Ffilter
Adnoddau
Yn dangos 1 - 10 of 524 o ganlyniadau
Peer Reviewed Article - Hydref 11, 2024
Anghydraddoldebau Iechyd yn Ewrop: A yw Diogelwch Isafswm Incwm yn Gwneud Gwahaniaeth?
Mae'r erthygl ymchwil yn ymchwilio i sut mae diogelu isafswm incwm yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau iechyd economaidd-gymdeithasol.
Anghydraddoldebau Iechyd yn Ewrop
Geiriau allweddol: Europe Peer Reviewed Article Y DU a Rhyngwladol
Adnodd - Hydref 11, 2024
Cyfraniad Cyflogaeth ac Amodau Gweithio at Anghydraddoldebau Galwedigaethol mewn Clefydau nad Ydynt yn Drosglwyddadwy yn Ewrop
Daw'r erthygl ymchwil hon i'r casgliad bod cyflogaeth ac amodau gweithio'n benderfynyddion pwysig o anghydraddoldebau galwedigaethol mewn clefydau nad ydynt yn drosglwyddadwy (NCD) ac mae'n argymell ystyried rheoliadau'r farchnad lafur wrth lunio dulliau atal NCD.
Geiriau allweddol: Europe Y DU a Rhyngwladol
Adnodd - Hydref 11, 2024
Systemau ar gyfer newid: Ysgogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd
Mae'r platfform hwn yn cipio’r hyn a ddysgwyd o systemau ac yn gwneud camau breision i gefnogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd ehangach mewn systemau gofal integredig. Mae’n cyflwyno mewnwelediadau ymarferol mewn darnau bach, cryno, ac yn eich arwain trwy bopeth sydd angen i chi ei wybod i wneud cynnydd ar ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd.
Systemau ar gyfer newid: Ysgogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd
Geiriau allweddol: Datrysiadau
Adnodd - Hydref 11, 2024
Revenue, capital, prevention: a new public spending framework for the future
Mae'r papur briffio hwn yn galw am greu categori newydd o fewn gwariant y llywodraeth, sef Terfynau Gwariant Adrannol Ataliol (PDEL). Byddai hyn yn dosbarthu ac yn clustnodi buddsoddiad ataliol, er mwyn cyflwyno ffocws ar y tymor hir i wariant cyhoeddus.
Revenue, capital, prevention: a new public spending framework for the future
Geiriau allweddol: Datrysiadau
Adnodd - Hydref 11, 2024
Goresgyn Anghydraddoldebau Iechyd Mewn Cymdogaethau 'Sydd Wedi'u Gadael ar ôl'
Mae'r adroddiad hwn gan y Grŵp Seneddol Hollbleidiol (APPG) ar gyfer cymdogaethau sydd wedi'u gadael yn ôl yn disgrifio effaith iechyd gwael ar y rhai sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig a chymdogaethau 'sydd wedi'u gadael ar ôl' yn Lloegr ac yn darparu nifer o argymhellion polisi ar gyfer lleihau anghydraddoldebau iechyd ar lefel cymdogaethau a chymunedau.
Goresgyn Anghydraddoldebau Iechyd Mewn Cymdogaethau 'Sydd Wedi'u Gadael ar ôl'
Geiriau allweddol: Y DU a Rhyngwladol
Adnodd - Hydref 11, 2024
Rhagolwg Cyflogaeth yr OECD 2022
Yn edrych ar adferiad y farchnad lafur ar ôl y pandemig a sut mae’r rhyfel yn Wcráin wedi effeithio ymhellach ar hyn; adolygir y farchnad lafur allweddol a heriau cymdeithasol ar gyfer adferiad mwy cynhwysol ar ôl COVID-19. Yn canolbwyntio ar fregusrwydd drwy sylw a roddir i weithwyr rheng flaen a grwpiau sydd wedi cael eu gadael ar ôl o ran adfer y farchnad lafur (pobl ifanc, gweithwyr sydd â llai o addysg, a lleiafrifoedd hiliol/ethnig). Mae’n canolbwyntio ar ddatrysiadau drwy archwilio polisïau i fynd i'r afael â'r heriau hyn a'r rhagolygon ar gyfer y dyfodol.
Rhagolwg Cyflogaeth yr OECD 2022
Geiriau allweddol: Y DU a Rhyngwladol
Adnodd - Hydref 11, 2024
A Oes Cysylltiad Rhwng Amodau Gweithio ac Iechyd?: Dadansoddiad o Ddata'r Chweched Arolwg Amodau Gweithio Ewropeaidd
Mae'r erthygl ymchwil hon ar amodau gweithio Ewropeaidd yn cyflwyno canlyniadau sy'n dangos bod annog amodau gweithio, amgylchedd gwaith a chymorth swyddi yn gysylltiedig â gwell iechyd a hunanasesir ac iechyd gwrthrychol gwell.
Geiriau allweddol: Y DU a Rhyngwladol
Adnodd - Hydref 11, 2024
Y Ganolfan Economeg Iechyd: A Yw Owns o Atal Yn Werth Pwys o Iachâd? Amcangyfrifon o Effaith Grant Iechyd Cyhoeddus Lloegr ar Farwolaethau a Morbidrwydd
Yn y papur hwn, archwiliodd yr ymchwilwyr argaeledd fformiwla ariannu ar gyfer y grant iechyd cyhoeddus i ymchwilio i'r berthynas rhwng gwariant o'r fath a marwolaethau.
Geiriau allweddol: Economeg a Modelu Iechyd
Adnodd - Hydref 11, 2024
Gweithwyr Anffurfiol yn yr Undeb Ewropeaidd: Amodau Gweithio, Cyflogaeth Ansicr ac Iechyd
Daw'r erthygl ymchwil hon i'r casgliad bod cyflogaeth anffurfiol yn yr UE-27 yn cael ei nodweddu gan amodau gweithio gwaeth a chyflogaeth ansicr na'r amodau ar gyfer gweithwyr ffurfiol. Hefyd, nid oes tystiolaeth bod cyflogaeth anffurfiol yn awgrymu gwell deilliannau iechyd o'i gymharu â gweithwyr parhaol.
Gweithwyr Anffurfiol yn yr Undeb Ewropeaidd
Geiriau allweddol: Y DU a Rhyngwladol
Adnodd - Hydref 11, 2024
Effaith yr Argyfwng Economaidd-gymdeithasol ar Aelodau’r Ffederasiwn Banciau Bwyd Ewropeaidd (FEBA)
Yn edrych ar ddarlun yn seiliedig ar dystiolaeth o sgil-effeithiau'r argyfwng costau byw, ar weithrediadau Banciau Bwyd ac ar broffil y buddiolwyr terfynol a gefnogir drwy sefydliadau elusennol ar draws gwledydd Ewrop sy'n aelodau o’r Ffederasiwn. Mae'n dangos yr angen cynyddol am Fanciau Bwyd a hefyd y perygl cynyddol o ddiffyg diogeled bwyd, gan gynnwys y grwpiau sy’n wynebu’r perygl mwyaf o hyn.
Effaith yr Argyfwng Economaidd-gymdeithasol ar Aelodau’r Ffederasiwn Banciau Bwyd Ewropeaidd (FEBA)
Geiriau allweddol: Y DU a Rhyngwladol