Mynd i'r cynnwys

Anghenion nas diwallwyd a bod yn agored i niwed

Confused man using a laptop

Adnoddau

ADRODDIAD

Anghydraddoldeb yng Nghymru’r Dyfodol: Meysydd Gweithredu mewn Gwaith, Hinsawdd a Newid Demograffig

Mae'r adroddiad hwn yn archwilio sut y gallai tri thueddiad allweddol – newidiadau i'r ffordd yr ydym yn gweithio, newid yn yr hinsawdd a newid demograffig – effeithio ar anghydraddoldebau mewn Cymru'r dyfodol. Mae'n nodi y dylai paratoadau ar gyfer dyfodol gwaith sy'n newid ganolbwyntio ar ailddylunio swyddi a hyfforddiant a bod angen i bolisïau newydd, megis Incwm Sylfaenol Cyffredinol (UBI) a gweithio o bell, ystyried cydraddoldeb.

Anghydraddoldeb yng Nghymru’r Dyfodol: Meysydd Gweithredu mewn Gwaith, Hinsawdd a Newid Demograffig


ADRODDIAD COVID

Byd Pandemig COVID-19 a Thu Hwnt: Effaith Gweithio Gartref ac Ystwyth ar Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru Adroddiad Cryno

Mae'r adroddiad cryno hwn ar yr Asesiad o'r Effaith ar Iechyd yn nodi ystod eang o oblygiadau cadarnhaol a negyddol o weithio gartref a hyblyg ar gyfer y gweithlu yng Nghymru, yn y tymor byr a'r tymor hwy, ac yn nodi camau y gellir eu mabwysiadu i hyrwyddo lles unigolion, cymunedau a chymdeithas sydd hefyd yn diwallu anghenion sefydliadau a chyflogwyr.

Byd Pandemig COVID-19 a Thu Hwnt: Effaith Gweithio Gartref ac Ystwyth ar Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru Adroddiad Cryno


PAPUR

Astudiaeth o Gymorth Cyflogaeth a Sgiliau i Ffoaduriaid

Mae'r astudiaeth annibynnol hon yn edrych ar ddyheadau cyflogaeth, sgiliau a phrofiad ffoaduriaid a cheiswyr lloches a'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth ariannu cyflogaeth.

Astudiaeth o Gymorth Cyflogaeth a Sgiliau i Ffoaduriaid


ADRODDIAD

Yr Hawl i Dai Digonol yng Nghymru: Y Sylfaen Dystiolaeth

Mae'r adroddiad ymchwil annibynnol hwn gan Alma Economics, a gomisiynwyd gan Tai Pawb, Sefydliad Tai Siartredig Cymru a Shelter Cymru, yn ymchwilio i dai ac anghydraddoldeb tai yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn cyflwyno tystiolaeth sydd wedi ymchwilio i gysylltiadau rhwng tai anfforddiadwy gyda cholledion cynhyrchiant ac effaith economaidd.

Yr Hawl i Dai Digonol yng Nghymru: Y Sylfaen Dystiolaeth


CANLLAW

Cymru fwy Cyfartal: Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol Enghreifftiau o Anghydraddoldebau Canlyniad Oherwydd Anfantais Economaidd-gymdeithasol a COVID-19

Mae'r ddogfen arweiniad hon gan Lywodraeth Cymru yn cyflwyno enghreifftiau o anghydraddoldebau o ran canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol a lle mae'r rhain wedi'u gwaethygu o ganlyniad i COVID-19, gan gynnwys materion cau sectorau i lawr, gweithiwr ifainc a'r rhai ar incwm isel. Bwriedir i'r arweiniad fod yn fan cychwyn defnyddiol i wneuthurwyr polisi wrth iddynt ystyried anghydraddoldeb canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.

Cymru fwy Cyfartal: Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol Enghreifftiau o Anghydraddoldebau Canlyniad Oherwydd Anfantais Economaidd-gymdeithasol a COVID-19


ADRODDIAD COVID

COVID-19 a Newidiadau mewn Cyflogaeth yng Nghymru: Faint a Wyddwn am yr Effeithiau Presennol ac yn y Dyfodol

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno tystiolaeth bod y pandemig COVID-19 wedi effeithio'n fwy ar rai grwpiau poblogaeth nag eraill, gan gynnwys pobl ifanc, menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, teuluoedd incwm isel a rhieni sengl.

COVID-19 a Newidiadau mewn Cyflogaeth yng Nghymru: Faint a Wyddwn am yr Effeithiau Presennol ac yn y Dyfodol - Saesneg yn unig


ERTHYGL

Nodweddion y Rhai Sydd Fwyaf Agored i Newidiadau Cyflogaeth yn Ystod y Pandemig COVID-19: Astudiaeth Drawsadrannol sy'n Genedlaethol Gynrychioliadol yng Nghymru

Mae'r erthygl ymchwil hon yn datgelu bod nifer o grwpiau poblogaeth agored i niwed wedi profi canlyniadau cyflogaeth andwyol yn ystod cam cychwynnol y pandemig COVID-19 yng Nghymru. Mae'n argymell, er mwyn sicrhau nad yw anghydraddoldebau iechyd a chyfoeth yn cael eu gwaethygu gan COVID-19 neu'r ymateb economaidd i'r pandemig, y dylai ymyriadau gynnwys hyrwyddo cyflogaeth ddiogel a thargedu'r grwpiau a nodwyd fel y rhai sydd fwyaf agored i niweidiau datblygol y pandemig.

