Mynd i'r cynnwys

Filter content

Adnoddau

Showing 1 - 10 of 504 results

Loading...
Adnodd - Hydref 8, 2024

Cost Anghydraddoldeb Iechyd i GIG Cymru: Dangosfwrdd Rhyngweithiol

Mae'r dangosfwrdd rhyngweithiol hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyd-fynd â'r adroddiad 'Cost anghydraddoldeb iechyd i'r GIG yng Nghymru ar gostau sy'n gysylltiedig ag anghydraddoldeb iechyd yn y defnydd o wasanaethau ysbyty. Mae'r dangosfwrdd yn caniatáu i ddefnyddwyr ddewis sut mae'r data'n cael ei arddangos a dewis deilliannau a gosodiadau gofal iechyd o ddiddordeb.

Cost Anghydraddoldeb Iechyd i'r GIG yng Nghymru: Dangosfwrdd Rhyngweithiol

Keywords: Economeg a Modelu Iechyd Health and Health Services


Adnodd - Hydref 8, 2024

Cost Anghydraddoldeb Iechyd i GIG Cymru. Adroddiad 1: Cost sy’n gysylltiedig ag anghydraddoldeb wrth ddefnyddio gwasanaeth ysbyty

Mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru'n amcangyfrif y gost ariannol sy'n gysylltiedig ag anghydraddoldeb yn y defnydd o wasanaethau ysbyty i'r GIG yng Nghymru er mwyn helpu i gyfeirio gwneud penderfyniadau a blaenoriaethu adnoddau tuag at atal ac ymyrryd yn gynnar drwy lens ecwiti, gan gyfrannu at ymadfer yn gynaliadwy ac yn gynhwysol yn sgil COVID-19. Mae dangosfwrdd rhyngweithiol yn cyd-fynd â'r adroddiad, gan alluogi defnyddwyr i ymchwilio'n fanwl i'r costau sy'n gysylltiedig ag anghydraddoldeb fesul categori gwasanaeth, rhyw, oedran a lefel amddifadedd.

Cost of Health Inequality to the NHS in Wales Report 1: Cost Associated with Inequality in Hospital Service Utilisation to the NHS in Wales - Welsh

Keywords: Economeg a Modelu Iechyd Health and Health Services


Peer Reviewed Article   - Hydref 7, 2024

Anghydraddoldeb a'r argyfwng COVID yn y Deyrnas Unedig

Mae'r adroddiad hwn yn archwilio sut y gallai tri thueddiad allweddol – newidiadau i'r ffordd yr ydym yn gweithio, newid yn yr hinsawdd a newid demograffig – effeithio ar anghydraddoldebau mewn Cymru'r dyfodol. Mae'n nodi y dylai paratoadau ar gyfer dyfodol gwaith sy'n newid ganolbwyntio ar ailddylunio swyddi a hyfforddiant a bod angen i bolisïau newydd, megis Incwm Sylfaenol Cyffredinol (UBI) a gweithio o bell, ystyried cydraddoldeb.

Anghydraddoldeb a'r argyfwng COVID yn y Deyrnas Unedig

Keywords: Define the problem and its root causes Health and Employment and Working Conditions Health and Income Security and Social Protection Health and Living Conditions Identify and develop options Peer Reviewed Article   UK Y DU a Rhyngwladol


Adnodd - Hydref 3, 2024

Cynllun gweithredu teithiol llesol

Cynllun gweithredu teithiol llesol

Cynllun gweithredu teithiol llesol

Keywords: Polisi


Adnodd - Gorffennaf 23, 2024

Dadansoddi Cost-Effeithlonrwydd Dosbarthu Technolegau Iechyd: Gofynion a Heriau Data

Mae'r papur hwn yn amlygu'r bylchau data a'r heriau i adeiladu dadansoddiad cost-effeithiolrwydd dosbarthu cadarn (DCEA) fel mater o drefn wrth asesu technoleg iechyd ac mae’n awgrymu camau gweithredu i oresgyn y rhwystrau hyn.

