gymru a chenhedloedd eraill.
Lleihau Digartrefedd ymysg Ymfudwyr, Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches: Canllaw Arferion Da