Mynd i'r cynnwys

Anghenion nas diwallwyd a bod yn agored i niwed

Filming a classroom setting

Adnoddau

ADRODDIAD

Tackling the cost of living crisis for older people: What the Government must do

Mae pobl hŷn na allant fforddio eu biliau ynni angen y sicrwydd o fargeinion ynni gostyngol a, hyd nes y byddant ar gael, rhaid i'r Llywodraeth sicrhau bod pob unigolyn hŷn yn cael y cymorth sydd ei angen i aros yn gynnes ac yn iach yn awr, a thrwy gydol yr hydref a’r gaeaf – yn wir hyd nes y cytunir bod yr argyfwng costau byw hwn wedi dod i ben o’r diwedd.

Tackling the cost of living crisis for older people: What the Government must do


ADRODDIAD

Incwm Sylfaenol i Wella Iechyd a Llesiant y Boblogaeth yng Nghymru?

Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflwyno dysgu sy'n gysylltiedig ag iechyd a phenderfynyddion ehangach iechyd o gynlluniau incwm sylfaenol a weithredir ledled y byd.

Incwm Sylfaenol i Wella Iechyd a Llesiant y Boblogaeth yng Nghymru?


CANLLAW

Cymru fwy Cyfartal: y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol Enghreifftiau o Anghydraddoldebau Canlyniad Oherwydd Anfantais Economaidd-gymdeithasol a COVID-19

Mae'r ddogfen arweiniad hon gan Lywodraeth Cymru yn cyflwyno enghreifftiau o anghydraddoldebau o ran canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol a lle mae'r rhain wedi'u gwaethygu o ganlyniad i COVID-19, gan gynnwys effeithiau ar ddeilliannau iechyd. Bwriedir i'r arweiniad fod yn fan cychwyn defnyddiol i wneuthurwyr polisi wrth iddynt ystyried anghydraddoldeb canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.

Cymru fwy Cyfartal: y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol Enghreifftiau o Anghydraddoldebau Canlyniad Oherwydd Anfantais Economaidd-gymdeithasol a COVID-19


ADRODDIAD COVID

Drws ar Glo: Datgloi Bywydau a Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19

Mae'r adroddiad hwn gan Lywodraeth Cymru yn ymchwilio i effaith y pandemig COVID-19 ar bobl anabl yng Nghymru, gan gynnwys sut mae pobl anabl wedi syrthio ar ei hôl hi'n anghymesur â biliau'r cartref yn ystod y pandemig, oherwydd eu sefyllfa yn y farchnad lafur a'r costau uwch sy'n gysylltiedig â bod yn anabl.

Drws ar Glo: Datgloi Bywydau a Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19


ADRODDIAD

Symbylyddion Bod yn Agored i Annhegwch Iechyd Sy'n Dod i'r Amlwg yng Nghyd-destun COVID-19: Safbwyntiau ac Ymateb gan y Sector Gwirfoddol a Chymunedol yng Nghymru

Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi ymchwil ansoddol gyda chyfranogwyr a recriwtiwyd o ys tod o sefydliadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol (SGCh) yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn nodi anghenion allweddol sy'n dod i'r amlwg sy'n gysylltiedig â'r pandemig, gan gynnwys ansicrwydd economaidd oherwydd straen ariannol aelwydydd a cholli swyddi, yn ogystal ag iechyd meddwl gwaethygol oherwydd gorbryder ac unigrwydd, allgáu digidol, colli gwasanaethau wyneb yn wyneb a chyfyngiadau yn yr ymateb statudol.

Symbylyddion Bod yn Agored i Annhegwch Iechyd Sy'n Dod i'r Amlwg yng Nghyd-destun COVID-19: Safbwyntiau ac Ymateb gan y Sector Gwirfoddol a Chymunedol yng Nghymru - Saesneg yn unig