Dadansoddi Cost-Effeithlonrwydd Dosbarthu Technolegau Iechyd: Gofynion a Heriau Data

Keywords: 2020


Adnodd - Gorffennaf 23, 2024

Rhoi cydraddoldeb rhwng y rhywiau wrth wraidd y Compact Digidol Byd-eang: Bwrw ymlaen ag argymhellion seithfed sesiwn a thrigain y Comisiwn ar Statws Menywod

Mae’r papur hwn, a baratowyd gan Fenywod y Cenhedloedd Unedig mewn cydweithrediad â’r Glymblaid Gweithredu ar Arloesedd a Thechnoleg ar gyfer Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau, yn anelu at helpu llywodraethau, llunwyr polisïau, sefydliadau amlochrog, y sector preifat a chymdeithas sifil i adeiladu consensws ynghylch fframwaith trawsnewidiol o ran rhywedd i hyrwyddo hawliau a grymuso menywod a merched yn yr oes ddigidol.

Rhoi cydraddoldeb rhwng y rhywiau wrth wraidd y Compact Digidol Byd-eang

Keywords: 2024


Adnodd - Mehefin 18, 2024

Cost economaidd anghydraddoldebau iechyd yn Lloegr

Mae'r adroddiad hwn yn meintioli cost anghydraddoldebau iechyd yn Lloegr drwy gyflwyno'r marwolaethau y gellir eu hosgoi oherwydd anghydraddoldebau iechyd. Mae’r canfyddiadau’n dangos sut y bydd peidio â mynd i’r afael â’r tueddiadau mewn anghydraddoldebau iechyd yn creu pwysau ychwanegol ar y GIG.

Cost economaidd anghydraddoldebau iechyd yn Lloegr


Adnodd - Mehefin 18, 2024

Pecyn cymorth ar sut i roi presgripsiynu cymdeithasol ar waith

Crëwyd y pecyn cymorth hwn i helpu i gyflwyno presgripsiynu cymdeithasol ar lefel gymunedol. Mae’n amlinellu’r camau sydd eu hangen i gyflwyno cynllun presgripsiynu cymdeithasol ac mae’n cynnwys deunyddiau enghreifftiol y gellir eu haddasu i’r cyd-destun lleol. Mae wedi'i gynllunio ar gyfer sefydliadau, cyfleusterau gofal iechyd, gweithwyr iechyd meddwl, a llunwyr polisïau sy'n ceisio cynyddu ymyriadau cymunedol.

Pecyn cymorth ar sut i roi presgripsiynu cymdeithasol ar waith


Adnodd - Mehefin 18, 2024

Y Fframwaith Tegwch Iechyd Plant ar gyfer yr hyn sy’n Sbarduno Anghydraddoldebau Iechyd

Mae'r Fframwaith Tegwch Iechyd Plant yn nodi penderfynyddion cymdeithasol ar gyfer iechyd plant a phobl ifanc. Ei brif ddiben yw tanategu camau gweithredu i sicrhau mwy o degwch o ran iechyd.

Y Fframwaith Tegwch Iechyd Plant ar gyfer yr hyn sy’n Sbarduno Anghydraddoldebau Iechyd


Adnodd - Mehefin 18, 2024

Datganiad Rio de Janeiro ar Rôl Sefydliadau Iechyd Cyhoedd Cenedlaethol wrth Wynebu Anghydraddoldebau Iechyd

Mae'r datganiad yn annog sefydliadau sy’n aelodau o Gymdeithas Ryngwladol Sefydliadau Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol (IANPHI) i roi hybu tegwch iechyd wrth wraidd eu gwaith. Mae'n eu hannog i ddogfennu annhegwch presennol trwy wyliadwriaeth neu arsyllfeydd penodedig, mesur cynnydd a dod â thystiolaeth ar ymyriadau iechyd y cyhoedd i leihau'r bwlch cynyddol o annhegwch iechyd i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a chefnogi eu rhoi ar waith.

Datganiad Rio de Janeiro ar Rôl Sefydliadau Iechyd Cyhoedd Cenedlaethol wrth Wynebu Anghydraddoldebau Iechyd