Nodweddion y Rhai Sydd Fwyaf Agored i Newidiadau Cyflogaeth yn Ystod y Pandemig COVID-19: Astudiaeth Drawsadrannol sy'n Genedlaethol Gynrychioliadol yng Nghymru - Saesneg yn unig


ADRODDIAD

COVID-19 a Newidiadau Cyflogaeth yng Nghymru: Cipolygon Polisi – Pobl ifanc, Cyflogaeth ac Iechyd

Comisiynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru Beaufort Research i archwilio safbwyntiau ar heriau cyflogaeth a wynebir gan bobl ifanc (gyda phlant dibynnol a hebddynt) sy’n gysylltiedig â’r pandemig; a beth ellid ei wneud i liniaru effaith newidiadau cyflogaeth cysylltiedig â COVID-19 ar bobl ifanc.

COVID-19 a Newidiadau Cyflogaeth yng Nghymru: Cipolygon Polisi – Pobl ifanc, Cyflogaeth ac Iechyd - Saesneg yn unig


ADRODDIAD COVID

Drws ar Glo: Datgloi Bywydau a Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19

Mae'r adroddiad hwn gan Lywodraeth Cymru yn ymchwilio i effaith y pandemig COVID-19 ar bobl anabl yng Nghymru, gan gynnwys sut mae profiadau o waith a chyflogaeth wedi cyfrannu at yr anfanteision y mae pobl anabl wedi'u profi yn ystod y pandemig.

Drws ar Glo: Datgloi Bywydau a Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19


ADRODDIAD COVID

Symbylyddion Bod yn Agored i Annhegwch Iechyd Sy'n Dod i'r Amlwg yng Nghyd-destun COVID-19: Safbwyntiau ac Ymateb gan y Sector Gwirfoddol a Chymunedol yng Nghymru

Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi ymchwil ansoddol gyda chyfranogwyr a recriwtiwyd o ystod o sefydliadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol (SGCh) yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn nodi anghenion allweddol sy'n dod i'r amlwg sy'n gysylltiedig â'r pandemig, gan gynnwys ansicrwydd economaidd oherwydd straen ariannol aelwydydd a cholli swyddi, yn ogystal ag iechyd meddwl gwaethygol oherwydd gorbryder ac unigrwydd, allgáu digidol, colli gwasanaethau wyneb yn wyneb a chyfyngiadau yn yr ymateb statudol.

Symbylyddion Bod yn Agored i Annhegwch Iechyd Sy'n Dod i'r Amlwg yng Nghyd-destun COVID-19: Safbwyntiau ac Ymateb gan y Sector Gwirfoddol a Chymunedol yng Nghymru - Saesneg yn unig


ADRODDIAD

Canlyniadau Arolwg 2020: Materion Ffrwythlondeb yn y Gweithle

Canlyniadau arolwg o arolwg 2020 a edrychodd ar brofiadau ffrwythlondeb menywod yn y gweithle, gan gynnwys unrhyw bolisi perthnasol sydd ar waith, y cymorth a gynigir, a’r effeithiau y gallai hyn fod wedi’u cael ar eu llwybr gyrfa.

Canlyniadau Arolwg 2020: Materion Ffrwythlondeb yn y Gweithle - Saesneg yn unig


ADRODDIAD

Maniffesto ar Gyfer Cydraddoldeb Rhywedd Yng

Yn y Maniffesto hwn, mae Chwarae Teg yn nodi eu gweledigaeth ar gyfer sut y gall Llywodraeth nesaf Cymru sicrhau Cymru gyfartal rhwng y rhywiau lle gall pob menyw, o bob cefndir, gyflawni ei photensial a chyflawni canlyniadau cyfartal.

Maniffesto ar Gyfer Cydraddoldeb Rhywedd Yng


ADRODDIAD

Mynd i’r Afael ag Aflonyddu Rhywiol yn y Gweithle

Mae’r prosiect, wedi’i ariannu gan gronfa her Rosa: Now’s the Time, wedi ymgymryd ag ymchwil ar sut mae cyflogwyr, rheolwyr a menywod yn gweld profiadau cyfredol o aflonyddu rhywiol ac yn nodi pum gofyniad allweddol i greu gweithle nad yw’n goddef aflonyddu rhywiol, sef diwylliant, polisi, hyfforddiant, dulliau adrodd, a’r ffordd y mae cyflogwyr yn ymateb i adroddiadau.

Mynd i’r Afael ag Aflonyddu Rhywiol yn y Gweithle - Saesneg yn unig